Skip to content

Y Rhaglen Ymchwil Economaidd

Dolenni perthnasol

Mae’r dudalen hon yn disgrifio pwrpas ac aelodau’r Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd (y Panel) a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2002.
O’r dudalen hon, gallwch gael gafael ar ein holl ymchwil gorffenedig.
Sbectol ar lyfr agored
Cynlluniwyd y Rhaglen Ymchwil Economaidd gan Llywodraeth Cymru i ddarparu ymchwil a dadansoddiad o'r materion a'r sialensau sy'n wynebu economi Cymru.

Mae'n mynd i'r afael yn bennaf â materion datblygu economaidd ond mae hefyd yn cynnwys agweddau ar adfywio cymunedol, datblygu gwledig, addysg a dysgu gydol oes, yr amgylchedd, cynllunio, trafnidiaeth a'r agweddau ar y farchnad lafur sy'n ymwneud â iechyd.

Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar gynnwys y rhaglen ffurfiol, gan ddefnyddio cyngor y Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys mesurau i helpu i adeiladu'r gallu i gynnal ymchwil economaidd yng Nghymru.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein rhaglen ymchwil, anfonwch e-bost at: economic.researchunit@wales.gsi.gov.uk.