Skip to content

Cysylltu data

Beth yw cysylltu data?

Cysylltu data yw'r enw a roddir i'r broses o ddod â chofnodion pobl o ffynonellau annibynnol at ei gilydd i ffurfio cronfa ddata o wybodaeth gyfoethog. Hyd yn hyn, mae’r dechneg hon wedi cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer ymchwil meddygol ac iechyd, ond mae’n cael ei ehangu i gynnwys ffurfiau eraill o ddata, gan gynnwys data gwasanaethau cymdeithasol, tai, cludiant ac addysg.

Beth yw’r manteision o gysylltu data?

Mae cysylltu gwybodaeth i gofnodion eraill:

  • yn lleihau'r galw ar bobl i gymryd rhan mewn arolygon fel yr Arolwg Cenedlaethol Cymru;
  • yn lleihau'n fawr y gost o gasglu gwybodaeth;
  • yn caniatáu i wahanol fathau o wybodaeth i fod ar gael yn rhwydd ac felly yn lleihau’r amser o chwilio am ddata; ac
  • yn caniatáu bod gwell defnydd yn cael ei wneud o’r wybodaeth sydd eisoes yn bodoli.

Cysylltu data yn yr Arolwg Cenedlaethol

Mae'r Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd (HIRU) ar gyfer Cymru yn uned ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Cysylltu gwybodaeth o nifer o arolygon a chronfeydd data ar draws Cymru data yw gwaith craidd HIRU.

Mae ymatebwyr Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cael ei gofyn am eu caniatâd i basio eu hatebion arolwg dienw i HIRU i sicrhau bod mwy o ddefnydd  yn cael ei gwneud o’i data.

Gall ymatebwyr sy'n cytuno i hyn newid eu meddwl am roi ei ganiatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Lisa Walters, sy’n gweithio i dîm yr Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar 029 2082 6685 neu drwy e-bostio lisa.walters@cymru.gsi.gov.uk.