Skip to content

Monitor Lles Pobl Hŷn Cymru 2009

Dolenni perthnasol

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r amcanion allweddol ar gyfer yr ail bum mlynedd o'n Strategaeth ddeng mlynedd ni.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno amrywiaeth o ystadegau ar bobl hŷn - pobl dros bum deg oed yn bennaf.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Monitor Lles Pobl Hŷn Cymru yn canolbwyntio ar les pobl hŷn sy’n 50 oed neu’n hŷn yng Nghymru a’i nod yw creu darlun holistig o'u bywydau. Mae'n cynnwys ystadegau ac ymchwil o amrywiaeth o wahanol ffynonellau ac adroddiadau ar amrywiaeth o ddangosyddion ynghylch lles.

Mae Monitor Lles Pobl Hŷn Cymru wedi'i seilio ar y naw dangosydd newid sydd yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (2008-2013) ac 18 Egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn. Dyma'r themâu:

  • Urddas a Chynhwysiant Cymdeithasol
  • Annibyniaeth a Lles Materol
  • Cyfranogiad
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasl
  • Hunangyflawniad a Heneiddio'n Dda.

Comisiynwyd dau ddarn o waith er mwyn datblygu’r Monitor hwn : adolygiad o dystiolaeth ac astudiaeth cyfweld ansoddol. Cynhaliwyd yr adolygiad o’r dystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd a chynhaliwyd yr astudiaeth ansoddol gan Brifysgol Glyndŵr. Cafodd canfyddiadau’r ddau ddarn o waith eu cynnwys yn y Monitor ac mae'r adroddiadau wedi'u rhestru isod.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch Monitor Lles Pobl Hŷn Cymru, cysylltwch ag Is-adran Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru trwy anfon e-bost i: research.evaluation@cymru.gsi.gov.uk .