Skip to content

Ymchwil yn ôl pwnc

Dolenni perthnasol

Helaeth o wybodaeth ystadegol am Gymru.
Llun o silffoedd llyfrau mewn llyfrgell
Cliciwch ar un o'r dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ar bwnc penodol.

Addysg a sgiliau

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bolisïau dysgu, addysg a sgiliau. Mae gwaith ymchwil yn ein galluogi i lunio ein polisïau a'n gwasanaethau yn ôl anghenion dysgwyr a darparwyr addysg yng Nghymru.  Gallwch weld adroddiadau ar y pwnc a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru trwy fynd i’r tudalennau ymchwil a gwerthuso addysg a sgiliau.

Yr amgylchedd a chefn gwlad

Ein nod yw creu amgylchedd cynaliadwy i bobl Cymru a chenedlaethau'r dyfodol. Rôl y gwaith ymchwil a gwerthuso yw llywio a chefnogi'r gwaith o lunio polisïau yn awr ac yn y dyfodol. Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil a ariennir gennym.

  • Rhaglen ymchwil ar yr amgylchedd  - Rhaglen ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru i fonitro’r amgylchedd. Nod y rhaglen yw ategu'r ymchwil a wneir gan adrannau eraill y Llywodraeth a chan asiantaethau i sicrhau, trwy ariannu a llywio prosiectau ar y cyd, y cynhelir ymchwil priodol i faterion sy’n berthnasol i Gymu.
  • Arsyllfa Wledig Cymru  - Mae'n ymgymryd ag ymchwil annibynnol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys materion amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol sy'n effeithio ar gefn gwlad Cymru.  Fe'i hariennir gennym trwy Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013 i helpu i lunio polisïau gwledig sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth.

Iechyd a gofal cymdeithasol

Iechyd a gofal cymdeithasol Mae iechyd a lles pawb sy'n byw yng Nghymru yn bwysig inni. Mae gwaith ymchwil yn ein helpu i greu polisïau gwell a darparu gwasanaethau gwell. Mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na thrin clefydau yn unig – mae'n ymwneud â mynd i'r afael â’r dylanwadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n effeithio ar iechyd a lles.  Mae’r gwaith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei wneud gan Chanolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

  • Ymchwil gan Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu – Mae’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn llunio polisïau ymchwil a datblygu, yn comisiynu ac yn ariannu gweithgareddau ymchwil a datblygu, ac yn rheoli contractau prosiectau a mentrau mewn ffordd sy’n adlewyrchu blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Tai a chymunedau

Tai a chymunedau Rydym o’r farn y dylai pawb gael cyfle i fyw mewn cartref o ansawdd da mewn cymunedau diogel. Mae ein hymchwil yn helpu i ddatblygu polisïau sy'n gwireddu'r weledigaeth hon, gan adnewyddu cymunedau a gwella bywydau pobl Cymru.  Ewch i’n tudalennau ymchwil ar dai a chymunedau i weld adroddiadau ymchwil a chrynodebau ar y pwnc.

Rhyngwladol

  • Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru - Nod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yw defnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewrop yn fwy effeithiol ac effeithlon yng Nghymru.  Mae'r tim yn monitro ac yn gwerthuso'r effaith mae rhaglenni Cronfeydd Strwythurol blaenorol a phresennol yn ei chael ar broblemau economaidd a strwythurol Cymru.

Llywodraeth Leol

Ein nod yw rhoi cymorth ariannol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru a chydweithio'n agos â nhw i wella eu gallu i ddarparu eu gwasanaethau. Ar y tudalennau ymchwil ar Lywodraeth Leol, gallwch weld yr adroddiadau ymchwil a gyhoeddwyd gennym ar y pwnc.

Cynllunio

Rydym yn gyfrifol am fframwaith cyffredinol y system gynllunio yng Nghymru. Sefydlwyd Rhaglen Ymchwil Gynllunio Cymru a'r Rhaglen Ymchwil Mwynau er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi cynllunio yng Nghymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith ymchwil Llywodraeth Cymru yn y maes ar y tudalennau ymchwil ar gynllunio. 

Twristiaeth

Mae twristiaeth yn ddiwydiant hynod gystadleuol a deinamig sy'n newid yn barhaus. Mae ein tîm twristiaeth, Croeso Cymru, yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu twristiaeth yng Nghymru. Rôl ymchwil yw cefnogi'r swyddogaethau allweddol hyn.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ymchwil yn y maes ar y tudalennau ymchwil ar dwristiaeth.