Skip to content

Astudiaeth Ymchwiliol i Gefnogi’r Adolygiad Llywodraethu Addysg Uwch (AU)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sefydlwyd yr Adolygiad gan Lywodraeth Cymru a’i gadeirio gan John McCormick.

Anfonodd holiadur at holl Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) Cymru ynghylch eu trefniadau llywodraethu presennol, galwodd am dystiolaeth ysgrifenedig a chyfwelodd nifer o randdeiliaid. Bydd yn cyflwyno adroddiad ym mis Mawrth 2011.

Mae’r astudiaeth ymchwiliol yn cefnogi’r Grŵp trwy wneud y canlynol:

  • gwneud adolygiad cymharol o drefniadau gwahanol ar gyfer llywodraethu AU;
  • tynnu ar y deunydd darllen sydd ar gael, canolbwyntio ar lywodraethu’r sector AU cyfan ac, yn fwy arbennig, y cysylltiadau sefydliadol rhwng Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) a’r Llywodraeth; 
  • dyfnhau dealltwriaeth o drefniadau llywodraethu presennol AU Cymru sy’n dod i’r amlwg o’r holiadur.

Bydd yr adroddiad cael ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr 2011.

Am ragor o wybodaeth plîs cysylltwch â Jo Corke 029 2080 1138.
joanne.corke@wales.gsi.gov.uk