Skip to content

Huw Lewis AC

Dolenni perthnasol

Mae tai ac adfywio cymunedol yn ganolog i wella bywydau pobl Cymru, yn arbennig y rheini sy’n dod o’r cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae bywydau pobl sydd mewn tlodi yn gymhleth, fel mae pob bywyd yn gymhleth.
Huw Lewis AC
Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

Etholwyd Huw Lewis i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Huw oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Plaid Lafur Cymru cyn cael ei ethol. Cafodd ei eni ym Merthyr Tudful ym 1964 a’i addysgu ym Mhrifysgol Caeredin. Mae Huw yn gyn-athro cemeg ac mae ei ddiddordebau’n cynnwys addysg a’r heriau sy’n wynebu cymoedd y De.

Penodwyd Huw yn Ddirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyda chyfrifoldeb arbennig dros Adfywio cyn colli ei swydd yn yr ad-drefnu a ddilynodd ffurfio’r llywodraeth glymblaid. Mae wedi adolygu rhaglen flaengar Llywodraeth Cymru yn erbyn tlodi, sef Cymunedau’n Gyntaf, ac wedi ysgrifennu Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu tlodi plant. Ym mis Rhagfyr 2009, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog dros Blant.  Ar ôl ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, penodwyd Huw Lewis yn Weinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ac ym mis Mawrth 2013, penodwyd fel y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.


Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gyfrifol am:

  • Y cyfrifoldeb trawsbynciol am Ddatblygu Cynaliadwy;
  • Diwygio Lles;
  • Cydraddoldeb a chyfle cyfartal (gan gynnwys: materion rhywedd, cyflog cyfartal, cysylltiadau hiliol a chydraddoldeb, anabledd (gan gynnwys nam ar y synhwyrau), cyfeiriadedd rhywiol a phrif-ffrydio cydraddoldeb, Cynhwysiant Digidol (gan gynnwys Cymunedau 2.0), Iaith Arwyddion Prydain, Braille a'r holl ieithoedd lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru).
  • Materion sydd heb eu datganoli ynghylch lloches, mewnfudo, gweithwyr mudol a chydlyniant cymunedol, ac eithrio mesurau gwrthderfysgaeth;  
  • Cydgysylltu materion mewn perthynas â sipsiwn a theithwyr, ac eithrio lle maent yn berthnasol yn benodol i bortffolios eraill, e.e. polisi addysg;  
  • Y Sector Gwirfoddol a Gwirfoddoli;
  • Cymunedau yn Gyntaf (gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol);
  • Cyfrifoldebau trawsbynciol am fentrau gwrthdlodi, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi;
  • Cynhwysiant ariannol, gan gynnwys undebau credyd;
  • Comisiynydd Plant Cymru;
  • Y Polisi Cymorth Teuluoedd;  
  • Polisi chwarae;
  • Tlodi plant, gan gynnwys cydgysylltu materion traws-lywodraethol ynghylch tlodi plant;
  • Teuluoedd yn Gyntaf;
  • Gofal plant;
  • Y fenter Dechrau'n Deg ar gyfer plant 0-3 oed;
  • Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru;  
  • Hawliau a Plant a Phobl Ifanc;
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn;  
  • Y cyfrifoldeb arweiniol am fonitro materion sy'n ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru;

Ysgrifennu at Weinidogion

Cysylltwch ag gwenda thomas drwy e-bostio: gohebiaeth.huw.lewis@cymru.gsi.gov.uk

Rydym yn anelu at ymateb i ohebiaeth a anfonir at Weinidogion, gan gynnwys y post electronig, cyn pen 17 diwrnod gwaith.  Bydd y Gweinidogion yn ymateb i ohebiaeth ynghylch materion sy’n berthnasol i’w portffolios. Dilynwch yr eitem ‘Ysgrifennu at y Gweinidogion’ ar ochr chwith y dudalen fel bod eich gohebiaeth yn cyrraedd y Gweinidog cywir.