Skip to content

Gwedd newydd moethus i dafarn hanesyddol – cefnogi twristiaeth yng Nghymru

Perchenogion Y Talbot yn sefyll bwys mynediad y dafarn
Daeth y teulu Watkin a’r teulu Taylor yn berchenogion ar westy a thafarn Y Talbot yng Ngheredigion yn 2010.

Mae’r Talbot yn adeilad rhestredig Gradd 2 hanesyddol yn nhref farchnad Tregaron. Mae ei berchenogion newydd yn awyddus iawn i’w sefydlu fel tafarn a bwyty gorau’r Canolbarth.

Darparodd Llywodraeth Cymru grant o £111,000 ar gyfer adnewyddu a datblygu’r dafarn yn westy 4 seren, gan helpu i greu a chynnal 10 o swyddi ar gyfer pobl leol. Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o’n cynllun o fewn y Rhaglen Lywodraethu i hybu Cymru trwy gynnig profiad o’r radd flaenaf i dwristiaid. 

Dywedodd y perchennog Nia Taylor:

“Mae’r Talbot yn dafarn ers dros 400 o flynyddoedd. Mae’n lle cwbl hudolus sydd wedi cadw ei hen drawstiau, lloriau llechen a’i leoedd tân dyfn."

“Hoffem weld Y Talbot yn cynnig profiad cyflawn i ymwelwyr – bwyd da yn y bwyty, cwrw lleol yn y bar a noson dda o gwsg. Ry’n ni eisoes hanner ffordd yno gan fod yr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn wedi enwi’r Talbot fel Tafarn y flwyddyn yng Ngheredigion."

“Mae’r grant wedi ein galluogi i fuddsoddi cryn dipyn yn ein hystafelloedd a’n staff fel y gall ymwelwyr fwynhau profiad cwbl foethus."

“Mae’r gwaith o adnewyddu’r ystafelloedd gwely’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a’n nod yw cwblhau’r gwaith hwn erbyn mis Medi 2012. Bydd croeso cynnes iawn i bawb yn Y Talbot.”

Mae amaethyddiaeth yn nodwedd amlwg iawn o’r ardal hon ac felly mae defnyddio cynnyrch lleol yn hollbwysig. Daw’r rhan fwyaf o gynnyrch y bwyty o ffynonellau lleol, cig o ffermydd lleol, pysgod o Fae Ceredigion a llaeth a chaws o laethdai lleol. Caiff y gegin a’r bwydlenni eu rheoli gan Dafydd Watkin, sef y prif gogydd. Bu Dafydd yn brotégé i Marco Pierre White ond mae bellach wedi dewis dychwelyd i’w fro enedigol yng Ngheredigion.

Dywed Dafydd ei fod wedi cyflawni uchelgais oes: 

“Ar ddechrau gyrfa mewn arlwyo eich prif nod yw rhedeg eich cegin eich hun. Rwy’ wedi bod yn ddigon ffodus i allu gwneud hyn mewn ardal sydd mor bwysig imi. Mae’r cyfle hwn wedi fy ngalluogi i ddychwelyd i Gymru â’r holl sgiliau a ddysgais dan ofal cogydd â thair seren Michelin.”

“Eto i gyd, mae’r cynnyrch yr un mor bwysig â’r cogydd. Ry’n ni’n ffodus iawn fod Ceredigion yn frith o fwydydd a chynhyrchwyr o fri.”