Skip to content

Y Rhaglen Ymchwil at y Dyfodol

Dolenni perthnasol

O’r dudalen hon, gallwch gael gafael ar ein holl ymchwil gorffenedig.
Ar y dudalen hon gallwch ddod o hyd i fanylion am ymchwil cyfredol ac ymchwil arfaethedig o fewn rhaglen ymchwil economaidd Llywodraeth Cymru.

Fel sy’n ofynnol yn unol â rheolau caffael Ewrop, bydd manylion y tendrau cymwys, ynghyd â’r tendrau a roddwyd, yn cael eu hysbysebu yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Lle bo hynny’n gymwys, bydd prosiectau’n cael eu hysbysebu ar wefan gwerthwchigymru (Cyswllt allanol).

Yr ymchwil sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd

  • Dwyieithrwydd yn y sector preifat yng Nghymru: astudiaeth archwiliol;
  • Tystiolaeth ryngwladol ar fuddsoddi mewn sgiliau yn rhan o gylch bywyd, gan gynnwys camau ymyrryd cyn-geni;
  • Dadansoddiad economaidd o oblygiadau cyflwyno 'cyflog byw' yng Nghymru (Cam 2);
  • Effaith economiadd tollau croesfannau Hafren. 

Ymchwil Arfaethedig

  • Effeithiau economaidd ehangach marchnadoedd tai;
  • Archwiliad o effeithiau polisïau adeiladu tai yng Nghymru, gan ganolbwyntio yn enwedig ar oblygiadau cymdeithasol y polisïau hyn a'r gwersi a ddysgwyd;
  • Deall y ffactorau a chymhellion sydd yn dylanwadu datblygiad economaidd lleol;
  • Y dystiolaeth economaidd ar effaith amodau macro-economaidd a pholisi macro-economaidd y DU ar Gymru, yn enwedig polisi cyfradd llog;
  • Rhan meysydd awyr mewn datblygiad economaidd rhanbarthol: arolwg llenyddiaeth.