Skip to content

Cyfarfod â'r Cyd-Bwyllgor Hawliau Dynol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros Lywodraeth Agored
Cefais gyfarfod yn ddiweddar (13 Mehefin) gydag aelodau Cyd-Bwyllgor y Senedd ar Hawliau Dynol a oedd yng Nghymru ar gyfer cyfres o gyfarfodydd fel rhan o'u hymchwiliad i'r angen am Gomisiwn Hawliau Dynol yn y Deyrnas Unedig.  Cawsom drafodaeth eang a diddorol am botensial Comisiwn o'r fath a'i effeithiau posibl ar Gymru.  

Anfonodd Llywodraeth y Cynulliad dystiolaeth ysgrifenedig i'r Cyd-Bwyllgor haf diwethaf, ar ddechrau ei ymchwiliad.  Wedi dweud hynny, nid oes fawr o drafod wedi bod yng Nghymru ynghylch yr angen am Gomisiwn a beth fyddai ei rôl.  Rwy'n gobeithio y gwnaeth cyfarfod y Cyd-Bwyllgor â mi a'i gyfarfodydd eraill y diwrnod hwnnw gyda'r Comisiynydd Plant, aelodau'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal, academyddion ac eraill gyfrannu at sbarduno trafodaeth am y materion hyn yng Nghymru.  Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i gyfrannu at y drafodaeth ehangach am ddatblygu 'diwylliant hawliau dynol' yng ngwledydd Prydain.  

Mae gennyf feddwl didwyll o agored ynghylch a oes wir angen Comisiwn Hawliau Dynol ar y DU.  Fel y gwelaf ar hyn o bryd, mae'r awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn deall eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol ac yn ymroi i'w hysgwyddo.  Mesur o'u llwyddiant yn hynny o beth yw na chafwyd yr un achos llwyddiannus yn erbyn awdurdod cyhoeddus yng Nghymru ers i'r Ddeddf Hawliau Dynol ddod i rym ar 2 Hydref 2000.  Bu dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol ers diwrnod ei greu i gydymffurfio â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol ym mhopeth a wna, ac mae'n rhoi hyfforddiant mewn hawliau dynol i staff hen a newydd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio.    Hefyd, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi trefnu digwyddiadau ar gyfer cyrff cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol ac eraill i'w helpu i ddeall y Ddeddf a'i gwerthoedd.  Ymhlith eraill, cynhaliwyd sioe deithiol boblogaidd yng Nghaerdydd ym mis Ebrill eleni  a chaiff sioe debyg ei chynnal yn y Gogledd yn yr hydref.  

Pe bai Comisiwn Hawliau Dynol yn cael ei sefydlu, byddwn o blaid un corff i wasanaethu Prydain gyfan, cyn belled â bod arno bresenoldeb Cymreig amlwg a chryf.  Byddai hynny'n pwysleisio'r ffaith ein bod ni oll ym Mhrydain yn rhannu'r un gwerthoedd ac yn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â materion hawliau dynol mewn ffordd gytun.   Er hynny, mae yna faterion sy'n unigryw i Gymru.  Yn eu plith, materion yn ymwneud â'r Gymraeg a diwylliant Cymru.  Gallai fod yna agweddau penodol Cymreig hefyd wrth i ffyrdd Cymreig o wneud pethau mewn meysydd datganoledig fel iechyd ac addysg gael eu datblygu.  Byddai gofyn i Gomisiwn Hawliau Dynol feddu ar adain Gymreig i ymdrin â'r materion hyn, ac i ddatblygu cysylltiadau â chyrff Cymreig eraill megis Comisiynydd Plant Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Cynulliad Cenedlaethol.  Byddai'n rhaid wrth bresenoldeb amlwg Cymreig hefyd i sicrhau lle'r Comisiwn yn y gymdeithas yng Nghymru, ac i roi'r ymdeimlad i Gymru bod y Comisiwn yn eiddo iddi hithau hefyd.