Skip to content

Trydedd Gynhadledd Llywyddion Rhanbarthau a chanddynt Bwerau Deddfu - Fflorens 14/15 Tachwedd 2002

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Prif Weinidog
Ar 14/15 Tachwedd, bum yng Nghynhadledd Llywyddion y Rhanbarthau â Phwerau Deddfu yn Fflorens.  Llofnodais ddatganiad yno gafodd ei lunio fel rhan o gyfraniad y Rhanbarthau at drafodaeth y Confensiwn ar Ddyfodol Ewrop.  Mae'r Confensiwn yn cyfarfod ym Mrwsel o dan gadeiryddiaeth Cyn-Arlywydd Ffrainc, Giscard D'Estaing.  Rhoddais ddrafft y datganiad gerbron y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yn ei gyfarfodydd ar 10 Gorffennaf a 31 Hydref.  Cefais fynd i Fflorens felly gyda'r Pwyllgor wedi rhoi sêl ei fendith i'r testun.  

Corff sydd wedi tyfu dros y tair blynedd ddiwethaf yw'r Rhanbarthau â Phwerau Deddfu (neu 'Reg-Leg' fel y'i gelwir).  Rhanbarthau a chanddynt rywfaint o ryddid deddfwriaethol o fewn Aelod-Wledydd yr UE yw'r aelodau.  Mae 72 o ranbarthau o wyth gwlad yn aelodau ohono ar hyn o bryd: Yr Almaen, Gwlad Belg, Sbaen, Portiwgal, Y Deyrnas Unedig, Yr Eidal, Awstria a'r Ffindir (h.y.Ynysoedd Åland, rhanbarth lled-hunan-ymreolus) (rhyw 56% o boblogaeth yr UE).  

Ers haf 2001, bu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gynrychiolaeth ar weithgor Reg-Leg sy'n llunio'i ddogfennau ac yn cynllunio'i waith.  Byddwn yn parhau i weithio fel hyn am y flwyddyn i ddod o dan gadeiryddiaeth rhanbarth Salzburg.  Mae ein cyfraniad yn dangos bod Cymru'n gweithio yng nghanol berw Ewrop ar y lefel ranbarthol ac mae hynny'n cael ei gydnabod gan lywodraethau rhanbarthol eraill.  

Rwy'n gwbl argyhoeddedig fod Reg-Leg wedi cyfrannu'n fawr at hybu buddiannau'r rhanbarthau yn y drafodaeth am ddyfodol yr UE.  Bu i'r gynhadledd yn Liege y llynedd ddylanwadu'n drwm ar gynnwys Datganiad Laeken a bennodd derfynau trafod y Confensiwn ar Ddyfodol Ewrop.  Mae'r datganiad diweddaraf yn gyfraniad at y Confensiwn ei hun a byddwn yn ei ddefnyddio i lywio'r drafodaeth.  Bydd y gynhadledd flwyddyn nesaf yn Salzburg yn digwydd ar adeg dyngedfennol ym mhroses y Gynhadledd Ryng-Lywodraethol sy'n dilyn y Confensiwn.  

Yn fy sylwadau i'r Gynhadledd, roeddwn yn falch o gael rhoi fy nghefnogaeth gyffredinol i'r datganiad.  Mae'n anorfod mai cyfaddawd fydd unrhyw bapur sy'n ceisio lleisio dyheadau grwp mor amrywiol.  Yn benodol, esboniais na fyddai rhoi hawl i lywodraeth ranbarthol apelio'n uniongyrchol at Lys Cyfiawnder Ewrop yn berthnasol i ranbarthau'r Deyrnas Unedig, ond dywedais nad oedd gennyf wrthwynebiad i ranbarthau eraill a chanddynt drefniadau cyfansoddiadol a chyfreithiol gwahanol geisio am hynny.  

Dywedais hefyd y dylai'r rhanbarthau beidio â cholli'u pennau'n ormodol gyda mecanweithiau sefydliadol yr UE.  Pwrpas yr UE yw dod â budd a lles i'n pobl trwy bethau fel y Cronfeydd Strwythurol, y PAC a deddfwriaeth amgylcheddol.  Y ffordd orau ymlaen inni fyddai pwyso am newidiadau sefydliadol a fyddai'n rhoi mwy o ddylanwad i'r rhanbarthau ar y polisïau yr ydym ni'n gyfrifol amdanynt ac sy'n cael effaith uniongyrchol ar ein pobl.  Elfen bwysig o hyn yw ein bod yn cael ystyried argymhellion yn ddigon cynnar yn y broses fel ein bod yn cael dylanwadu arnynt ac ystyried eu heffeithiau ar is-reolaeth (sybsidiariti).  

Y tu allan i'r gynhadledd ffurfiol, cefais gyfarfodydd byr defnyddiol gyda Phrif Weinidogion  Fflandrys, Wallonia, Bruxelles-Region, Twscani, Rheinland-Pfalz, Gwlad y Basg, ac wrth gwrs yr Alban.  Cefais gyfarfodydd hefyd â Michel Barnier, y Comisiynydd Polisi Rhanbarthol a dderbyniodd fy ngwahoddiad i ymweld â Chymru flwyddyn nesaf, ac ag Ysgrifennydd Cyffredinol y CPMR, Xavier Gizard.