Skip to content

Cyhoeddiadau

Dolenni perthnasol

Mae'r adroddiad yma yn dangos fel y mae'r arolwg yn adlynu i fesurau ansawdd.

Prif Ganlyniadau, Ebrill 2012 – Mawrth 2013

Cyhoeddwyd Datganiad Ystadegol Cyntaf sy’n cyflwyno prif ganlyniadau blwyddyn gyntaf Arolwg Cenedlaethol Cymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd ei gyhoeddi ar 30 Mai, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r canlyniadau yn seiliedig ar gyfweliadau wyneb-yn-wyneb gyda tua 14,500 o oedolion ar draws Cymru a gynhaliwyd rhwng Ebrill 2012 a Mawrth 2013. Am y tro cyntaf, mae'r canlyniadau ar gael ar lefel awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yn ogystal ag ar lefel cenedlaethol.

Arolwg Cenedlaethol Cymru: Prif Ganlyniadau, Ebrill 2012 - Mawrth 2013

Roedd y Datganiad Cyntaf blaenorol yn seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd rhwng Ionawr 2012 a Mawrth 2013 a chafodd ei gyhoeddi ar 27 Medi 2012.

Arolwg Cenedlaethol Cymru: Prif ganlyniadau, Ionawr - Mawrth 2012

Tablau StatsCymru

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru, wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfres o dablau ar StatsCymru. Mae'r tablau yn cynnwys ystadegau sy’n ychwanegu at y rhai a gyhoeddwyd yn y Datganiadau Cyntaf a’r bwletinau ystadegol.

StatsCymru yw ein ystorfa ar-lein ddi-dâl i'w ddefnyddio ar gyfer data ystadegol manwl am Gymru.

Gwefan StatsCymru: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Os hoffech unrhyw gymorth i ddehongli'r data neu os hoffech chi weld tabl gwahanol, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm arolygon trwy e-bostio arolygon@cymru.gsi.gov.uk.

Bwletinau ystadegol

Rydym wedi cyhoeddi bwletin ystadegol hyd yn hyn.  Maent yn seiliedig ar chwarter cyntaf y gwaith maes (Ionawr i Fawrth 2012; 3,500 o gyfweliadau). Cawsant eu cyhoeddi yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ionawr - Mawrth 2012: Canlyniadau Rhyngrwyd

Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ionawr - Mawrth 2012: Canlyniadau Addysg

Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ionawr - Mawrth 2012: Canlyniadau Iechyd

Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ionawr - Mawrth 2012: Canlyniadau Lles

Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ionawr - Mawrth 2012: Canlyniadau Trafnidiaeth

Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ionawr - Mawrth 2012: Barn am Lywodraeth Cymru

Amserlen gyhoeddi yn y dyfodol

  • Haf 2013: dadansoddiad pellach o ganlyniadau 2012-13 ar lefel Cymru ac ar lefel awdurdod lleol;
  • Gwanwyn 2014 ac yn flynyddol wedi hynny: canlyniadau manwl ar lefel Cymru ac awdurdod lleol (Canlyniadau ar lefel Cymru yn seiliedig ar gyfweliadau yn y flwyddyn ariannol flaenorol; canlyniadau ar lefel awdurdod lleol yn seiliedig ar gyfweliadau yn ystod y ddwy flynedd ariannol flaenorol).