Skip to content

Datganiad Llafar ar y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Mae tair prif elfen i’m datganiad ar y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i Gymru: y corff newydd a’r cynnydd tuag at ei sefydlu; sut y bydd yn gweithio—ei rôl benodol wrth amddiffyn plant, a’i gysylltiad â datblygiad yr Asiantaeth Diogelu Iechyd yn Lloegr; a’r buddion a geir o ganlyniad.

Mae’r term ‘iechyd cyhoeddus’ yn cwmpasu llawer o swyddogaethau, gan gynnwys hybu iechyd. Ar y cyd ag eraill y tu mewn a’r tu allan i’r GIG, y corff hwn yw’r grym ysgogol sy’n gefn i’n gwaith o warchod a gwella iechyd pobl, ac i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. I fyrddau iechyd lleol, mae gwarchod a gwella iechyd pobl yn flaenoriaeth gyfartal ochr yn ochr â chomisiynu gwasanaethau iechyd effeithiol ac effeithlon. Mae’r camau penodol a gymerwn i helpu pobl i wella eu hiechyd yn talu ar eu canfed mewn cymunedau ledled Cymru a bydd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn atgyfnerthu hynny.

Bydd y gwasanaeth yn bodoli o 1 Ebrill 2003 ymlaen. Ni fydd ganddo swyddogaethau statudol, ond bydd yn darparu adnoddau ac arbenigedd hanfodol fel y gall byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau GIG gyflawni eu swyddogaethau hwy. Bydd yn cyfuno staff iechyd cyhoeddus o awdurdodau iechyd a staff o’r Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, gan gynnwys staff Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Cymru. Bydd yn amddiffyn y cyhoedd, yn arolygu atal a rheoli clefydau trosglwyddadwy, ac yn cynnig gwasanaethau labordy. Bydd yn helpu i asesu anghenion iechyd lleol, yn cynghori ar ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn hybu iechyd a lles ac yn datblygu’r capasiti ar gyfer iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles lleol.

Trefnir y gwasanaeth ar sail tri rhanbarth sy’n cydffinio â rhai Adran GIG Cymru. Bydd Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd yn uned fusnes o fewn y gwasanaeth cenedlaethol. Mae Cyfarwyddwr y gwasanaeth, Dr Cerilan Rogers, a’r tri chyfarwyddwr rhanbarthol, wedi’u penodi eisoes. Ymddiriedolaeth GIG Felindre fydd yn gartref i’r gwasanaeth ac fe’i detholwyd drwy broses agored. Mae gan yr ymddiriedolaeth honno gryn brofiad o redeg gwasanaethau i Gymru gyfan ac mae ganddi record dda. Bydd ei phrofiad yn gymorth i ddatblygu’r gwasanaeth fel corff cadarn ac effeithlon.

Bydd tua 350 o staff yn trosglwyddo i’r gwasanaeth wrth iddo ymgymryd â swyddogaethau craidd yr awdurdodau iechyd, yn ogystal â thua 130 o staff sy’n ymwneud â phrosiectau penodol. Bydd tua 300 o staff yn cael eu trosglwyddo i’r gwasanaeth o Wasanaeth Labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhagwelir y bydd y gwaith o drosglwyddo’r staff wedi’i gwblhau erbyn 1 Ebrill 2003.

Bydd y gwasanaeth yn darparu cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus lleol ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol a fydd yn rhan o dîm rheoli’r bwrdd. Bydd y cyfarwyddwr lleol, fel y prif ryngwyneb rhwng y bwrdd a’r gwasanaeth cenedlaethol, yn atebol i brif weithredwr y bwrdd iechyd lleol am ddarparu gwasanaethau. Cyfarwyddwr Adran GIG Cymru fydd swyddog cyfrifo’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol. Am berfformiad a safonau proffesiynol yn gyffredinol, bydd y gwasanaeth yn atebol i Brif Swyddog Meddygol Cymru. Rheolir ei berfformiad drwy gytundebau lefel gwasanaeth.

Bydd gwasanaeth amddiffyn plant y GIG i Gymru gyfan yn rhan allweddol o’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a bydd yn gofalu am yr holl swyddogaethau a briodolir i’r awdurdodau iechyd ar hyn o bryd drwy Ddeddf Plant 1989 ac mewn canllawiau dilynol, yn enwedig ‘Gweithio gyda’n gilydd i Ddiogelu Plant’. Bydd y meddygon a’r nyrsys dynodedig sydd yn yr awdurdodau iechyd yn awr yn dod yn rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol. Byddant yn parhau i gydweithio’n agos â phwyllgorau amddiffyn plant ardal, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau a byrddau iechyd lleol gan weithredu fel ffynhonnell hollbwysig o gyngor proffesiynol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol.

Mae datblygu ein gwasanaeth cenedlaethol yn rhywbeth sy’n deillio o’r adolygiad o iechyd cyhoeddus. Edrychodd yr adolygiad hwnnw ar swyddogaethau iechyd cyhoeddus. Ystyriodd y gwahanol bartneriaid a rolau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaeth cynhwysfawr i ategu a chryfhau’r swyddogaethau yng Nghymru.

Mae’r Adran Iechyd yn bwriadu sefydlu’r Asiantaeth Diogelu Iechyd fel awdurdod iechyd arbennig i ymgymryd â swyddogaethau o dan Ddeddf y GIG o 1 Ebrill 2003. Mae’r datblygiad hwnnw ar gyfer Lloegr wedi cynnig cyfle i deilwra trefniadau yng Nghymru.

Bydd y Cynulliad yn cadw swyddogaethau cynllunio argyfwng iechyd ac yn cydweithio’n agos ag arbenigwyr yn yr Adran Iechyd a’r Asiantaeth Diogelu Iechyd. Mae Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd wedi gweithredu fel corff i Gymru a Lloegr. Mae cyfuno Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru â’n hadnoddau iechyd cyhoeddus yn golygu y bydd un corff a chanddo’r gallu a’r arbenigedd angenrheidiol i ymdrin â chlefydau trosglwyddadwy fel rhan annatod o gamau mwy cyffredinol i warchod a gwella iechyd pobl. Mae cefnogaeth eang i’r datblygiad hwnnw a cheir llawer o fuddion ohono.

Y gwasanaeth newydd fydd y cyfrwng mwyaf effeithiol i ddefnyddio’r sylfaen sgiliau bresennol ar gyfer iechyd cyhoeddus yng Nghymru a bydd yn datblygu ein màs critigol o arbenigedd iechyd cyhoeddus ymhellach. Bydd yn arwain at sefydlu safonau ymarfer i Gymru gyfan a bydd yn cryfhau rhwydweithiau proffesiynol a chlinigol. Er mai swyddfeydd rhanbarthol fydd yn rheoli adnoddau’n lleol, bydd yn wasanaeth cenedlaethol a chanddo adnoddau ac arbenigedd a fydd ar gael ledled Cymru. Drwy greu gwasanaeth iechyd cyhoeddus integredig i ddiwallu anghenion byrddau iechyd lleol ac eraill, gellir sicrhau manteision darparu lleol a threfniadaeth genedlaethol. Bydd yn sicrhau y caiff adnoddau eu trefnu’n effeithiol. Mae hyn yn ddechrau newydd i iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Cefnogir y datblygiad hwn gan y rhanddeiliaid, ac mae’n bwysig bod hynny’n cynnwys staff gwasanaethau iechyd cyhoeddus a Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd Cymru. Bydd y gwasanaeth yn gweithio gyda chwsmeriaid i ddatblygu ei wasanaethau i sicrhau y gall ymateb yn effeithiol ac yn effeithlon i’r galwadau a fydd arno. Bydd hynny’n atgyfnerthu’r capasiti a’r seilwaith iechyd cyhoeddus yng Nghymru heb gost ychwanegol, a bydd yn cydweithio’n agos â Chanolfan Iechyd Cymru. Yr wyf yn ffyddiog y bydd y datblygiad hwn yn helpu gydag iechyd yng Nghymru, ac y bydd yn gyfraniad o bwys i les cymdeithasol ac economaidd Cymru.