Skip to content

Cigydd ifanc a’i fusnes cig ar y brig

Dolenni perthnasol

Mae'r adran hon yn disgrifio sut yr ydym yn cefnogi’r rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru.
Cigydd gyda chyllell
Mae cigydd ifanc sydd wedi lansio’i fusnes ei hun yn dosbarthu cig o fferm y teulu i gartrefi a busnesau lleol yn dweud mai ei brentisiaeth oedd yr allwedd i’w lwyddiant.

Mae Tomos Hopkin, gŵr ifanc deunaw oed o Rhiwfawr ger Abertawe wedi ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc y Flwyddyn Cymru dair blynedd yn olynol, yn ogystal ag ennill gwobr Grand Slam Cigydd Ifanc y Flwyddyn Prydain, ac yn ddiweddar cafodd ei enwi’n Brentis Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru.

Dywedodd Tomos:

“Heb brentisiaeth fydden i heb gael y cymwysterau a’r sgiliau i redeg fy musnes fy hun.  Rwy’n bendant yn argymell prentisiaeth i unrhyw un oherwydd mae’n ffordd o ennill cyflog a dysgu ar yr un pryd, a chael crefft yn y pen draw.”

Wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cynhyrchu Bwyd, Trin Cig a Dofednod a Sgiliau Manwerthu, lansiodd Tomos gwmni Gwyrhyd Mountain Meat.  Mae’r mentrwr ifanc yn mynd o ddrws i ddrws i werthu cig oen Cymreig, cig eidion, porc, cyw iâr a thwrci o fferm y teulu, Crachllwyn ger Abertawe.

“Drwy lansio’r busnes a gwneud y rownd gig mae’r fferm wedi dod yn fwy proffidiol, ac mae’r adborth da gan gwsmeriaid wedi bod yn werthfawr iawn.

“Dechreuais drwy ddosbarthu i gartrefi yn yr ardal, ond nawr rydw i wedi symud ymlaen at y busnesau a’r gwestai lleol. Mae gen i lawer o gynlluniau ar gyfer y dyfodol ac rwy’n bwriadu parhau i ehangu’r busnes ac adeiladu ar fy llwyddiant hyd yn hyn.”

Yn ein Rhaglen Lywodraethu, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd prentisiaeth ar gyfer pobl ifanc a pharhau i gefnogi cyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau o safon uchel.

Bellach mae dros 40,000 o brentisiaethau yng Nghymru mewn amrywiol sectorau gan gynnwys iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddiaeth busnes, adeiladu, peirianneg, manwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid.