Skip to content

Astudiaeth i archwilio rhwystrau lleol i ddarparu tai fforddiadwy yng nghymru Wledig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Yn 'Cymru’n Un', gwnaethom ni ymrwymo i sicrhau bod 6,500 yn ychwanegol o dai fforddiadwy yn cael eu darparu yng Nghymru rhwng 2007 a 2011. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn edrych ar y rhwystrau i ddarparu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r adroddiad yn enwi hefyd y prif ffactorau galluogi ac arferion da.

Cafodd yr ymchwil ei chynnal gan y Centre for Regional Economic and Social Research ym Mhrifysgol Sheffield Hallam.  Mae’n cynnwys:

  • arolwg o’r llenyddiaeth, cyfweliadau â’r prif randdeiliaid;
  • arolwg o awdurdodau cynllunio lleol;
  • astudiaethau achos o ardaloedd saith awdurdod cynllunio lleol;
  • astudiaethau o ddatblygiadau tai fforddiadwy unigol mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol, awdurdodau cynllunio lleol a Llywodraeth y Cynulliad.