Skip to content

Ymchwil gymdeithasol

Dolenni perthnasol

Bydd Arolwg yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall a thargedu materion sy’n bwysig i bobl Cymru.
Mae rhoi cyfle i randdeiliaid roi adborth ar eu cydberthynas waith â Llywodraeth y Cynulliad yn ffordd bwysig o nodi ffyrdd o wella ymgysylltiad â rhanddeiliaid.
Pobl yn cerdded
Mae ymchwil gymdeithasol yn sail i bob polisi y mae'r llywodraeth yn ei ddatblygu mewn meysydd fel iechyd, addysg, trafnidiaeth - popeth sy'n effeithio arnom ni fel dinasyddion. Mae ymchwil gymdeithasol yn llywio'r pa bolisiau sy'n cael eu gweithredu, sut mae polisiau yn cael eu gweithredu, yn dangos beth y mae pobl yn ei feddwl amdanynt ac yn ein helpu i ddeall y canlyniadau.

Mae ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn:

Beth mae ymchwilwyr cymdeithasol yn wneud?

Fel ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda gwneuthurwyr polisi. Rydym yn darparu nhw a gwybodaeth ddibynadwy, berthnasol ac amserol sydd allu cefnogi’r datblygiad, trosglwyddiad a gwerthusiad o bolisi yng Nghymru. Rydym ni hefyd yn gweithio i sicrhau bod y ddadl polisi yn wybodus o’r dystiolaeth fwyaf addas a cyfoes.

Fel Pennaeth y Proffesiwn, Dr Steven Marshall, y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol, sy'n gyfrifol am roi arweiniad proffesiynol a chefnogaeth i holl Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth sy'n rhan o Lywodraeth Cymru.

Gwerthuso

Rhan bwysig o waith ymchwilwyr cymdeithasol yn y llywodraeth yw gwerthuso polisïau a rhaglenni.

Mae Llyfr Magenta y GSR yn cynnig y diffiniad canlynol:

Cyfres o ddulliau ymchwil yw gwerthuso polisi, a ddefnyddir i ymchwilio’n systematig i effeithiolrwydd polisïau, rhaglenni, prosiectau a mathau eraill o ymyrraeth gymdeithasol, gyda’r nod o wella amgylchiadau cymdeithasol, economaidd a bywyd bob dydd pobl. Defnyddir gwahanol ddulliau gwerthuso polisi i ateb gwahanol gwestiynau.

Mae’r Llyfr Magenta yn cynnig set o nodiadau arweiniad ar sut i ddefnyddio’r dulliau gwerthuso a dadansoddi polisi yn effeithiol, a thrwy hynny lunio a defnyddio tystiolaeth gadarn sydd wrth wraidd y gwaith o lunio a gweithredu polisïau.

Rhai dulliau gwerthuso a ddefnyddir yn Llywodraeth Cymru:

Gwerthuso cyfansymiol, a elwir weithiau’n werthuso effaith. Mae’n holi cwestiynau fel: pa effaith, os o gwbl, a gaiff polisi, rhaglen neu ymyrraeth arall gan y llywodraeth o ran canlyniadau penodol i wahanol grwpiau o bobl? Mae’n ceisio amcangyfrif effeithiau polisi naill ai o ran yr hyn a ddisgwylir ganddo ar y cychwyn, neu o’i gymharu â math arall o ymyrraeth, neu o wneud dim byd o gwbl (h.y. y gwrthwyneb).

Gwerthuso ffurfiannol, sy’n holi sut, pam, ac o dan ba amodau y mae ymyrraeth bolisi (neu raglen neu brosiect) yn gweithio, neu’n methu gweithio? Mae’r cwestiynau hyn yn bwysig o ran pennu a yw polisïau, rhaglenni neu brosiectau’n cael eu datblygu (h.y. ffurfio), eu gweithredu a’u cyflawni’n effeithiol. Fel arfer mae gwerthuso ffurfiannol yn ceisio gwybodaeth am y ffactorau, mecanweithiau a phrosesau cyd-destunol sy’n sail i lwyddiant neu fethiant polisi. Mae hyn fel arfer yn cynnwys holi cwestiynau fel i bwy y mae polisi wedi gweithio (neu heb weithio), a pham.

Mae dulliau gwerthuso arbrofol a lled-arbrofol yn cynnig tystiolaeth ddilys a dibynadwy ynghylch effeithiolrwydd perthynol ymyrraeth bolisi o’i gymharu ag ymyriadau polisi eraill, neu wneud dim byd o gwbl (sef y gwrthwyneb). Maent yn cynnig tystiolaeth briodol ynghylch cwestiynau fel a yw gwasanaeth cynghori personol yn fwy neu’n llai effeithiol o ran rhoi hwb i bobl ar gyflog is yn y farchnad lafur na chynnig hyfforddiant sgiliau er enghraifft, neu wneud dim byd o gwbl. Ffurf buraf y dull arbrofol hwn yw’r hap-dreial wedi’i reoli (RCT).

Gwerthuso ansoddol

Diben gwerthusiadau ansoddol yw astudio materion penodol yn fanwl. Fel arfer mae angen mynd i’r fath fanylder i bennu’r cwestiynau priodol i’w holi mewn gwerthusiad a nodi ym mha amgylchiadau sefyllfaol a chyd-destunol y mae polisi, rhaglen neu brosiect yn gweithio, neu’n methu gweithio. Mae dulliau gwerthuso ansoddol yn arbennig o bwysig ar gyfer gwerthuso ffurfiannol.

Am ragor o wybodaeth ar yr Is-adran Ymchwil Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, ewch i’r dudalen Is-adran Ymchwil Cymdeithasol, neu cysylltwch â ni trwy’r bocs e-bost ymchwil.