Skip to content

Ymchwil Gorffenedig

Adroddiadau
O’r dudalen hon, gallwch gael gafael ar ein holl ymchwil gorffenedig.



 

Effaith Tollau’r Hafren ar Economi Cymru

05/11/12
Mae’r berthynas rhwng Croesfannau Hafren ac economi Cymru yn un mor gymhleth fel bod yr astudiaeth yn cwmpasu ystod eang o faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth a materion economaidd.
 

Effeithiau Economaidd yn Lleol a Rhanbarthol o ganlyniad i Fuddsoddiadau Rheilffordd

30/01/12
Amcan yr ymchwil hwn oedd astudio ac asesu y dystiolaeth economaidd ynghylch effeithiau economaidd yn lleol a rhanbarthol o ganlyniad i fuddsoddiadau rheilffordd.
 

Defnydd o'r Iaith Gymraeg yn y Sector Preifat: Astudiaethau Achos

15/12/11
Amcan yr astudiaeth hon yw gwella’r ddealltwriaeth o gostau a manteision dwyieithrwydd yn y sector preifat.
 

Effaith economaidd ynni carbon isel ar borthladdoedd Cymreig

12/09/11
Nod yr ymchwil hwn yw asesu yr effaith economaidd posib ar borthladdoedd Cymreig oherwydd datblygiadau ynni carbon isel.
 

Datblygu fframwaith gwerthuso i archwilio effeithiau ac effeithlonrwydd y rhwydwaith Technium

19/11/10
Yr oedd y gwaith ymchwil Cam 1 hwn yn cynnwys casglu tystiolaeth ar hynt y gwaith o roi rhaglen y Technium ar waith a datblygu dulliau gwerthuso cadarn ar gyfer rhaglen y Technium.
 

Dadansoddiad economaidd o oblygiadau cyflwyno 'cyflog byw' yng Nghymru

01/09/10
Nod y gwaith ymchwil hwn yw gwella’r ddealltwriaeth o’r goblygiadau yn sgil cyflwyno polisi cyflog byw yng Nghymru.
 

Y dystiolaeth economaidd ar y rhwystrau a wynebir gan rieni sengl yng Nghymru mewn perthynas â swyddi a hyfforddiant

24/05/10
Nod y gwaith ymchwil hwn yw astudio pwysigrwydd cymharol y gwahanol ddewisiadau a’r cyfyngiadau y mae rhieni sengl yn eu hwynebu yng Nghymru a chreu rhestr gynhwysfawr o’r rhwystrau a wynebir gan rieni sengl sydd am weithio neu dderbyn addysg.
 

Cynhyrchiant yng Nghymru: yr effaith y mae bod ar y cyrion yn ddaearyddol yn ei chael ar gynhyrchiant

24/05/10
Nod yr adroddiad hwn yw ymchwilio i berifferoldeb a’i effaith ar wahaniaethau gofodol mewn cynhyrchiant.
 

Effaith Ymfudiad o Wledydd Canol a Dwyrain Ewrop ar y Farchnad Lafur yng Nghymru (Saesneg yn unig).

14/09/09
Mae’r astudiaeth hon yn edrych ar effeithiau ymfudiad o wledydd sydd wedi’u derbyn.
 

Estyn yr ymchwil ar ddeall yr amrywiadau o ran cynhyrchiant rhwng Cymru a’r DU: i ba raddau y mae cynhyrchiant yn amrywio ar draws rhanbarthau a/neu sectorau o economi Cymru (Saesneg yn unig)

14/09/09
Estyniad yw’r adroddiad hwn i’r astudiaeth flaenorol ar gynhyrchiant.
 

Gwerthuso'r cynllun peilot "Want2Work" (Saesneg yn unig)

14/09/09
Mae’r astudiaeth hon yn ystyried prosesau a chanlyniadau’r rhaglen "Want2Work".
 

Cyflogi gweithwyr mudol: astudiaethau achos o rai cyflogwyr yng Nghymru a’r Alban (Saesneg yn unig)

17/06/09
Amcan yr ymchwil hon yw asesu effeithiau uniongyrchol llafur mudol ar Gymru a phroblemau posibl yn y tymor hwy. Ariannwyd yr ymchwil hon ar y cyd â Gweithrediaeth yr Alban.
 

Astudiaeth archwiliol i effaith newid ym mherchnogaeth busnes ar gyflogaeth a chyflogau (Saesneg yn unig).

17/06/09
Diben yr astudiaeth hon yw adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael ar effeithiau’r newidiadau ym mherchenogaeth busnes ar gyflogaeth a chanlyniadau eraill i gwmnïau.
 

Adolygiad o’r dystiolaeth economaidd ar yr hyn sy’n penderfynu buddsoddiad uniongyrchol o dramor a’i effeithiau (Saesneg yn unig).

16/06/09
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar fuddsoddiad tramor uniongyrchol, ac yn adolygu’r ymyriadau polisi perthnasol.
 

Adolygiad o’r dulliau polisi ym maes datblygu economaidd a datblygu cyflogaeth yn lleol mewn gwledydd sydd yn rhan o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (Saesneg yn unig)

16/06/09
Nod yr ymchwil hwn oedd darparu opsiynau polisi a modelau dysg i’w hystyried wrth lunio polisiau a strategaethau yn y dyfodol.
 

Asesiad o Effeithiau Economaidd Rhanbarthol Cynhyrchu Ynni'r Llanw yn Aber Afon Hafren (Saesneg yn unig).

26/01/09
Nod yr astudiaeth hon yw darganfod effeithiau economaidd net arwyddocaol a fyddai yn cronni i economiau Cymru a De Orllewin Lloegr o ganlyniad i opsiynau ynni llanw gwahanol.
 

Effaith economaidd buddsoddiadau ar raddfa fawr mewn seilwaith ffisegol a deallusol (Saesneg yn unig)

06/11/08
Pennwyd effaith buddsoddi eang mewn seilwaith trwy ddefnyddio adolygiadau o lenyddiaeth a mentrau datblygu’r economi ym meysydd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu ac Ynni Adnewyddadwy.
 

Adolygiad o effeithiau economaidd amsugno technoleg a masnacheiddio o fewn cwmnïau (Saesneg yn unig)

06/11/08
Mae’r ymchwil hwn yn adolygu’r llenyddiaeth economaidd ynghylch effeithiau ymledu a defnyddio technoleg ar berfformiad diwydiannol ac economaidd.
 

Dadansoddiad o’r cynllun Cymorth Rhanbarthol Dewisol (CRhD) yng Nghymru (Saesneg yn unig)

06/11/08
Mae’r adroddiad hwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio micro-ddata cysylltiedig i werthuso Cymorth Rhanbarthol Dewisol yng Nghymru.
 

Effaith ymfudo: adolygiad o’r dystiolaeth economaidd (Saesneg yn unig).

05/05/08
Mae’r ymchwil hon yn darparu adolygiad cynhwysfawr o’r llenyddiaeth economaidd ar effaith economaidd ymfudo.
 

Denu Doniau: y patrymau gofodol a chyfansoddiad ymfudo yng Nghymru; a Denu Doniau: dadansoddiad estynedig o batrymau ymfudo yng Nghymru (Saesneg yn unig).

04/05/08
Archwiliodd yr astudiaeth hon y ffrydiau mudo i mewn i Gymru ac allan ohoni, a chyfansoddiad y ffrydiau hynny.
 

Y galw am lafur mewn ardaloedd o weithgarwch economaidd isel (Saesneg yn unig).

15/01/08
Amcan yr adroddiad hwn oedd gwella'r ddealltwriaeth o'r galw am lafur, yn enwedig gweithwyr di-grefft, mewn ardaloedd o weithgarwch economaidd isel.
 

Y gynffon hir o sgiliau isel yng Nghymru a’r DU - adolygiad o’r dystiolaeth (Saesneg yn unig).

12/11/07
Adolygodd yr astudiaeth hon yr ymchwil bresennol i fesur i ba raddau y mae’r DU a Chymru yn anarferol drwy feddu ar 'gynffon' hir o bobl sydd ag ychydig, neu ddim, cymwysterau.
 

Is-gyfrifon Amgylcheddol Arbrofol i Gymru.

26/03/07
Nod yr astudiaeth hon oedd sefydlu Is-gyfrif Amgylcheddol arbrofol i Gymru fel cyfrwng i gasglu gwybodaeth gadarn er mwyn llywio ac ategu polisi datblygu cynaliadwy.
 

Cymudo yng Nghymru (Saesneg yn unig).

26/03/07
Archwiliodd yr ymchwil hon y prif ffactorau sydd wedi sbarduno newid yn y patrymau cymudo yng Nghymru dros y degawd diwethaf.
 

Defnyddio data nad yw’n swyddogol i fesur pa mor ddeniadol yw’r lleoliadau (Saesneg yn unig).

02/11/06
Archwiliodd yr astudiaeth hon y posibilrwydd o ddefnyddio data nad yw’n swyddogol er mwyn gwneud dadansoddiad economaidd-gymdeithasol. Bydd y rhain yn edrych ar ffactorau sy’n gysylltiedig â pha mor ddeniadol yw lleoliadau yng Nghymoedd y De.
 

Deall yr amrywiadau mewn cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU (Saesneg yn unig).

02/11/06
Bwriad yr astudiaeth hon yw nodi’r hyn sy’n achosi gwahaniaethau mewn cynhyrchiant rhwng Cymru â gweddill y DU.
 

Cymry ar wasgar: dadansoddiad o ddaearyddiaeth enwau Cymreig (Saesneg yn unig).

02/11/06
Nododd yr ymchwil hon ymhle y ceir cymunedau Cymreig mewn gwledydd tramor Saesneg eu hiaith ac archwilio’r posibilrwydd o amcangyfrif maint ac ymlediad y bobl sy’n hanu o linach enetig Gymreig.
 

Adolygiad o’r llenyddiaeth ar effeithiolrwydd polisi datblygu economaidd (Saesneg yn unig).

02/11/06
Nod yr ymchwil oedd edrych i weld pa mor helaeth, pa mor gadarn a pha mor berthnasol i Gymru yw’r dystiolaeth am bolisïau i hyrwyddo datblygu economaidd.
 

Ffactorau sy’n dylanwadu ar leoliad gweithgareddau gwasanaethau symudol (Saesneg yn unig).

02/11/06
Asesodd yr ymchwil hon y dystiolaeth sydd ar gael yn y DU ac yn rhyngwladol am y ffactorau sy’n dylanwadu ar leoliad a pherfformiad sectorau sy’n darparu gwasanaethau eang eu masnach.
 

Mamau yn dechrau teulu yn gynnar ac yn hwyr yng Nghymru: tystiolaeth o angydraddoldebau cymdeithasol-economaidd yn yr arolwg cyntaf o Garfan Mileniwm y DU (Saesneg yn unig).

23/05/06
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar oedran cael plant fel llinyn mesur ar gyfer nifer o anfanteision cymdeithasol ac economaidd. Mae’n mentro damcaniaethau ar gyfer pam mae llai o fenywod yn gohirio cael plant yng Nghymru
 

Prosiect ategol twrisiaeth y DU - prosiect camau cyntaf (Saesneg yn unig).

23/05/06
Amcan yr ymchwil hon oedd llunio Cyfrifon Ategol Twristiaeth (TSA) ar gyfer y DU i'r graddau y bo modd gwneud hynny a thynnu sylw at yr hyn a fyddai'n ofynnol i lunio Cyfrif Ategol Twristiaeth cynhwysfawr.
 

Tueddiadau mewn cyfranogiad Addysg Uwch yn ôl cymdogaeth: tystiolaeth dros Gymru (Saesneg yn unig).

23/05/06
Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi tueddiadau’r rheini sy’n rhan o addysg uwch yng Nghymru ers dechrau’r 1990au.
 

Cyfle am welliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus i gyfrannu at gynnydd mewn gweithgarwch economaidd (Saesneg yn unig).

23/05/06
Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymchwilio i’r posibiliadau ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus sy’n cyfrannu i gynnydd mewn gweithgarwch economaidd.
 

Manteision economaidd addysg (Saesneg yn unig).

23/05/06
Mae’r ymchwil hon yn darparu adolygiad cynhwysfawr o’r llyfryddiaeth sy’n rhoi dadansoddiad o fanteision economaidd addysg; hefyd defnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu i ddarparu amcangyfrif cychwynnol o fanteision addysg yng Nghymru.
 

Effaith economaidd marchnad sengl a goblygiadau ehangu’r Yr Undeb Ewropeaidd (UE).

23/05/06
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn asesu'r effaith gyffredinol a gaiff ehangu'r UE ar yr economi, a nodi goblygiadau'r newidiadau hyn i strategaethau lleoliad a buddsoddi, ac i’r gwaith o ddatblygu polisïau cyhoeddus.
 

Economic Futures for Wales: adroddiad gan y Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd i Lywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg yn unig).

23/05/06
Mae’r papur hwn yn amlinellu barn y Panel ar y tueddiadau bras y bydd llunwyr polisïau economaidd yn debygol o ddod ar eu traws yn y tymor canolig i’r tymor hwy ac ar y goblygiadau y mae’n rhesymol eu casglu oddi wrthynt.
 

Effeithiau economaidd gwelliannau seilwaith trafnidiaeth: ffyrdd (Saesneg yn unig).

23/05/06
Mesurodd y gwaith ymchwil hwn effaith y gwelliannau mawr diweddar i seilwaith trafnidiaeth ffyrdd ar ddatblygu economaidd yng Nghymru, gyda’r nod o lywio’r broses o arfarnu prosiectau yn y dyfodol.
 

Trefi bychain deinamig: nodi ffactorau llwyddiant critigol (Saesneg yn unig).

23/05/06
Amcan y gwaith ymchwil hwn oedd nodi'r ffactorau hynny sydd wedi cyfrannu'n anffurfiol at lwyddiant trefi llai ac asesu'r posibiliadau ar gyfer polisïau er mwyn sicrhau'r un llwyddiant mewn mannau eraill.
 

Gwerthusiad o strategaeth sgiliau sylfaenol Cymru (Saesneg yn unig).

22/05/06
Asesodd yr astudiaeth hon y dystiolaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd ynghylch effaith y gwelliannau mewn sgiliau sylfaenol ar lefel angenrheidiol i weithredu a datblygu mewn gwaith ar y farchnad lafur a chanlyniadau cymdeithasol ac economaidd eraill.