Skip to content

Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol

Mae'r Is-adran Ymchwil Gymdeithasol yn rheoli rhaglen o waith ymchwil gorfforaethol, drawsbynciol ac adrannol ac mae'n sicrhau safonau proffesiynol o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil gymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru.

Mae ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi'u lleoli yn yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol. Pennaeth yr isadran yw Dr Steven Marshall, y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol. Mae'r rhan fwyaf o'r tîm wedi'u lleoli yng Nghaerdydd ond mae rhai ymchwilwyr wedi'u lleoli mewn lleoliadau eraill megis Merthyr Tudful a Llandudno. Mae'n rhaid i bob un o'r ymchwilwyr cymdeithasol gydweithio'n agos gyda swyddogion ym mhob adran er mwyn sicrhau bod ganddynt wybodaeth dda am anghenion dadansoddol eu cydweithwyr ym maes polisi a'u bod yn cael eu cynnwys yn gynnar yn y broses o ddatblygu polisi.

Mae'r Is-adran Ymchwil Gymdeithasol yn rhan o’r Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad gyda'r Gyfarwyddiaeth Ystadegol, y Llyfrgell a'r Is-adran Cyngor Economaidd. Gyda'i gilydd maent yn ffurfio'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddiad sy'n darparu dull o weithredu dadansoddol ar draws y meysydd i gefnogi Gweinidogion a swyddogion polisi gydag ystod o ddata, tystiolaeth a dadansoddiadau.

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddiad yn gweithio’n agos a Rheoli Gwybodaeth - Gwasanaethau Arbenigol (sy’n cynnwys y gwasanaeth cofnodion, sicrwydd gwybodaeth a hawliau gwybodaeth) a’r Uned Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd a Datblygiad Proffesiynol yn yr Is-adran Rheoli Gwybodaeth yn Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau Corfforaethol. Gyda’i gilydd mae’r ardaloedd yma yn dod o dan y faner ‘Gwasanaethau Gwybodaeth’.

Mae'r Is-adran Ymchwil Gymdeithasol wedi'i rhannu i'r canghennau canlynol:

  • Ymchwil Gorfforaethol
  • Arolygon Cenedlaethol
  • Ymchwil Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
  • Ymchwil Gwasanaethau Cyhoeddus a Chyflenwi Llywodraeth Leol
  • Ymchwil Iechyd y Cyhoedd a Gweithwyr iechyd proffesiynol
  • Ymchwil Croeso Cymru

Yr Is-adran sy'n gyfrifol am bennu a chynnal safonau uchel drwy gydol y broses ymchwil, o'r gwaith o gynllunio a chomisiynu ymchwil gymdeithasol i'w chyhoeddi, ei lledaenu a'i gweithredu wrth ddatblygu polisïau a gwerthuso.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i'r blwch post ymchwil.