Skip to content

Yr arolwg Byw yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Bydd Arolwg yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall a thargedu materion sy’n bwysig i bobl Cymru.
Logo Byw yng Nghymru

Roedd Byw yng Nghymru yn arolwg a gynhaliwyd gan Ipsos MORI ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd yn casglu gwybodaeth am gartrefi a chyflwr cartrefi yng Nghymru.

Roedd yr arolwg Byw yng Nghymru yn arolwg blynyddol o gartrefi a gynhaliwyd o 2004 i 2008. Roedd yn seiliedig ar gyfweliadau wyneb yn wyneb gyda'r person cyswllt y cartref neu oedolyn priodol arall mewn sampl o gartrefi ledled Cymru. Yn 2004 a 2008 cynhaliwyd arolwg adeiladau hefyd, a oedd yn golygu bod rhai ymatebwyr yn derbyn ymweliad dilynol gan syrfëwr cymwys i ymgymryd ag asesiad o'u hadeilad.

Arolwg Cenedlaethol Cymru sy’n olynu Arolwg Byw yng Nghymru (gweler Dolenni Perthnasol).

Gwasanaeth cais am ddata

Os ydych am gael ystadegau neu fynediad at y cronfeydd data sy’n ymwneud ag arolwg Byw yw Nghymru, cysylltwch â:

Tim Arolwg Cenedlaethol
Rhif ffôn: 029 2082 3035
E-bost:    surveys@wales.gsi.gov.uk

Ffynonellau eraill