Skip to content

Geirfa

Dolenni perthnasol

Chwilio am ymchwil yn ôl pwnc.
Mae rhoi cyfle i randdeiliaid roi adborth ar eu cydberthynas waith â Llywodraeth y Cynulliad yn ffordd bwysig o nodi ffyrdd o wella ymgysylltiad â rhanddeiliaid.
Dyma restr ddefnyddiol o'r termau sy'n cael eu defnyddio gennym yn ein cyhoeddiadau ymchwil cymdeithasol.

A

Adolygiad - Ymchwliad eang sy'n edrych a yw amcanion rhaglen neu bolisi yn parhau i fod yn ddilys.

Adolygiad o ddeunydd - Adolygiad cynhwysfawr o gyhoeddiadau mewn maes astudiaeth penodol neu sy'n ymwneud â maes ymchwil penodol.

Allbwn - Yr hyn a gaiff ei gynhyrchu gan brosiect, er enghraifft, nifer y swyddi a gaiff eu creu. Nid yw'r un peth â 'chanlyniad'.

Arolwg Byw yng Nghymru - Arolwg blynyddol a gyflawnir i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rhwng 2004 a 2008 yr oedd y brif ffynhonnell gwybodaeth am aelwydydd a chyflwr tai yng Nghymru. Yr olynydd i Byw yng Nghymru, rhedeg yn flynyddol o 2009-10 ymlaen, yw'r Arolwg Cenedlaethol Cymru. 

Arolwg Cenedlaethol Cymru - un o’r prif ffyrdd i Lywodraeth Cynulliad Cymru gael gwybod pa faterion sy’n bwysig i bobl Cymru. Mae’r arolwg wedi’i seilio ar gyfweliadau wyneb yn wyneb ar sampl o gartrefi ledled Cymru a ddewiswyd ar hap.

Arolwg cymdeithasol - Dull o gasglu gwybodaeth drwy holi cyfres o gwestiynau a bennwyd ymlaen llaw mewn holiadur strwythuredig i griw o bobl a ddewiswyd ymlaen llaw.

Arolwg Rhanddeiliaid - arolwg i asesu perfformiad prif adrannau ac ardaloedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfan gwbwl mewn ystyriaeth o ymgysylltu a rhanddeiliaid.

C

Canlyniad - Canlyniadau ac effeithiau (ee yr effaith ar gymuned) o roi prosiect ar waith. Nid yw'r un peth ag 'allbwn'.

CAPI (Cyfweliadau personol gyda chymorth cyfrifiaduron) - Cyfweliadau wyneb yn wyneb lle bo'r holiadur yn cael ei gyflwyno ar ffurf rhaglen gyfrifiadurol wedi'i llwytho ar liniadur. Bydd y sawl sy'n cynnal y cyfweliad yn mynd â'r cyfrifiadur gydag ef/hi allan i'r maes. Cofnodir atebion yr ymatebwyr ar y gliniadur a chaiff y cyfweliadau eu trosglwyddo'n ôl i'r swyddfa drwy fodem.

Carfan - Grŵp o bobl a gaiff eu dilyn gan fesur gwahanol agweddau arnynt ar wahanol adegau.

CATI (Cyfweliadau dros y ffôn gyda chymorth cyfrifiadur) - Cyfweliad a gaiff ei gynnal dros y ffôn yn hytrach na wyneb yn wyneb.  Mae modd mynd at yr holiadur trwy gyfrifiadur wedi'i leoli o fewn uned ffôn ganolog.

Cyfrifiad - Y broses a ddefnyddir i gael gwybodaeth am bob aelod o'r boblogaeth.  Mae hyn yn wahanol i'r broses samplo lle ceir gwybodaeth am is-set o'r boblogaeth. 

D

Dadansoddi-meta - Ymarfer ystadegol sy'n cyfuno canlyniadau nifer o astudiaethau sy'n mynd i'r afael â set o ddamcaniaethau yn gysylltiedig ag ymchwil.  Gall dadansoddi canlyniadau grŵp o astudiaethau roi amcangyfrif mwy cywir o'r effeithiau.

G

Grwp ffocws - Dull ymchwil sy'n cynnwys grŵp yn trafod syniadau neu bynciau penodol, dan arweiniad cymedrolwr. 

Gwaelodlin - Y broses o ddiffinio amodau cyfredol (er enghraifft, i ba raddau mae digartrefedd yn bodoli yng Nghymru) i roi man cychwyn y gellir cymharu cynnydd yn ei erbyn neu wneud cymariaethau yn ei erbyn.

Gwerthusiad - Y broses o ddiffinio amcanion, archwilio opsiynau a phwyso a mesur costau, manteision, risgiau ac ansicrwydd cyn gwneud penderfyniad.

Gwerthuso - Dadansoddi prosiect, rhaglen neu bolisi ac asesu pa mor llwyddiannus neu beidio a fu, a pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol.  Yn arferol, bydd gwerthusiadau yn ceisio mynd i'r afael â "beth sy'n gweithio i bwy ac ym mha gyd-destun".

Gwerthuso ex-ante - Werthuso neu arfarnu rhaglen cyn y caiff ei gweithredu. 

Gwerthuso ex-post - Y broses o werthuso rhaglen neu brosiect pan ddaw i ben.

Ll

Lledaenu gwybodaeth - Rhannu gwybodaeth.

Llunio polisi ar sail tystiolaeth - Dull o ddatblygu a gweithredu polisi sy'n datblygu sylfaen gadarn o dystiolaeth ac yna gynhyrchu, monitro a gwerthuso opsiynau polisi.  Y brif fantais o lunio polisïau ar sail tystiolaeth yw polisi a darpariaeth fwy effeithiol.

Llunio polisïau - Y broses y mae'r llywodraeth yn ei defnyddio i drosi eu gweledigaeth wleidyddol yn rhaglenni ac yn weithgareddau i sicrhau canlyniadau - y newidiadau a ddymunir yn y byd go iawn.

M

Meincnodi - Sefydlu safon neu bwynt cyfeirio y gellir ei ddefnyddio i sefydlu targedau a mesur cynnydd.

Monitor lles - Mae'r Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc a'r Monitor Lles Pobl Hyn yn ddogfennau sy'n canolbwyntio ar les pobl ifanc a hyn yng Nghymru. Maent yn tynnu i gilydd ystadegau ac ymchwil o amrediad o ffynonellau gwahanol ac yn adrodd ar amrywiaeth o ddadansoddiad lles.

O

Omnibws - Arolygon sy'n cael eu cynnal yn rheolaidd gan asiantaeth ymchwil, ond y gellir eu noddi gan nifer o gleientiaid nad ydynt yn rhannu'r un data ond sy'n prynu'r hawl i gael cwestiynau ar gyfer arolwg i ddiwallu eu hanghenion unigol.

P

Peilot - Treialu polisi neu raglen ar raddfa fach. Y nod yw dangos ei effeithiau yn ymarferol a nodi unrhyw wendidau y dylid mynd i'r afael â nhw os penderfynir rhoi'r polisi neu'r rhaglen ar waith yn ehangach. 

Y

Ymchwil - Ymchwiliad systematig er mwyn ehangu gwybodaeth.

Ymchwil ansoddol - Mae'n archwilio ac yn ceisio deall credoau, profiadau, agweddau, ymddygiad a rhyngweithiadau pobl.  Mae'n cynhyrchu data nad ydynt yn rhifiadol.  Mae'r dulliau ymchwil ansoddol gorau yn cynnwys cyfweliadau manwl, grwpiau ffocws, dadansoddiad o raglen nodwedd ac arsylwi ar gyfranogwyr.

Ymchwil drawsbynciol - Ymchwil sy'n edrych ar faterion sy'n berthnasol i fwy nag un maes polisi Llywodraeth y Cynulliad.

Ymchwil feintiol - Mae'n cynhyrchu data rhifiadol neu ddata y gellir eu trosi yn rhifau.  Er enghraifft, arlowg ar hap o 10,000 aelwydydd yng Nghymru.

Ymchwil gymdeithasol - Ymchwiliad gwyddonol sy'n mesur, disgrifio, esbonio a rhagweld newidiadau i'r strwythurau cymdeithasol ac economaidd, agweddau, gwerthoedd ac ymddygiad a'r ffactorau sy'n ysgogi ac yn cyfyngu ar unigolion a grwpiau o fewn cymdeithas. 

Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) - GSR yw'r sefydliad proffesiynol ar gyfer bron i 1,000 o ymchwilwyr cymdeithasol yn adrannau canolog y llywodraeth a'r gweinyddiaethau datganoledig. Mae GSR yn cyfrannu at y dystiolaeth sy'n sail i strategaethau, polisïau a phrosesau gweithredu'r llywodraeth drwy ddarparu dadansoddiadau a chyngor polisi seiliedig ar ymchwil.

Ymgynghoriaeth - Gwasanaeth sydd yn edrych at sefyllfa neu broblem neilltuol gyda'r nod o gynnig cyngor clir ar yr opsiynau posibl.