Skip to content

Datganiad ar Adolygiad Carlile

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Ym Medi 2000, rhoddais wahoddiad i’r Arglwydd Carlile o Aberriw, QC, i gadeirio panel amlddisgyblaethol i ystyried y camau diogelu i blant a phobl ifanc sy’n derbyn triniaeth a gofal gan y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Penderfynais gynnal yr adolygiad hwn i weithredu ar ganfyddiadau adroddiad tribiwnlys gogledd Cymru ‘Ar goll mewn Gofal’, ac i ddwyn ymlaen ganlyniadau’r arolwg o’n dwy uned iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Gofynnais i’r Arglwydd Carlile gynnal adolygiad polisi eang yn cwmpasu pob agwedd ar ddarpariaeth y GIG i blant a phobl ifanc.

Yn gynharach heddiw, yr oedd yn bleser gennyf gyhoeddi adroddiad y panel. Gofynnwyd iddo ymgymryd â thasg enfawr ac yr wyf yn ddiolchgar iddo am y modd yr aeth i’r afael â’r her honno. Cymerodd y panel dystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan aelodau o’r cyhoedd, rhanddeiliaid o’r GIG, awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol a gwirfoddol. Ymwelodd aelodau’r panel â nifer o unedau’r GIG ac unedau annibynnol yng Nghymru ynghyd â rhai yn Lloegr. Cynhaliwyd grwpiau ffocws mewn ysgolion er mwyn clywed barn plant a phobl ifanc. O ganlyniad i gydweithrediad pawb yr ymgynghorwyd â hwy, bu’n bosibl i’r panel ystyried yn drwyadl a chyflawn y materion sy’n gysylltiedig â diogelwch ein plant pan fyddant ar eu mwyaf diamddiffyn.

Mae adroddiad Carlile yn cynnwys 150 o argymhellion ar gyfer gwella safonau a chynyddu’r camau diogelwch ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Anelir yr argymhellion hyn at Lywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG, grwpiau iechyd lleol, y proffesiynau a gontractir yn ogystal ag asiantaethau partner ym maes gofal cymdeithasol.


Mae’r adroddiad yn dechrau’n briodol gyda hawliau plant a thema ganolog yr adroddiad yw’r angen i sicrhau y rhoddir plant a’u diogelwch wrth wraidd y GIG pa bryd bynnag a ble bynnag y bydd angen iddynt ddod i gysylltiad ag ef. Mae’n cydnabod yr angen i sicrhau bod pawb a ddaw i gysylltiad â phlant a thriniaeth plant—o gyfarwyddwyr anweithredol i feddygon, nyrsys a staff derbynfa mewn meddygfeydd—yn ymwybodol o hawliau plant a’u bod yn effro i’r posibilrwydd o gamdriniaeth. Yn ôl yr adroddiad, y ffordd orau i ddiogelu cleifion ifanc yw drwy ddatblygu ymwybyddiaeth o gam-drin plant ym mhob rhan o’r GIG. Gwneir argymhellion o ran gwasanaethau eiriolaeth, fel y gellir clywed llais plant.

Yn ôl yr adroddiad, mae’n hanfodol, yn bennaf oll, recriwtio staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i ddarparu ar gyfer anghenion iechyd plant. Yn y cyswllt hwnnw, gwna sawl argymhelliad i gryfhau polisïau adnoddau dynol ym mhob rhan o’r GIG yng Nghymru. Cydnabyddir yr angen am weithdrefnau recriwtio trwyadl yn ogystal ag ardystio’r angen am bolisïau datblygedig iawn i ymdrin â’r rheini a fydd yn datgelu achosion o gam-drin, a gweithdrefnau disgyblu a chymorth i’r rheini y gwnaed honiadau yn eu herbyn.

Pwysleisia hefyd yr angen am niferoedd digonol o staff mewn swyddi allweddol. Yn y cyd-destun hwn, argymhella’r adroddiad gynnydd yn nifer y pediatregwyr a nyrsys plant hyfforddedig ledled Cymru. Mae’r adroddiad yn cydnabod rôl bwysig meddygon a nyrsys penodedig i ddiogelu plant ar y lefel strategol, a meddygon a nyrsys a enwir ar gyfer diogelwch plant mewn ymddiriedolaethau. Argymhella y dylid rhoi amser neilltuol i’r swyddi hyn er mwyn caniatáu iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau, a gwna argymhellion ynghylch ble y dylid eu lleoli yn dilyn ad-drefnu’r GIG.

Gwna’r adroddiad argymhellion o ran gofal mewn ysbytai a gofal meddygol arbenigol. Yn y cyd-destun hwn, ychwanega at adroddiad Kennedy ar Ysbyty Brenhinol Bryste, a gwna argymhellion mewn sawl maes megis adrannau damweiniau ac achosion brys a phlant a gaiff eu trin ar wardiau oedolion.

Ni chaiff y rhan fwyaf o blant sâl eu derbyn i’r ysbyty am driniaeth. Dônt i gyswllt â’r GIG drwy gyfrwng eu meddyg teulu, ymwelydd iechyd, nyrs ysgol a phractis, deintyddion ac optegwyr. Bydd rhai o argymhellion yr adroddiad yn cynyddu ymwybyddiaeth o faterion diogelu plant yn y proffesiynau hyn. Canmolir ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol am eu gwaith rhagorol. Argymhella’r adroddiad y dylid cryfhau rôl y nyrs ysgol, ac y dylid datblygu llwybrau gyrfa addas er mwyn denu nyrsys i’r maes pwysig hwn o waith.

Mae’r adroddiad yn ystyried yn ofalus anghenion y bobl ifanc hynny sy’n arbennig o ddiamddiffyn. Mae hynny’n cynnwys y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl plant sy’n derbyn gofal i ffwrdd o’u cartrefi a phlant mewn lleoliadau diogel. Gwna’r adroddiad sawl argymhelliad er mwyn sicrhau bod gofal iechyd o ansawdd da ar gael i’r grwpiau diamddiffyn hyn. Mae’r adroddiad yn amlinellu gwersi a ddysgwyd o astudiaeth achos o glinig preswyl Gwynfa, a gynhaliwyd fel adolygiad ôl-weithredol o ddigwyddiadau. Yn ogystal â defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o’r astudiaeth achos hon, daw’r adroddiad i’r casgliad y cymerwyd yr holl gamau y dylid bod wedi’u cymryd yn sgîl yr honiadau.

Yr wyf yn benderfynol o sicrhau y dylai pob plentyn a pherson ifanc a drinir gan y GIG fod yn ddiogel, teimlo’n ddiogel, cael eu trin fel unigolion a bod staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol yn cydymdeimlo â’u hanghenion ac yn eu diwallu. Sefydlwyd grwp gweithredu o blith fy swyddogion er mwyn fy nghynghori ar y ffordd orau o weithredu’r adroddiad. Caiff yr adroddiad ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos nesaf ac wedyn byddaf yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yr wyf am weld argymhellion yr adroddiad hwn yn cael eu hymgorffori yn y safonau yr ydym yn eu datblygu fel rhan o’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant, a gyhoeddwyd gennyf ddiwedd y llynedd.