Skip to content

Cerbyd mawr, glân, gwyrdd – yn helpu Pen-y-bont ar Ogwr i gyrraedd targedau ailgylchu

Dolenni perthnasol

Dyma brif strategaeth gwastraff Cymru.
Gwybodaeth ar gyfer gwastraff ac ailgylchu yng Nghymru.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Dau ddyn yn siarad o flaen cerbyd ailgylchu newydd yn Pen-y-bont
Ar yr olwg gyntaf, mae’n siŵr bod y 21 cerbyd ailgylchu ar strydoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych fel unrhyw gerbyd casglu sbwriel cyffredin arall.

Ond mae’r modelau arloesol hyn wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i godi safle Pen-y-bont ar Ogwr ym maes ailgylchu o’r awdurdod lleol gwaethaf ond un yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl i fod yn un o’r tri gorau erbyn heddiw.  Pen-y-bont ar Ogwr yw’r ardal sydd wedi gwella fwyaf ym maes ailgylchu yng Nghymru, yn swyddogol.

Bu Huw Jenkins, Rheolwr Grŵp Gwaith Stryd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud mwy am y gwelliannau enfawr hyn.

Dywedodd Huw:

“Mae’r newidiadau yma’n rai dramatig.  Dwy flynedd yn ôl 31% yn unig o’n gwastraff oedd yn cael ei ailgylchu, bellach rydyn ni wedi cyrraedd 54%.  Mae hynny 2% yn uwch na tharged Llywodraeth Cymru o 52% ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac rydyn ni’n falch iawn o’n llwyddiant.

“Rydyn ni wedi gweddnewid ein strategaeth yn llwyr, pwy sy’n rhedeg y gwasanaeth yn lleol, ein ffordd o gasglu ac ailgylchu deunyddiau a beth sy’n rhaid i drigolion ei wneud.  Mae’n deg dweud bod Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn strategaeth debyg iawn i’r model a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

“Mae ein partneriaid May Gurney yn casglu deunydd i’w ailgylchu yn wythnosol, a phob gwastraff arall sy’n weddill bob yn ail wythnos.  Un o’r gwahaniaethau mawr gyda’n gwasanaeth yw bod y rhan fwyaf o’r gwaith didoli’n digwydd ar garreg y drws.  O ganlyniad mae gennym ddeunydd o safon llawer uwch a glanach i’w ailgylchu, sydd yn ei dro yn golygu ein bod ni’n gallu manteisio ar y prisiau gorau ar y farchnad.”

Mae’r trigolion yn derbyn dau flwch du a bag hesian ar gyfer eitemau i’w hailgylchu, a blwch brown ar gyfer gwastraff bwyd.  Mae gan y cerbyd adrannau unigol ar gyfer gwydr, cardbord, papur, metel, plastig, gwastraff bwyd, dillad, tecstilau a batris.  Mae’r holl ddeunyddiau yn cael eu dosbarthu ar un cerbyd, a’r gwastraff sy’n weddill i’w gludo i safleoedd tirlenwi yn unig sy’n cael ei gasglu mewn lori ar wahân.
 
Dywedodd Huw:

“Roedden ni’n poeni i ddechrau y byddai’r newidiadau’n drysu pobl, ond mae wedi mynd yn syndod o dda.  Cafwyd sawl galwad ffôn ar y dechrau, ond fe dawelodd pethau’n fuan, ac mae pobl wedi ymateb yn dda iawn i’r system newydd.  Mae’r casgliadau ar yr un diwrnod bob tro ac mae popeth sy’n gallu cael ei ailgylchu neu gompostio yn cael ei gasglu’n wythnosol, felly mae’n bendant yn symlach o ran hynny.”

Yn y Rhaglen Lywodraethu, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o leihau gwastraff a lleihau’r swm sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.  Yn ystod 2011/12, darparwyd £71 miliwn o arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi gwasanaethau ailgylchu.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i’r awdurdodau lleol, gan roi buddsoddiad ychwanegol.  Roedd hyn yn help mawr i ni dalu am y newidiadau,” meddai Huw.  “Ond nawr, gan eu bod nhw yn eu lle, rydyn ni’n arbed dros £1 miliwn y flwyddyn.  Dydy hynny ddim hyd yn oed yn cynnwys yr arbedion yn sgil llai o wastraff mewn safleoedd tirlenwi, sy’n sylweddol.”

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y dyfodol.  Ychwanegodd Huw: “Mae gwaith i’w wneud o hyd yn yr ardaloedd sy’n perfformio waethaf ac rydyn ni wedi bod yn siarad â’r trigolion, gosod taflenni a chynnal grwpiau ffocws.

“Rydyn ni hefyd yn trafod gwastraff gardd a gwastraff masnachol, ac yn dechrau cynllunio sut i wneud gwelliannau yn y meysydd hyn.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ailgylchu o 70% erbyn 2025 sy’n nod heriol.  Ond rydyn ni’n sicr ar y trywydd iawn ac yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd y targed hwn”.