Skip to content

Datganiad ar Gynigion Llwyddiannus ar gyfer Rhaglenni Hybu Iechyd yn y Sector Gwirfoddol 2002-2004

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y ceisiadau llwyddiannus am arian prosiect ar gyfer 2002-04 o gynllun grant hybu iechyd yn y sector gwirfoddol.

Fel y gwêl y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yfory yn adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae cydnabyddiaeth gynyddol o werth a phwysigrwydd ei gyfraniad. Mae dros 4,000 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru y mae eu gwaith yn ymwneud â materion iechyd a gofal cymdeithasol ac yr wyf yn falch o ddweud bod gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector gwirfoddol ac o fewn y sector hwnnw yn cynyddu.

Cymunedau yn gynyddol yw prif ganolbwynt gweithredu hybu iechyd a lles. Mae’r sector gwirfoddol mewn lle delfrydol i helpu cymunedau i nodi eu hanghenion iechyd eu hunain a mynd i’r afael â hwy, a darparu mynediad i aelodau mwyaf diamddiffyn a difreintiedig o gymdeithas. Mae cynllun grant hybu iechyd yn y sector gwirfoddol yn bodoli i gryfhau gwaith hybu iechyd cenedlaethol yng Nghymru. Cynigir grantiau i fudiadau gwirfoddol cenedlaethol a all gyfrannu i waith hybu iechyd cyffredinol ac ategu gwaith cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r grantiau’n daladwy o dan adran 64 Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968.

Yn dilyn adolygiad o’r cynllun y llynedd, derbyniais argymhelliad, ar gyfer y prosiectau nesaf, y dylid annog mudiadau gwirfoddol i weithio mewn partneriaeth â’i gilydd a chydag asiantaethau eraill. Dylai hyn fod o gymorth i gryfhau cydweithio, rhannu arbenigedd a rhwydweithio.

Y themâu ar gyfer 2002-04 yw pobl hyn, grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd, cryfhau rhwydweithiau cymunedol ac atal damweiniau a rheoli anafiadau.


Yr oedd y gystadleuaeth yn frwd iawn eleni. Daeth 34 o geisiadau i law gan fudiadau gwirfoddol cenedlaethol, a bu wyth yn llwyddiannus. Maent i gyd yn bodloni’r meini prawf y cytunwyd arnynt yn y broses adolygu ac mae rhai prosiectau yn mynd i’r afael â mwy nag un o’r themâu eleni. Bydd y prosiectau llwyddiannus a gyhoeddaf heddiw yn gweithredu rhwng Ebrill 2002 a Mawrth 2004 a chânt oll ran o’r £400,000 sydd ar gael dros y ddwy flynedd nesaf.

Y mudiadau a’r prosiectau llwyddiannus yw fel a ganlyn: Caiff Child Safe Wales grant o £68,000 ar gyfer rhaglen o waith sy’n cynnwys prosiect atal damweiniau ac anafiadau i blant, a fydd yn cyflwyno asesiad o risg yn y cartref a rhaglen lleihau risg i gymunedau yng Nghymru sydd ag anghenion mawr. Caiff y Groes Goch Brydeinig grant o £55,000 ar gyfer cynllun mentoriaid gwirfoddol i geiswyr lloches. Bydd y prosiect hwn yn gweithio â cheiswyr lloches sy’n newydd ddyfodiaid i ehangu ac adeiladu ar eu gallu i hybu eu hiechyd a’u lles eu hunain drwy weithgareddau amrywiol a drefnwyd. Caiff y Church Army £55,000 ar gyfer prosiect o’r enw Health Raising Awareness and Peer Support, a fydd yn helpu pobl ifanc i nodi rhwystrau i iechyd a’r ffactorau sy’n arwain at hunan-niwed. Cânt eu hannog i ddatblygu strwythurau cymorth cyfoedion a rhwydweithiau lledaenu ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Caiff Gofal a Thrwsio Cymru £26,000 ar gyfer prosiect sy’n anelu at ddatblygu cydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol iechyd, gweithwyr tai a gweithwyr gofal cymdeithasol drwy godi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad rhwng tai gwael, iechyd gwael a damweiniau yn y cartref.

Caiff y British Trust for Conservation Volunteers Cymru £85,000 ar gyfer prosiect i hyrwyddo’r defnydd o gampfeydd gwyrdd. Ei nod yw helpu i wella iechyd cymunedau difreintiedig yn gynaliadwy drwy hybu gweithgaredd gorfforol drwy gymryd rhan mewn prosiectau cadwraeth. Caiff Cruse Bereavement Care Cymru £43,000 ar gyfer prosiect porth gwasanaeth profedigaeth, fydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o brofedigaeth ymysg darparwyr a defnyddwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn anelu at wella mynediad i gymorth mewn profedigaeth, a thrwy hynny helpu i atal salwch meddwl a thrafferthion cymdeithasol sy’n gysylltiedig â phrofedigaeth ymhlith pobl nad ydynt yn cael cymorth. Caiff Voices from Care £33,000 ar gyfer prosiect hybu iechyd dan arweiniad cyfoedion ar gyfer pobl ifanc sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal. Nod y prosiect hwn fydd gwella mynediad i wybodaeth iechyd ar gyfer y bobl ifanc hyn a helpu i sicrhau y caiff eu hanghenion hwy eu trafod o fewn mentrau gofal iechyd a chymdeithasol eraill. Yn olaf, caiff Plant yng Nghymru £33,000 ar gyfer prosiect sy’n anelu at wella iechyd plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal drwy wella ymarfer proffesiynol i sicrhau bod pobl ifanc yn cyrraedd eu llawn potensial. Anelir y prosiect hwn at bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Bydd Voices from Care a Phlant yng Nghymru yn cydweithio’n agos a chynlluniwyd eu prosiectau i ategu ei gilydd.

Mae’r holl brosiectau hyn yn dangos prosesau partneriaeth ac ymuno ar gyfer gwell iechyd. Maent yn dangos y bartneriaeth rhwng Llywodraeth y Cynulliad a’r sector gwirfoddol wrth inni gydweithio â’r mudiadau hyn i sicrhau y caiff amcanion pob prosiect eu cyflawni a’u cefnogi, a phartneriaeth rhwng y mudiadau hyn ac asiantaethau eraill. Mae’r prosiectau hefyd yn dangos ymrwymiad mudiadau o fewn a’r tu allan i’r maes iechyd a gofal cymdeithasol i ymuno ar draws sectorau i weithio ar gyfer gwell iechyd a lles ar gyfer pobl Cymru.