Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes Jane Davidson
Mae’n dda iawn gennyf gyhoeddi ein bwriad i gyflwyno cynllun cymorth newydd i fyfyrwyr sy’n unigryw i Gymru.
Mae hyn yn gwireddu un o argymhellion allweddol yr adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd, a gomisiynais gan y grwp ymchwil annibynnol i galedi ac ariannu myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Teresa Rees. Hoffwn ddiolch unwaith eto i aelodau’r grwp am roi inni dystiolaeth gadarn, a arweiniodd at y datganiad heddiw.
Maes allweddol o bryder, yn arbennig i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel, oedd y canfyddiad o rwystr ariannol i barhau gydag addysg. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau i ddysgu, a heddiw yr wyf yn cyhoeddi grant dysgu newydd gan y Cynulliad, a fydd yn rhoi ffynhonnell ychwanegol sicr o gymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch, ac, am y tro cyntaf, mewn addysg bellach hefyd. Bydd hwn yn gweithredu fel hawl i fyfyrwyr sy’n gymwys, gan sicrhau bod gan bawb gymhelliant i barhau â’u haddysg.
Pan gyflwynodd yr Athro Teresa Rees ei hadroddiad gyntaf, dywedais fod angen inni roi ystyriaeth fanwl a chadarn iddo, nid yn lleiaf o ran cost. Mae’r gwaith hwnnw bellach wedi ei gwblhau. Bydd grant dysgu newydd y Cynulliad yn cael ei ariannu o gyfanswm o ddarpariaeth o £41 miliwn yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau Ebrill 2002, a thros £50 miliwn yn y flwyddyn nesaf. O Ebrill 2002, felly, byddwn yn mwy na dyblu y £20 miliwn a neilltuwyd gennym ar gyfer cronfeydd caledi a mynediad dewisol ar gyfer y flwyddyn ariannol, a wnaeth hefyd ddyblu’r ddarpariaeth o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cytunwyd ar y symiau hyn gan y Cabinet a darparwyd ar eu cyfer yng nghyllideb y Llywodraeth. Mae hyn yn ddatganiad clir o ymrwymiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog pawb sydd â’r gallu i wneud hynny i barhau i ddysgu.
Bydd prawf moddion ar gyfer grant dysgu y Cynulliad, ac fe’i targedir at y dysgwyr tlotaf fel rhan o ddyhead Llywodraeth y Cynulliad i oresgyn tlodi cyfle a chynyddu mynediad mewn cymunedau incwm isel. Bydd y grant nid yn unig yn galluogi unigolion i wella eu sgiliau, ond bydd yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i gyflwyno ein hagendâu economaidd a diwylliannol drwy annog pobl i osod dyheadau isel o’r neilltu ac i anelu at eu lefel uchaf o gyrhaeddiad. Bydd yn helpu i godi lefel yr addysg a’r sgiliau yng ngweithlu Cymru er mwyn gallu wynebu’r heriau economaidd a’r heriau eraill a wynebwn wrth feithrin cymdeithas wirioneddol gynhwysol yn well. Dengys fod y Cynulliad wedi gwrando ar bryder dilys am galedi gwirioneddol, ac felly rwystrau real i ddysgu. Rhaid mynd i’r afael â’r pryderon hyn os ydym i gyrraedd ein nodau o ymestyn mynediad a chyfranogiad, ar gyfer cyfnod lle nad yw dysgu, ac ni ddylai fod, yn hawl i’r elît yn unig.
Mae gan Gymru yn barod well record nag unrhyw ran arall o dir mawr y DU o ran denu pobl ifanc o grwpiau sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol i addysg uwch. Ein record wrth ddenu myfyrwyr aeddfed o gefndiroedd llai breintiedig yw’r gorau yn y DU, ac mae canran y bobl sy’n tynnu allan ymhlith y grwp hwn yn is yng Nghymru. Yr ydym am wella ar y record honno. Fodd bynnag, mae pob pwynt canran yr anelwn ato i wella y gyfranogaeth honno yn profi’n anos fyth i’w gyflawni. Rhoddir llawer o resymau pam nad yw myfyrwyr posibl yn cynnig am leoedd ar gyrsiau mewn addysg bellach ac uwch. Yr ydym yn pryderu bod y rhesymau mwyaf ynghlwm wrth ofnau myfyrwyr—gwirioneddol a chanfyddol—o galedi ariannol. Dyna pam y comisiynwyd adroddiad Rees gennym. Dywedodd yr adroddiad wrthym bod sail gyfiawn i’n pryderon ac y dylem wneud rhywbeth creadigol i fynd i’r afael yn effeithiol â’r broblem.
Bydd grant dysgu’r Cynulliad yn rhoi cymorth yn ychwanegol i’r darpariaethau statudol presennol, megis benthyciadau myfyrwyr. Bydd y grant ar gyfer myfyrwyr tlotach eu byd sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf dair blynedd a bydd ar gael iddynt lle bynnag y dewisant astudio, yng Nghymru neu mewn man arall. Bydd y grant yn cael ei dalu i bobl fynychu cyrsiau sylweddol y mae angen mwy na 200 awr y flwyddyn o waith dosbarth, ar yr amcangyfrif diweddaraf, ar eu cyfer. Mae hyn yn cyfateb â saith awr yr wythnos ar gyfartaledd a bydd felly yn berthnasol i lawer o gyrsiau rhan amser. Dengys y ffigurau sydd ar gael y byddwn yn gallu darparu grantiau rhwng £700 a £800 ar gyfartaledd i ryw 43,000 o fyfyrwyr gyda’r uchafswm grant yn £1,500. Mae’r myfyrwyr hynny yn ddysgwyr a fyddai fel arall yn ei chael hi’n anodd, os nad yn amhosibl, i ymroi i gwrs addysg uwch neu bellach.
Bydd y grantiau ar gael i ddysgwyr sy’n byw yng Nghymru lle bynnag y dewisant astudio ond ni fydd y system yn gosod myfyrwyr sy’n dod i Gymru o dan fwy o anfantais nag ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i roi arian i sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru y gallant ei ddefnyddio i roi’r un math o ddiogelwch ariannol i fyfyrwyr o’r tu allan i Gymru ag sydd ganddynt ar hyn o bryd o dan drefniadau’r gronfa mynediad a chaledi dewisol.
Gwnaed gwaith defnyddiol yn barod gydag awdurdodau addysg lleol ac eraill ar y camau ymarferol sydd eu hangen i roi’r grant newydd ar waith. Cawsom drafodaethau hefyd gyda’r sectorau addysg bellach ac uwch ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ynglyn â’r angen i farchnata y grant newydd yn egnïol, er mwyn cyrraedd y rheini a all elwa ar y cyfle newydd hwn.
Bydd ymgynghoriad ffurfiol a byr yn awr yn dechrau ar y rheoliadau Cynulliad sydd eu hangen i gyflwyno’r grant, ac i roi’r trefniadau gweinyddol angenrheidiol ar waith. Yn amodol ar hynny, rhagwelwn y bydd grant dysgu’r Cynulliad yn weithredol o fis Medi eleni.
Mae hwn yn gynllun newydd sbon. Adeilada ar nifer o fentrau gan y Llywodraeth Lafur ar gyfer Prydain gyfan, ond â gryn dipyn ymhellach. Mae ymestyn y cynllun i addysg bellach yn gwneud hwn yn wahanol i unrhyw gynllun grant blaenorol. Yn y cynllun hwn yr ydym yn mynd ati i ddymchwel rhwystrau rhwng yr hyn a elwir yn llwybrau academaidd a galwedigaethol i addysg. Yr ydym yn benderfynol o ymestyn mynediad a chyfle i holl bobl Cymru.
I ddechrau, bydd y cynllun grant mor syml â phosibl. Bydd y flwyddyn gyntaf yn cael ei thrin i raddau helaeth fel blwyddyn arloesi. Yr ydym am ddysgu o’r profiad hwnnw a defnyddio’r hyn a ddysgwn i fireinio’r cynllun ar gyfer y dyfodol.
Mae hon yn stori o newyddion da anferth i’r 43,000 o ddysgwyr ar draws Cymru. Mae’n gam pwysig ymlaen ar gyfer ehangu mynediad. Dengys ein bod yn cymryd caledi, ac effaith ddrwg dyled ymhlith myfyrwyr difreintiedig, o ddifrif yng Nghymru. Ni yw’r unig ran o’r DU i fynd i’r afael ag ef yn y modd hwn. Yr ydym yn gwneud pethau’n wahanol yng Nghymru. Yr ydym yn gosod yr amodau cywir i ddysgwyr. Mae’n amser da i ddechrau astudio yng Nghymru, ac mae’n gam pellach tuag at sefydlu Cymru fel gwlad sy’n dysgu.