Skip to content

Datganiad ar Ymateb y Cabinet i Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar yr Adolygiad o Addysg Uwch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes Jane Davidson
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy strategaeth ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. O ystyried rôl ganolog addysg uwch, y mae’n iawn bod y pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi neilltuo 15 mis ar gyfer adolygiad manwl o bolisi. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am ei waith caled—mae wedi rhoi tystiolaeth gadarn a dadansoddol imi y gallaf seilio’r strategaeth hon arni. Mae’r strategaeth hon yn diwallu’r ymrwymiad a roddir yng nghytundeb partneriaeth y Llywodraeth i gyflwyno strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu sector addysg uwch wedi’i ariannu’n ddigonol. Nododd ‘Y Wlad sy’n Dysgu’ ein rhaglen addysg a dysgu gydol oes gynhwysfawr hyd at 2010, a chyflwynodd fy safbwyntiau ar gryfhau’r sector addysg uwch. Mae’r strategaeth hon yn nodi ein gweledigaeth a’r sail gysyniadol y caiff y sector ei ariannu arni yn y dyfodol.

Mae addysg uwch yn hanfodol i weledigaeth Llywodraeth y Cynulliad hwn, ac yn ganolog i’m gweledigaeth o Gymru fel gwlad sy’n dysgu. Yr wyf am weld sefydliadau dysgu ar hyd a lled Cymru yn diwallu anghenion pawb. Dyna pam, yn y flwyddyn ariannol bresennol, yr ydym wedi rhyddhau £9.6 miliwn ychwanegol i’r sector, yn cynnwys £6 miliwn mewn cydnabyddiaeth o berfformiad y sector yn yr ymarfer asesu ymchwil diweddar, lle mae nifer yr adrannau gradd 5* wedi cynyddu bedair gwaith, a nifer y graddau 5 wedi dyblu. Diolch i’r ymrwymiad hwn, am y tro cyntaf mewn pum mlynedd, mae’r gwariant fesul myfyriwr yng Nghymru yn well nag yn Lloegr ar hyn o bryd.

Fodd bynnag yr ydym eisiau symud i ffwrdd o gymariaethau felly sy’n seiliedig ar fewnbwn. Yr ydym am i’n sector gael ei farnu ar ei gyflawniadau a’i enw da yn y byd, nid ar gyfrifiadau taenlenni. Gallaf gyhoeddi heddiw y byddaf, yn unol â chynlluniau yn Lloegr, yn codi’r cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i sefydliadau reoli eu gwaith cynllunio yn well, a phenderfynu ar nifer y myfyrwyr a dderbynnir. Yn ogystal, golyga y daw cymhariaeth sy’n seiliedig yn gyfangwbl ar ariannu fesur myfyriwr yn fwyfwy diystyr.
Ein prif nod yw darparu fframwaith a fydd yn galluogi’r sector addysg uwch yng Nghymru i gyflawni’r heriau y mae’n eu hwynebu yn awr ac yn y dyfodol. Mae gan y sector lawer i ymfalchïo ynddo, a nifer o gyflawniadau y gall adeiladu arnynt—yn enwedig ei berfformiad yn yr ymarfer asesu ymchwil diweddar, ei record ar ehangu mynediad, a’i lwyddiant wrth fasnachu gwybodaeth. Fodd bynnag, rhaid inni adeiladu ar y safonau uchel hyn a sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad sy’n fwyfwy byd-eang. Rhaid i’r nod o ymgyrraedd at ragoriaeth nodweddu’r strategaeth hon.

Cytunwn â’r Pwyllgor na all y sector wynebu’r her gyda’i strwythur presennol. Mae ailgyflunio yn ganolog i hyrwyddo’r rhagoriaeth yr anelwn ati. Ar hyn o bryd mae sefydliadau bach yn dwyn gorbenion cyffredinol anghymesur drwy gydweithio ar systemau reoli, a gellid ailfuddsoddi arian hanfodol mewn swyddogaethau craidd a’u canolbwyntio ar welliannau. Yn yr un modd, er mwyn i sefydliadau gystadlu am arian ymchwil, contractau, a myfyrwyr, rhaid iddynt ganolbwyntio ymdrech a ffocws ar ragoriaeth.

Mae ailgyflunio yn golygu gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd gennym drwy goleddu’r amrywiaeth y mae’r sector yn ei gynnig, a sicrhau nad oes dyblygu gwastraffus na gwanhau rhagoriaeth. Nid yw dyfodol y sector mewn 13 o sefydliadau â chenadaethau tebyg. Rhaid iddo amrywio, gyda chlystyrau swyddogaethol yn mynd ar drywydd rhagoriaeth mewn meysydd dewisol. Gall cystadleuaeth fod yn beth iach, ond mae cydweithio yn iachach. Mae cydweithio effeithiol yn hanfodol i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r sector. Ni nodaf yn benodol ar ba ffurf y bydd y clystyrau hyn, ond rhaid i ymrwymiad i gydweithio yn yr hirdymor fod yn realiti. Disgwyliaf i’r sector gyflwyno cynigion gwirioneddol yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Erbyn 2010, disgwyliaf weld y sector yn newid o fod yn gul ac yn seiliedig ar sefydliadau, i fod yn un a nodweddir gan gyfres o rwydweithiau rhagoriaeth. Byddwn yn rhyddhau £3 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn sydd i ddod i gefnogi sefydliadau sy’n gweithio tuag at gydweithio ac ailgyflunio. Ynghyd â’r arian a ddarparasom eisoes i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, golyga hyn gyfanswm o £5 miliwn o fuddsoddiad mewn ailgyflunio.

Bu dadlau mawr am ddyfodol Prifysgol Cymru mewn sector wedi’i ailgyflunio. Nid yw hwn yn fater i Lywodraeth y Cynulliad yn bennaf, ond i’r sefydliadau unigol. Cydnabyddwn werth y strwythur graddau cyffredin a gydnabyddir yn rhyngwladol, a, lle mae’n ychwanegu gwerth gwirioneddol at ein gweledigaeth o rwydweithiau rhagoriaeth, ni fyddai’r sector na’r Cynulliad yn dymuno ei ddileu. Fodd bynnag, mae asesiad gwrthrychol o’i werth a’i berthnasedd parhaus yn hanfodol. Edrychwn ymlaen at ganlyniad yr adolygiad a gynhelir gan Syr David Williams.

Prif ffocws cenhadaeth y Llywodraeth fydd parhau â’r ymgyrch i ehangu mynediad i addysg uwch. Yr ydym yn falch bod yr hyn a gyflawnwyd yn y sector wedi ei gydnabod yn y maes hwn, yn enwedig gan The Times Higher Education Supplement yn ei arolwg Access Elite, a ddangosodd chwech o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn y 18 uchaf yn y DU. Yr ydym am barhau â’r gwaith hwn a chynnal y ffocws a’r pwysau ar recriwtio a chadw.

Yr wyf eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau’r Llywodraeth hon i gyflwyno cynllun cymorth i fyfyrwyr newydd sy’n unigryw i Gymru. Dengys grant dysgu’r Cynulliad, gyda’i fuddsoddiad o £41 miliwn yn 2002-03, ein hymrwymiad i ddileu rhwystrau i addysg bellach ac uwch. Rhaid inni adeiladu ar ein profiad o ehangu mynediad ac ymestyn addysg uwch i gyrraedd cymunedau fel bod presenoldeb systematig mewn ysgolion ac addysg bellach. Rhaid inni ddileu rhwystrau artiffisial rhwng addysg bellach ac addysg uwch i sicrhau bod modd symud yn ddidrafferth rhwng y ddau sector. Gweithredwn i wireddu’r cymhwyster arfaethedig sy’n seiliedig ar gredyd a throsglwyddo fframwaith i sicrhau opsiynau clir a syml i ddysgwyr sy’n dymuno trosglwyddo rhwng darparwyr.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddaf yn rhyddhau £2 filiwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf i gefnogi mentrau peilot i recriwtio a chadw’r rheini na chafodd addysg uwch. Bydd yr arian hwn ar gael i’r sefydliadau hynny sy’n ymgoroffori’r agenda ailgyflunio.

Mae’r strategaeth hon yn cynrychioli ymrwymiad hirdymor. Rhaid inni ddechrau drwy osod y seiliau ar gyfer llwyddiant hirdymor. Felly bwriadaf ganolbwyntio ar ailgyflunio a chydweithio yn y lle cyntaf. Caiff ariannu ychwanegol y tu hwnt i’r ysgogiadau canolog hyn eu hystyried mewn cylchoedd cynllunio cyllideb dilynol, ac yng ngoleuni cyflawniadau cynnar y sector. Yr ydym yn glir, fodd bynnag, y bydd ariannu ychwanegol ond ar gael ar sail rhywbeth-am-rywbeth. Byddwn yn cefnogi ac yn gwobrwyo rhagoriaeth; ni chynigiwn gymhellion ar gyfer perfformiad cymhedrol.

O ran y strategaeth, yn y blynyddoedd i ddod, ceisiwn gefnogi’r gwaith o fynd ar drywydd rhagoriaeth mewn meysydd eraill. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector wneud newid sylweddol yn ei berfformiad ar fasnachu gwybodaeth a grëir mewn sefydliadau addysg uwch. Yr ydym eisoes wedi rhyddhau £34 miliwn dros bedair blynedd drwy’r gronfa defnyddio gwybodaeth. Parhawn i adolygu hyn ac ystyried y ddadl dros ddarparu ffrwd ariannu sengl ar gyfer gwaith trydedd genhadadaeth. Gall y sector wneud cyfraniadau amlwg iawn i’r economi yn y maes hwn.

Rhaid inni adeiladu ar berfformiad ymchwil. Byddwn yn archwilio a oes dadl dros ailasesu dulliau ariannu i sicrhau ein bod yn cefnogi rhagoriaeth yn ogystal â gwelliannau a datblygiadau newydd.

Ni ddylem danbwysleisio rôl sefydliadau addysg uwch o ran cynhyrchu gweithlu medrus a dymunwn sicrhau bod y sector yn cadw ei enw da am ragoriaeth mewn safonau addysgu. Ystyriwn sut i wobrwyo dulliau dysgu arloesol a llwyddiant yn y maes hwnnw.

Yr ydym am gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd dim ond 3 y cant o fyfyrwyr sy’n ymgymryd â rhyw elfen o’u gradd drwy’r Gymraeg. Yr ydym yn disgwyl i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gomisiynu adroddiad ar lefelau’r galw a thueddiadau a ragwelir, gan gadw mewn cof y rhyngberthynas rhwng cyflenwad a galw.

Mae hon yn agenda heriol. Rhaid i addysg uwch adeiladu ar ei llwyddiannau a pharhau i fod yn ymatebol i’w rhanddeiliaid. Rhaid iddi ddangos ei bod yn barod i addasu, moderneiddio a helpu i gyflawni blaenoriaethau strategol y Llywodraeth ar gyfer Cymru. Yn ei dro, byddwn yn cefnogi’r sector i gyflawni ein nod ar y cyd: sector addysg uwch lwyddiannus a ffyniannus yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio agos â CCAUC a’r sector wrth gyflwyno’r strategaeth hon.