Skip to content

Lansio Ymgyrch Gyrru Arafach, Strydoedd Saffach

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Dros Yr Amgylchedd
Heddiw byddaf yn cyhoeddi bod £1.5 miliwn ychwanegol yn cael ei roi yn uniongyrchol i'r awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i fynd i'r afael ag ymgyrchoedd gyrru'n arafach er mwyn diogelu'n strydoedd.

Bydd yr arian ychwanegol hwn, a ddaw o ganlyniad i hyblygrwydd diwedd blwyddyn, yn hwb pwysig i'r awdurdodau lleol i'w helpu i sicrhau bod eu hardaloedd lleol yn fwy diogel i bobl weithio a byw ynddynt.  Gwelir isod y dyraniad i bob awdurdod ac fe'i seiliwyd ar yr un fformiwla a ddefnyddiwyd i ddosbarthu grant arbennig diogelwch y ffyrdd ar gyfer 2002-03: -

Caerdydd £137,000
Sir Gaerfyrddin £113,000
Rhondda, Cynon, Taf £103,000
Abertawe £94,000
Sir y Fflint £87,000
Wrecsam £76,000
Caerffili £75,000
Gwynedd £73,000
Powys £71,000
Casnewydd £66,000
Pen-y-bont ar Ogwr £66,000
Sir Ddinbych £61,000
Castell-nedd Port Talbot £61,000
Bro Morgannwg £60,000
Sir Benfro £59,000
Sir Fynwy £54,000
Conwy £54,000
Ceredigion £43,000
Tor-faen £38,000
Ynys Môn £37,000
Blaenau Gwent £37,000
Merthyr Tudful £37,000

Hoffwn weld awdurdodau lleol yn defnyddio'r arian hwn i ariannu cynlluniau arloesol er mwyn lleihau cyflymder trafnidiaeth yn yr ardaloedd a chymunedau hynny sydd mewn perygl.  Dylai’r rhain gynnwys ardaloedd o amgylch ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac ysbytai yn ogystal â chymunedau preswyl.

Byddaf yn gofyn i'r awdurdodau lleol ddarparu adroddiadau am y prosiectau a ariannwyd maes o law.