Skip to content

Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio i sicrhau bod ei fuddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i Gymru.
Mae cynlluniau uchelgeisiol sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i hybu twf a swyddi wedi’u cyhoeddi.
Adeilad Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath
Adleolwyd Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath o’i lleoliad cyfredol yn Nhondu, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, i ysgol newydd ym Mracla yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr.

Caiff yr ysgol newydd ei hariannu ar y cyd gan Archesgobaeth Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru.

Mae’r prif adeilad yn rhychwantu tri llawr ac mae lle i 750 o ddisgyblion 11-18 oed, gan gynnwys 150 o ddisgyblion chweched dosbarth. Drwy godi’r ysgol ar dri llawr ceid gwell effeithlonrwydd o ran defnydd tir ac ynni, gydag awyru naturiol a lloriau concrid dwys iawn yn creu màs thermol ar gyfer rheoli tymereddau’n oddefol.

Drwy’r ysgol gyfan, mae’r gweithgareddau addysgol a chymdeithasol craidd yn creu’r cyswllt rhwng mannau ystafelloedd dosbarth – mae’r brif fynedfa, y neuadd chwaraeon, y neuadd fawr a’r cantîn yn clymu’r mannau addysgu at ei gilydd. Mae ystafelloedd dosbarth a gweithfannau hyblyg yn darparu ar gyfer dosbarthiadau o wahanol faint ac amrywiaeth o arferion addysgu.

Mae’r dyluniad yn golygu bod mwy o dir ar gyfer cyfleusterau chwaraeon i’r ysgol a chyfleusterau hamdden ychwanegol, y gall y gymuned leol ehangach eu defnyddio gyda’r nos ac ar benwythnosau.

At hynny, yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Adeiladu 2012, sef gwobrau uchel eu parch, cafodd yr ysgol wobr yng nghategori’r Adeilad Addysg Gorau a chategori’r Prosiect Cynaliadwy Gorau.

Cafodd y prosiect ei ganmol am ei ddyluniad a ddefnyddiai broffil y tir o’i amgylch a’i gydnabod hefyd am ddulliau cydweithredol y tim dylunio. Yn eu sylwadau ar lwyddiant y prosiect yng nghategori Prosiect Cynaliadwy y Gwobrau, dywedodd y beirniad:

"fod y ffordd yr oedd pensaer y cynllun, a gafodd radd Rhagorol o dan ddull asesu amgylcheddol BREEAM, wedi ymdrin â dylunio goddefol yn hollbwysig i’r prosiect, nid yn unig o ran lleihau ôl troed carbon yr ysgol ond hefyd leihau’r costau rhedeg, sy’n sbardun allweddol i’r Awdurdod Lleol”.

Cafwyd cymeradwyaeth y cam tendro cyntaf ar 17 Rhagfyr 2009 i ddisodli’r Ysgol bresennol, sef Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath yn Nhon-du, Pen-y-bont ar Ogwr, a galluogi adeiladu ysgol uwchradd gyda 750 o ddisgyblion gan gynnwys cyfleusterau hamdden ar safle gwag ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr. Dechreuodd y gwaith ar ddechrau 2010 gydag ysgol bwrpasol newydd ar gost gyffredinol o £21.4m gyda Llywodraeth Cymru’n cyfrannu £14m i’r prosiect. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol yn Rhagfyr 2011 gan y Prif Weinidog.