Skip to content

Arolwg rhanddeiliaid 2010

Dolenni perthnasol

Gwaith ymchwil atodol i Arolwg Rhanddeiliaid 2008
Mae rhoi cyfle i randdeiliaid roi adborth ar eu cydberthynas waith â Llywodraeth y Cynulliad yn ffordd bwysig o nodi ffyrdd o wella ymgysylltiad â rhanddeiliaid.
Arolwg rhanddeiliaid 2006
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, ers ei sefydlu, wedi rhoi blaenoriaeth i asesu sut y mae’n ymgysylltu â rhanddeiliaid, ar lefel gorfforaethol ac ar lefel adran, a darganfod ffyrdd o wella’i threfniadau ymgysylltu. Er mwyn gwneud hyn, mae wedi comisiynu tri arolwg annibynnol o’i rhanddeiliaid hyd yn hyn – yn 2006, 2008 a’r don ddiweddaraf hon yn 2010.

Cynhaliwyd arolwg 2010 gan Ipsos MORI. Ei nod cyffredinol oedd asesu perfformiad meysydd ac adrannau Cyfarwyddwyr Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cyfanrwydd yng nghyd-destun ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Cynlluniwyd yr arolwg hefyd gyda’r bwriad o ddarparu tystiolaeth sylfaenol er mwyn datblygu’r ffordd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid, ac yn cynnwys rhanddeiliaid, a darparu data y gellir eu cymharu â chanfyddiadau 2006 a 2008.

Os oes gennych gwestiwn am yr arolwg dylech e-bostio blwch post research.evaluation@wales.gsi.gov.uk.