Skip to content

Ymweliad Tramor y Dirprwy Brif Weinidog ag Efrog Newydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mike German,Y Dirprwy Brif Weinidog
Yn ystod mis Gorffennaf, bum ar ymweliad tramor ag Efrog Newydd yn fy rôl fel y Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor. Trefnwyd yr ymweliad i gyd-daro â'r Fancy Food Fair y cefais wahoddiad i'w mynychu gan Gyfarwyddiaeth Fwyd Awdurdod Datblygu Cymru.

Defnyddiodd y Gyfarwyddiaeth y sioe i hyrwyddo amrywiaeth o gynnyrch Cymreig safonol ac i lansio menter newydd i wella ansawdd cawsiau Cymreig a werthir yn yr UDA. Roedd fy ymweliad â'r Fancy Food Fair yn gyfle i weld y cynnyrch Cymreig a arddangosir drosof fy hun a bod yn dyst i'r modd y datblygwyd cysylltiadau newydd ac y cryfhawyd cysylltiadau presennol. Roedd hefyd yn gyfle i gymharu'r arddangosfa Gymreig â gwledydd sy'n gystadleuwyr o bob cwr o'r Byd. Mae gennyf lawer o syniadau yn hyn o beth, ac fe fyddaf yn eu trafod â'r asiantaethau dan sylw.

Ar ôl ymweld â'r Ffair, euthum i dderbyniad busnes a gynhaliwyd gan Somerdale Dairies International. Yn bresennol yn y derbyniad, roedd ystod eang o brynwyr, cynhyrchwyr, asiantwyr a phobl marchnata a nawdd cysylltiedig. Rhoddodd fy nhrafodaethau ddarlun cliriach i mi o'r cyfleoedd a'r sialensau sy'n codi i wneuthurwyr o Gymru sydd am ddatblygu cysylltiadau marchnata yn yr UDA.

Roeddwn yn awyddus i weld ein cynnyrch o Gymru yn cyrraedd y defnyddiwr yn y pen draw. Llwyddais i wneud hynny drwy alw yn Zabar's Deli ar Broadway. Mae Zabar's yn enwog dros y byd am ei stoc o fwydydd arbenigol da. Yng nghanol eu hystod eang o fwyd roedd arddangosfa o gawsiau Cymreig, a oedd yn cynnwys detholiad helaeth o'r rhai a gynhyrchir gan Hufenfa De Arfon Cyf. Roedd gweld ein cynnyrch Cymreig yn y siop glodfawr hon, yn atgyfnerthu'r potensial mawr sydd i'n cynhyrchwyr.

Roedd cyfarfod â swyddogion o Fwrdd Croeso Cymru a chynrychiolwyr o'r wasg deithio yn ymarfer briffio anodd ond gwerthfawr, am iddo wella fy nealltwriaeth o'r hyn yr oedd twristiaid Americanaidd yn chwilio amdano ac yn ei ddisgwyl gan Gymru fel cyrchfan wyliau, a gwella fy nealltwriaeth o broffil Cymru yn yr UDA. Dysgais am y farchnad bosibl a chefais syniad o'r refeniw y gallai Cymru ei hennill o fusnes o'r fath. Mae'n amlwg bod cyfleoedd yn bodoli, ond bod problemau hefyd. Yn arbennig yr ofn ymhlith Americanwyr i hedfan ar hyn o bryd, yn dilyn Medi 11.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Syr Thomas Harries KBE CM, HM, Prif Gonswl a Chyfarwyddwr Cyffredinol Masnach a Buddsoddi, am gwrdd â mi. Roedd ein cyfarfod yn fodd i f'atgoffa o'r gwasanaethau a gynigir gan y Swyddfa Gonswl a llwyddais i'w sicrhau y byddai Canolfan Ryngwladol Cymru yn ategu ei gwasanaethau yn hytrach na'u disodli.

Roedd fy amserlen hefyd yn cynnwys ymweliad â Ground Zero i dalu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau ac a deimlodd effaith trasiedi 11 Medi. Hyd yn oed 10 mis yn ddiweddarach, mae'r olygfa yn un anodd i'w dirnad.

Mae'r Foodie Awards yn cydnabod llwyddiannau gwneuthurwyr o Brydain yn y farchnad Americanaidd, ac fe'u trefnir gan Food From Britain. Roeddwn yn falch o gael fy ngwahodd i'r seremoni gyflwyno a chwrdd â'r cwmnïau a gymerodd ran. Roedd y gwobrau hefyd yn gyfle i mi gael gwybodaeth am rai o'r materion sy'n peri pryder i'r diwydiant

Dechreuodd fy niwrnod olaf yn Efrog Newydd gyda thrafodaeth gyffrous gyda Syr Howard Stringer o Sony. Buom yn siarad am hir am y problemau sy'n wynebu cwmnïau Cymreig sydd am dorri drwyddo ym marchnad yr UD a manteisio ar gyfleoedd i godi proffil Cymru yng Ngogledd America. Gadewais gyda nifer o syniadau y byddwn yn eu trafod ymhellach gyda Howard maes o law.

Cyfarfum hefyd â William Kimball o Adran Amaethyddiaeth a Marchnadoedd Talaith Efrog Newydd, a thrafodom amrywiaeth o agweddau ar ein heconomïau gwledig. Cytunom fod ein problemau yn debyg iawn a llwyddom i nodi sut yr oeddem wedi cychwyn eu goresgyn. Mae'n amlwg y gallwn ddysgu llawer gan ein gilydd ac y byddai o fudd i'r ddau ohonom petaem yn parhau i gadw mewn cysylltiad.

Rwy'n ddiolchgar i Awdurdod Datblygu Cymru am drefnu i mi ymweld â safle arfaethedig Canolfan Ryngwladol Cymru yn Adeilad Chrysler. Byddai hwn yn lleoliad trawiadol iawn i weithrediadau'r asiantaethau Cymreig yn Efrog Newydd.

Karen Persichilli-Keogh yw Pennaeth y Staff yn Swyddfa Hilary Clinton yn Efrog Newydd. Cefais gyfarfod addysgiadol iawn â Karen lle buom yn ystyried y posibilrwydd o gael help Hilary i godi proffil Cymru yng Ngogledd America. Cododd Karen sawl pwynt y gallant fod werth eu hystyried ymhellach.

Tasg swyddogol olaf y dydd oedd cyfarfod â threfnwyr Gw^yl Ffilmiau Gymreig arfaethedig yn Efrog Newydd. Cefais grynodeb ganddynt o'r cynigion a gaiff eu cyflwyno i Jenny Randerson cyn bo hir.

Mae'r digwyddiad a gynhelir yng nghanolfan arddangos enfawr Efrog Newydd, yn gyfle i gynhyrchwyr a chyfanwerthwyr o Gymru gwrdd â marchnad enfawr yr UD.
Gall Cymru gymryd rhan fwy o lawer yn y dyfodol - yn arbennig wrth ennill gwobrau am gynnyrch, cynllunio ac arloesi. Mae'r rhain i gyd yn arwyddocaol iawn i gynulleidfa'r UD. Yn bwysicaf oll, mae'n rhaid i ni 'adrodd yr hanes' am ba le y caiff ein bwyd ei gynhyrchu.
Mae cysylltu lle gyda chynnyrch yn ffordd rymus o annog rhagor o ddefnyddwyr i brynu cynnyrch o Gymru.

Dyma gyfleoedd sylweddol y dylid mynd ar eu hôl yn sgîl yr ymweliad hwn:-

-Bisgedi Cymreig i fynd gyda'r cawsiau Cymreig
-Cysylltu'r materion yn nhalaith Efrog Newydd, sy'n dalaith amaethyddol yn bennaf, a chanfod achos cyffredin â Hilary Clinton
-Adeiladu ar ddigwyddiadau uchel eu proffil yn y byd busnes ac adloniant yn yr UD gyda help Syr Howard Stringer

Fodd bynnag, yn bwysicaf oll, mae'n rhaid i ni ddod â phob un o'n mentrau at ei gilydd a defnyddio dull Tîm Cymru o weithredu.