Skip to content

Gwerthusiad o Gymorth Athrawon Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae hwn yn adolygiad gwerthuso llawn o’r gwasanaeth y mae Cymorth Athrawon Cymru yn ei ddarparu.
Lansiwyd Cymorth Athrawon Cymru gan y Gweinidog yng Nghymru ym mis Ebrill 2002 fel rhan o’r Rhwydwaith Cymorth Athrawon yng Nghymru (gynt y Gronfa Les Athrawon). Mae’n darparu gwasanaeth cwnsela, cefnogi a chynghori yn rhad ac am ddim i athrawon yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant ar-lein, ac mae’r gwasanaeth yn hollol ddwyieithog. Comisiynwyd yr adroddiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i benderfynu a yw’r arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei ddarparu’n barhaol yn briodol.