Skip to content

John Griffiths AC

Dolenni perthnasol

Ein gweledigaeth yw Cymru hyderus, amrywiol, creadigol ac egnïol.
John Griffiths AC
Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon.

Ganwyd John Griffiths ym 1956 a bu’n astudio’r gyfraith fel myfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd cyn mynd ati i weithio fel cyfreithiwr, gan arbenigo mewn cyfraith drosedd, anafiadau corfforol ac ymgyfreitha sifil cyffredinol. Bu’n gynghorydd ar Gyngor Sir Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Mae’n aelod o’r Blaid Gydweithredol ac Undebau Llafur Community ac Unite.

Yn y gorffennol, bu John yn Ddirprwy Weinidog dros Ddatblygu Economaidd, yn Ddirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chanddo gyfrifoldeb arbennig am y portffolio Pobl Hŷn, ac yn Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau. Ym mis Rhagfyr 2009, cafodd ei benodi’n Gwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Rhaglen Ddeddfwriaethol. Ar ôl cael ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, penodwyd John Griffiths yn Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ac ym mis Mawrth 2013, penodwyd fel y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon..

Mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn gyfrifol am:

  • Parciau Cenedlaethol;
  • Mynediad i gefn gwlad, mynediad arfordirol (gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru) a hawliau tramwy;
  • Gwarchod a dynodi henebion ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru, a materion cysylltiedig, a'u hyrwyddo fel atyniadau ymwelwyr;  
  • Cadw a gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru a hyrwyddo adfywio dan arweiniad treftadaeth;  
  • Hyrwyddo mynediad i dreftadaeth Cymru a'r amgylchedd hanesyddol, a chael y gymuned i ymddiddori ynddynt;  
  • Noddi Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a chefnogi Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru;
  • Y strategaeth a'r polisi cenedlaethol ar ddiwylliant yng Nghymru;  
  • Noddi Cyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys penodi'r Cadeirydd a'r aelodau;  
  • Noddi Cyngor Chwaraeon Cymru, gan gynnwys penodi'r Cadeirydd a'r aelodau;
  • Noddi Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys penodi'r Llywydd a'r aelodau;  
  • Cyfrifoldeb arweiniol dros gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru;
  • Y strategaeth genedlaethol a'r polisi ar chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yng Nghymru;  
  • Y fenter Nofio am Ddim Genedlaethol;  
  • Cynllun Indemniad y Llywodraeth a'r Cynllun Derbyn yn Gyfnewid am Dreth Etifeddiant;  
  • Y polisi ar amgueddfeydd, llyfrgelloedd cyhoeddus ac archifau nad ydynt yn rhai cenedlaethol;  
  • Y polisi darlledu;  
  • Noddi Cyngor Llyfrau Cymru;  
  • Materion sy'n ymwneud â'r modd y mae'r Gronfa Loteri Fawr, Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru yn dosbarthu cyllid y Loteri yng Nghymru. (Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw dyrannu cyllid rhwng achosion da a rhwng y gwledydd);  
  • Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru;
  • Hyrwyddo cerdded a beicio, gan gynnwys y Bil Teithio Llesol (Cymru);
  • Arwain yn strategol ar randiroedd.

Ysgrifennu at Weinidogion

Cysylltwch ag John Griffiths drwy e-bostio: gohebiaeth.john.griffiths@cymru.gsi.gov.uk  

Rydym yn anelu at ymateb i ohebiaeth a anfonir at Weinidogion, gan gynnwys y post electronig, cyn pen 17 diwrnod gwaith.  Bydd y Gweinidogion yn ymateb i ohebiaeth ynghylch materion sy’n berthnasol i’w portffolios. Dilynwch yr eitem ‘Ysgrifennu at y Gweinidogion’ ar ochr dde’r dudalen fel bo eich gohebiaeth yn cyrraedd y Gweinidog cywir.