Skip to content

Datganiad Llafar ar Hiliaeth mewn Chwaraeon

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jenny Randerson, Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg
Yn dilyn pwynt o drefn John Griffiths yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2002, cytunais i roi datganiad ar y digwyddiad hiliol honedig mewn gêm ddiweddar yng Nghwpan y Principality rhwng clwb rygbi Bonymaen a chlwb rygbi Casnewydd. Gadewch inni fod yn glir o’r dechrau—ni ellir goddef unrhyw fath o hiliaeth, mewn unrhyw chwaraeon nac ar unrhyw lefel mewn chwaraeon. Dylid trin pob digwyddiad hiliol mewn chwaraeon o ddifrif, gyda gweithredu llym yn erbyn y sawl sy’n cymryd rhan mewn cam-drin hiliol.

Cyngor Chwaraeon Cymru sy’n gweithredu polisi chwaraeon Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y cyngor chwaraeon yw cynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, codi safonau, gwella cyfleusterau a darparu cyngor technegol a dealltwriaeth gyffredinol am chwaraeon a hamdden. Caiff amcanion y cyngor eu hyrwyddo mewn cydweithrediad agos gyda’r cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol yn bennaf. Mae telerau ac amodau ariannu drwy grant a ddarperir gan Gyngor Chwaraeon Cymru yn gofyn am hyrwyddo cadarnhaol ar gyfle cyfartal. Gall y cyngor chwaraeon dynnu arian grant yn ôl os na chedwir telerau ac amodau’r grant.

Yn yr achos penodol hwn, haerir bod chwaraewr o dîm clwb rygbi Bonymaen o adran gyntaf y cynghrair cenedlaethol, wedi cam-drin chwaraewr o dîm clwb rygbi Casnewydd yn yr uwch-adran yn ystod gêm Cwpan y Principality ar 23 Chwefror 2002, a hynny ar sail hil. Rhoddwyd gwybod i mi gan Undeb Rygbi Cymru, yn wahanol i adroddiadau yn y wasg, nad yw clwb rygbi Casnewydd wedi cwyno’n ffurfiol i’r undeb am y digwyddiad honedig eto. Pe bai yr undeb yn derbyn cwyn o’r fath, bydd yn ymchwilio iddi ac yn cymryd camau priodol ar sail canlyniadau ei ymchwil. Bydd y gwyn yn cael ei thrafod gan banel ymchwilio, ac mae gan yr undeb bwer i ddyfarnu cosbau drwy gerydd, dirwy, gwaharddiad neu ddiarddel. Yn ôl y wybodaeth sydd gennyf nid yw’r heddlu, hyd yn hyn, yn ymwneud â’r mater hwn.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod chwaraeon yng Nghymru ar gael i bawb, waeth beth fo’u hil, cred neu’u tarddiad ethnig. Mae gennym bobl sy’n rhoi esiampl wych yng Nghymru fel y mae llun Colin Jackson yn neuadd y Cynulliad yn tystio. Rhaid inni anelu at annog mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig i ymhél â chwaraeon, a’u defnyddio i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae miliynau o bobl ledled Cymru a thu hwnt yn mwynhau pob math o chwaraeon ac mae’n ffordd effeithiol i uno pobl, waeth beth fo’u hil, rhyw, anabledd neu’u tarddiad. Mae’n gyfrifoldeb ar gyrff llywodraethol chwaraeon, clybiau, sefydliadau, unigolion a Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddileu hiliaeth o bob agwedd ac ar bob lefel o chwaraeon yng Nghymru. Rhaid inni fynd ati i’w herio a’i ddileu.

Oherwydd ei broffil a’i safle ym mywyd Cymru, gall rygbi fod yn rym pwysig er daioni mewn cymdeithas. Mae pobl ifanc yn gwylio’n fanwl i weld beth a wna chwaraewyr rygbi, ac yn gwrando’n astud ar yr hyn a ddywedir ganddynt. Mae Rygbi yn gyfrwng pwerus i gyfleu neges goddefgarwch a pharch i bobl ifanc.

Ymdrecha pêl-droed osod esiampl i weddill cymdeithas drwy gymryd camau pendant i fynd i’r afael â hiliaeth a defnyddio’i botensial i addysgu a chreu gwell cymdeithas. Mae chwaraeon eraill, gan gynnwys rygbi, yn gallu dysgu llawer o’r gwaith a wneir mewn pêl-droed i ddileu hiliaeth yn y gêm. Yn wyneb y digwyddiad diweddar hwn, byddaf yn gofyn i’m swyddogion ystyried gyda Chyngor Chwaraeon Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y posibiliadau ar gyfer ddefnyddio chwaraeon yn well i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.