Skip to content

Diwrnod mewn bywyd Swyddogion Cymorth Cymunedol

Dolenni perthnasol

Un o bum blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol atodol ar draws Cymru.
Rydym am i'n cymunedau fod yn fannau y mae pobl yn teimlo'n ddiogel yn byw a gweithio ynddynt, yn awr ac yn y dyfodol.
Swyddiogion Cymorth Cymunedol yn siarad â siopwr
Jan Woodward yw un o Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd yr Heddlu yng Nghymru ac fe’i penodwyd yn gynharach eleni i batrolio strydoedd Abertyleri.

Yn ei ‘Rhaglen Lywodraethu’ ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wneud ein cymunedau yn fwy diogel drwy ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol drwy’r wlad.

Mae gwaith Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn amrywiol ac yn canolbwyntio ar gael ei weld yn amlwg yn y gymuned, ar atal trosedd, ar roi tawelwch meddwl i drigolion a busnesau lleol ac ar ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Jan Woodward, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu:

“Mae fy swydd yn rhoi boddhad mawr imi ac rwy’n teimlo fy mod eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

“Rwy’n meddwl fod dod i adnabod pobl yn bersonol yn hollbwysig os ydych eisiau eu helpu nhw a’u cymuned, ac rwyf wedi dilyn yr egwyddor hon yn fy holl waith yn y gymuned.  

“Rydym wedi cynnal cystadleuaeth gelf yn yr ysgol gynradd leol ar y cyd ag OWL, sef Online Watch Link, sy’n gweithio i atal a datgelu trosedd. Mae’n bwysig magu perthynas â phlant ac ennyn eu cefnogaeth oherwydd maen nhw’n aml yn gallu dylanwadu ar eu rhieni.”

“Rwy’n mynychu grwpiau i bobl dros drigain oed yn rheolaidd i gael sgwrs gyffredinol ac i egluro sut mae OWL yn gweithio. Gall pobl oedrannus deimlo’n unig ac yn anniogel weithiau, hyd yn oed yn eu cartrefi eu hunain, ac rwyf eisiau bod yn rhywun y gallan nhw ynddiried ynddo a throi ato am unrhyw gyngor a chymorth angenrheidiol.”

Dywed Brian Stone sy’n Rheolwr Siop yng nghanol y dref fod presenoldeb amlwg Jan wedi helpu i leihau achosion o ladrata o’r siop.  

“Mae’r risg o ddwyn o’n siop yn uchel ac mae llawer iawn o hynny wedi digwydd ers inni agor flwyddyn yn ôl. Mae Jan yn galw heibio am sgwrs yn eithaf aml ac rwyf wedi gweld pobl y gwn eu bod yn lladron yn troi ar eu sawdl ac yn cerdded allan ar ôl sylwi ei bod yma.”

Dywedodd Caroline Boden sy’n byw yn Abertyleri fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem yn y dref, yn enwedig ar nos Wener.

“Does dim llawer o barch gan lawer o’r bobl ifanc ac mae’n braf gwybod fod rhywun wrth law i helpu os byddwn yn cael problemau. Mae’r Swyddogion Cymorth Cymunedol yn gwneud gwaith da ac yn gwneud gwir wahaniaeth,” meddai.  

Fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, nid yw gwaith Jan wedi’i gyfyngu i faterion cymunedol. Mae wedi helpu i chwilio am alcohol a thybaco a’i gymryd oddi ar bobl, bu’n cynnal ymholiadau o ddrws i ddrws wrth ymchwilio i drosedd ac mae wedi rhoi dipyn go lew o gosbau penodedig.

“Os bydd pobl yn parcio’n anghyfreithlon fe fyddan nhw’n cael tocyn – mae mor syml â hynny!”

Mae Jan yn credu ei bod wedi dod o hyd i’w gwir alwedigaeth o’r diwedd.

“Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn Abertyleri. Oes, mae gan y dref ei phroblemau, ond mae’r bobl yn wych ac rwyf wedi cael ymateb ardderchog – hyd yn oed gan y rhai mwyaf annisgwyl!”