Skip to content

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC

Dolenni perthnasol

Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC yw Prif Weinidog Cymru
O’r dudalen hon, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith yr ydym yn ei wneud i godi proffil rhyngwladol Cymru, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am fasnach, buddsoddi, twristiaeth a chyllid.
Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC
Manylion bywgraffiadol Prif Weinidog Cymru.

Cafodd Carwyn Jones ei eni yn 1967 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yn Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys, Llundain. Cyn ei ethol, roedd yn fargyfreithiwr mewn siambrau yn Abertawe yn arbenigo yng Nghyfraith Troseddau, Teulu a Niwed Personol, ac yn diwtor proffesiynol yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Cymru Caerdydd. Bu’n Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Gadeirydd y Grŵp Llafur ar y Cyngor. Mae hefyd yn aelod o Amnest Ryngwladol, Unsain, Undeb Unite a Chymdeithas y Ffabiaid. Mae wedi bod yn aelod o’r Blaid Lafur ers 1987 ac fe chwaraeodd ran amlwg yn ymgyrch ‘Ie Dros Gymru’.

Cafodd Carwyn Jones ei benodi’n Is-ysgrifennydd ym mis Mawrth 2000 a disodlodd Christine Gwyther fel yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar drothwy Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2000.

Ym mis Mawrth 2002 ychwanegwyd rôl y Trefnydd at ei bortffolio Materion Gwledig. Ym mis Mehefin 2002 cafodd ei benodi’n Weinidog dros Lywodraeth Agored. Ym mis Mai 2003 cafodd ei benodi’n Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ym mis Mai 2007 fe gafodd ei benodi fel y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg ac ers mis Gorffennaf 2007 ef oedd Cwnsler Cyffredinol cyntaf Cymru ac Arweinydd y Tŷ.

Yn dilyn ymddeoliad Rhodri Morgan AC ym mis Rhagfyr 2009, cafodd ei benodi fel Prif Weinidog Cymru.  Fe’i penodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar y 9fed o Fehefin 2010.  Ar ôl ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, ailbenodwyd Carwyn Jones yn Brif Weinidog gan Ei Mawrhydi y Frenhines ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei enwebu.

Mae ei ddiddordebau yn cynnwys chwaraeon, darllen a theithio. Mae’n rhugl yn y Gymraeg.

Mae’r Prif Weinidog yn gyfrifol am:

  • Arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru;
  • Cynllunio strategol a chorfforaethol yn Llywodraeth Cymru;
  • Y rhaglen ddeddfwriaethol;
  • Uned Gyflawni'r Prif Weinidog;
  • Datblygu a chydgysylltu polisïau;
  • Y cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, Ewrop, gweddill y byd a Chymru Dramor;
  • Holl swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru a'i phresenoldeb dramor;
  • Cyfeiriad strategol ar faterion polisi'r UE, gan gynnwys mynd i gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Ewrop);
  • Rhyddid Gwybodaeth (gan gynnwys mynediad at Gofnodion Cyhoeddus ac Archif Genedlaethol Cymru);
  • Cyfrifoldeb cyffredinol am Lywodraeth Agored;
  • Argyfyngau Sifil Posibl;
  • Goruchwylio perthynas Llywodraeth y Cynulliad â Swyddfa Archwilio Cymru;
  • Gwaith y Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd;
  • Cyfleusterau a seilwaith ynni mawr, datganoli mewn perthynas â materion yn ymwneud ag ynni, dur a glo;
  • Digwyddiadau mawr;
  • Cyfrifoldeb strategol cyffredinol dros gyfathrebu;
  • Staffio/y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys telerau ac amodau Cynghorwyr Arbennig a gweision sifil Llywodraeth Cymru, ond nid aelodau o'r Uwch Wasanaeth Sifil;
  • Cyfrifoldeb cyffredinol dros benodiadau cyhoeddus (h.y. sicrhau bod penodiadau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn cael eu gwneud yn unol â Chod y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus). Y Gweinidogion eraill fydd yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â phenodiadau cyhoeddus yn eu portffolios penodol hwy;
  • Y Cod Gweinidogol.

Ysgrifennu at Weinidogion

Cysylltwch ag Carwyn Jones drwy e-bostio: carwyn.jones@cymru.gsi.gov.uk

Rydym yn anelu at ymateb i ohebiaeth a anfonir at Weinidogion, gan gynnwys y post electronig, cyn pen 17 diwrnod gwaith.  Bydd y Gweinidogion yn ymateb i ohebiaeth ynghylch materion sy’n berthnasol i’w portffolios. Dilynwch yr eitem ‘Ysgrifennu at y Gweinidogion’ ar ochr chwith y dudalen fel bod eich gohebiaeth yn cyrraedd y Gweinidog cywir.