Skip to content

Newyddion diweddaraf

Ebrill 2013 - Diweddariad y Gwanwyn

Cyhoeddi Bwletin Ystadegol ar ‘Farn pobl am Lywodraeth Cymru’

Mae Bwletin Ystadegol sy’n cyflwyno canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar farn pobl am Lywodraeth Cymru wedi cael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru. Cafodd ei gyhoeddi ar 24 Ebrill 2013, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r bwletin ystadegol ar gael ar y dudalen cyhoeddiadau.

Canlyniadau – Datganiad Cyntaf

Bydd prif ganlyniadau'r flwyddyn lawn gyntaf yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd mis Mai 2013. Bydd y canlyniadau yn cynnwys ffigurau cenedlaethol a rhai canlyniadau ar lefelau Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol. Bydd y prif ganlyniadau yma yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ar ddiwedd mis Mai byddwn hefyd yn cyhoeddi nifer fawr o ganlyniadau ar ffurf tablau ar wefan StatsCymru, a bydd dadansoddiadau mwy manwl yn cael ei gyhoeddi ar y tudalennau  gwe yr Arolwg Cenedlaethol o haf 2013 ymlaen.

Newidiadau i’r Holiadur ar gyfer 2013-14

Mae nifer fach o newidiadau wedi'u gwneud i gwestiynau’r arolwg ar gyfer 2013-14. Mae'r newidiadau hyn wedi cael eu gwneud i sicrhau fod yr arolwg yn parhau i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen gan dimau polisi Llywodraeth Cymru. Dim ond mân newidiadau sydd wedi'u gwneud i'r holiadur gan fod angen cadw rhan fwyaf o’r pynciau yn yr arolwg am ddwy flynedd (2012-13 a 2013-14) er mwyn ein galluogi i gyhoeddi canlyniadau manwl ar lefel awdurdod lleol.

Y newid mwyaf rydym wedi gwneud yw disodli'r rhan fwyaf o gwestiynau 2012-13 am les gyda set wahanol o Arolwg sy’n digwydd ar draws Ewrop am Incwm ac Amodau Byw (EU-wide Survey of Income and Living Conditions). Bydd cynnwys y cwestiynau yma yn yr Arolwg Cenedlaethol yn rhoi ffigurau cadarn ar gyfer Cymru i allu cymharu â rhannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd yn ychwanegu holiadur hunan-lenwi am y defnydd pobl o'r iaith Gymraeg. Mae hwn wedi cael ei ariannu ar y cyd gan Uned yr Iaith Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Yn olaf, mae nifer fach o gwestiynau wedi eu hychwanegu am gerdded a beicio.

Cyhoeddi Bwletin Ystadegol ar ‘drafnidiaeth’

Mae bwletin ystadegol ar ganlyniadau trafnidiaeth o chwarter cyntaf gwaith maes yr Arolwg Cenedlaethol (Ionawr i Fawrth 2012) wedi cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2013 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Mae’r  bwletin ystadegol ar gael ar y dudalen cyhoeddiadau.

Gwaith maes

Daeth gwaith maes ar gyfer y flwyddyn lawn gyntaf i ben ar ddiwedd mis Mawrth, gyda gwaith maes ar gyfer yr ail flwyddyn yn dechrau yn syth wedyn. Mae 14,552 o gyfweliadau wedi eu cwblhau yn 2012-13. Mae ein cyfraddau ymateb yn dda, tua 69% ar hyn o bryd. Bydd y cyfradd ymateb terfynol ar gyfer arolwg 2012-13 yn cael ei gadarnhau erbyn canol mis Gorffennaf, pan fydd y sampl a roddwyd ar gyfer 2012-13 wedi cael ei ddefnyddio’n llawn.

Ionawr 2013 – Cyhoeddi Bwletinau Ystadegol ar ‘Iechyd’ a ‘lles’

Cafodd dau Bwletin Ystadegol sy’n cyflwyno canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar ‘iechyd’ a ‘lles’ eu cyhoeddi ar ddiwedd mis Ionawr 2013, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r bwletinau yn cyflwyno crynodeb o'r canfyddiadau yn seiliedig ar y chwarter cyntaf y gwaith maes (Ionawr i Fawrth 2012).

Mae’r bwletinau ystadegol ar gael i’w lawrlwytho ar y dudalen cyhoeddiadau.

Rhagfyr 2012 – Cyhoeddi Bwletinau Ystadegol ar ‘Addysg’ a’r ‘Rhyngrwyd’

Cafodd dau Bwletin Ystadegol sy’n cyflwyno canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar addysg a’r defnydd o’r rhyngrwyd eu cyhoeddi ar 19 Rhagfyr 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r bwletinau yn cyflwyno crynodeb o'r canfyddiadau yn seiliedig ar y chwarter cyntaf y gwaith maes (Ionawr i Fawrth 2012). Mae’r bwletinau ystadegol ar gael i’w lawrlwytho ar y dudalen cyhoeddiadau.

Rhagfyr 2012 – Canlyniadau’r Arolwg ar StatsCymru

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru, am y cyfnod o Ionawr i Mawrth 2012, wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfres o dablau ar StatsCymru. StatsCymru yw ein ystorfa ar-lein ddi-dâl i'w ddefnyddio ar gyfer data ystadegol manwl am Gymru.

Mae'r tablau yn cynnwys ystadegau sy’n ychwanegu at y rhai a gyhoeddwyd yn y Datganiad Cyntaf ym mis Medi.

Gwefan StatsCymru: Arolwg Cenedlaethol Cymru (dolen allanol) 

Os hoffech unrhyw gymorth i ddehongli'r data neu os hoffech chi weld tabl ychydig yn wahanol, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm arolygon trwy e-bostio arolygon@cymru.gsi.gov.uk.