Skip to content

Adolygiad o Gyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru i Sefydliadau Seilwaith ar gyfer y Trydydd Sector

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Uned Trydydd Sector Isadran Cymunedau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyllid craidd ar hyn o bryd i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (CFiW) a Sefydliad Codi Arian Cymru (IoFC) i ddarparu cefnogaeth seilwaith i sefydliadau trydydd sector yng Nghymru. Pwrpas cefnogaeth cyllid craidd yw helpu sefydliadau trydydd sector yng Nghymru i wella a chynyddu eu lefelau codi arian.

Comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygiad annibynnol o’r trefniadau cyllid craidd.

Prif nod y gwaith oedd adolygu pa mor addas yw’r trefniadau cyllid craidd wrth ddarparu cefnogaeth seilwaith i’r trydydd sector.   Mae’r adolygiad hefyd yn gwneud argymhellion ar y trefniadau cyllid ar gyfer cefnogaeth seilwaith yn y dyfodol.