Mae'r newidiadau yn y gyllideb i Amaethyddiaeth a Materion Gwledig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid ar gyfer 2003-04 i 2005-06 yn cynrychioli buddsoddiad arwyddocaol yn nyfodol amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig Cymru. Mae cyfanswm o £22 miliwn yn fwy nag eleni - cynnydd o bron i 10 y cant - yn cael ei neilltuo ar gyfer 2003-04. Mae'r datganiad hwn yn esbonio'r prif newidiadau i'r gyllideb. Mae'r camau rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn fuddsoddiad sylweddol i ddiogelu sylfaen amaethyddol Cymru.
Mae iechyd anifeiliaid yn ganolog i ddyfodol diogel a llewyrchus amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae fy nghyllideb yn mynd i ddod â rhaglenni newydd i ddau faes pwysig ohono sy'n neilltuol o bwysig i ffermio yng Nghymru. Yn gyntaf, mae ceisio arafu'r cynnydd mewn TB mewn gwartheg yn flaenoriaeth. Mewn cydweithrediad â DEFRA, cyhoeddais ar 9 Hydref raglen i ddatblygu strategaeth interim Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys gosod cyfyngiadau ar symud anifeiliaid sy'n aros am brofion ynghyd â mesurau i leihau effeithiau'r cyfyngiadau hyn ar ffermydd unigol ac i dreialu'r Prawf Gamma Interferon i ddarganfod y clefyd yn fwy effeithiol a'i ddifa'n gynt. Bydd Cymru yn elwa ar y rhaglenni hyn ac rwy'n ffyddiog y bydd y diwydiant yn eu croesawu'n frwd. Trwy'r datganiad hwn ar y gyllideb, mae Llywodraeth y Cynulliad yn neilltuo £2 miliwn ychwanegol bob blwyddyn am y ddwy flynedd nesaf i gael gwared ar y cwt o brofion sy'n disgwyl cael eu cynnal a chael pethau'n ôl fel y dylent fod. Dyma'r rhaglen fwyaf cynhwysfawr erioed yng Nghymru i ddifa'r clefyd.
Yn ail, mae'r sector defaid yn allweddol i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae cael gwared ar y perygl theoretig o BSE mewn defaid trwy fagu defaid sydd ag ymwrthedd i'r ysfa, felly, yn hanfodol. Roedd Cynllun Genoteipio Defaid Cymru, a fu mewn grym am flwyddyn yn 2001, yn effeithiol a phoblogaidd. Cafodd 25,000 o ddefaid eu genoteipio drwyddo. Mewn cydweithrediad â'r diwydiant ei hun, mae argymhellion wedi'u paratoi inni allu ymestyn y cynllun a darparu gwasanaeth ffrwythloni artiffisial i'w ategu. Mae'r ddau gynllun ger bron Comisiwn yr UE ar y funud yn cael eu hystyried. Ar yr amod y ceir sêl bendith y Comisiwn iddynt, rwy'n clustnodi £7.5m ychwanegol dros y 3 blynedd nesaf i gynyddu'n sylweddol nifer y defaid sy'n cael eu genoteipio - i ryw 500,000. Bydd Sector Defaid Cymru, drwy hyn, yn geffyl blaen yn Ewrop yn y frwydr yn erbyn yr ysfa gan ychwanegu at ei enw da am ansawdd a chan ddangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i'w ddyfodol.
Yn drydydd, gwelwyd yn ystod argyfwng Clwy'r Traed a'r Genau bod angen edrych o'r newydd ar y cytundeb datganoli, yn enwedig o ran trosglwyddo pwerau iechyd anifeiliaid i'r Cynulliad a chael mwy o adnoddau i weithredu polisiau milfeddygol. Mae Swyddfa Cymru a DEFRA wrthi'n gweithio ar hyn ac yr wyf yn awr yn neilltuo cyllid wrth gefn i'r Cynulliad Cenedlaethol allu ysgwyddo'r pwerau ychwanegol hyn.
Hefyd, mae Llywodraeth y Cynulliad yn clustnodi adnoddau i fynd â'r strategaeth a ddisgrifiwyd yn Ffermio i'r Dyfodol yn ei blaen, i roi dyfodol tymor hir a chynaliadwy o safbwynt economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i ffermwyr Cymru. Mae fy nghynlluniau ar gyfer y gyllideb yn mynd â'r maen hwn i'r wal mewn sawl ffordd:
- Ar gyfer Tir Mynydd, mae'r gyllideb ddrafft yn pennu'r hyn fydd yn cael ei neilltuo i'r cynllun am y tair blynedd nesaf. Mae'r hyn a ddarperir yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gynnal ffermio ar dir mwyaf ymylol Cymru. Ar gyfer 2003-04, mae'r gyllideb yn adlewyrchu'r ddarpariaeth a argymhellir yng Nghynllun Datblygu Cefn Gwlad Cymru. Wedi hynny, caiff £36m ei neilltuo bob blwyddyn, cynnydd ar y £26.8m a nodwyd yn y Cynllun Datblygu (o 2004-2005, ni fydd rhwyd diogelwch i'r cynllun Tir Mynydd);
- Mae cynnydd sylweddol i'r cynllun Tir Gofal. Yn ogystal â chadarnhau'r £1.5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, bydd cynnydd sylweddol hefyd dros y ddwy flynedd nesaf - £2.4 miliwn ar gyfer 2004-05 a £3.9 miliwn ar gyfer 2005-06 i ehangu'r cynllun;
- Bydd y ddarpariaeth a neilltuir ar gyfer ffermio organig yn golygu y gallaf gyflwyno taliadau stiwardiaeth i ffermwyr organig fel na fydd rhai Cymru o dan anfantais o'u cymharu â ffermwyr yn Lloegr. Cyhoeddaf y manylion yn y man;
- Hefyd, byddaf yn cyhoeddi papur ymgynghori i gyflwyno fy syniadau ar gyfer datblygu cynlluniau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru ymhellach. Bydd fy argymhellion yn debygol o gynnwys cynllun a fydd yn agored i bob ffermwr, ynghyd â chynlluniau mwy soffistigedig i'r rheini sy'n cynnig mwy o fanteision amgylcheddol, a buddiannau ychwanegol i fentrau cydweithredol - er enghraifft, o fewn dalgylch afon - lle byddai agwedd gydweithredol yn esgor ar fwy o fanteision amgylcheddol. Ceir darpariaeth yn y gyllideb i dreialu'r argymhellion hyn. Yn ogystal, mae'r cynlluniau yn cynnwys darpariaeth yn 2005-06 i dalu arian cyfatebol ar gyfer lefel uwch o fodwleiddio, hynny yn sgil cynnydd yn yr arian cyfatebol sydd wedi'i neilltuo gan y Trysorlys. Rhaid pwysleisio serch hynny nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gynyddu'r lefel modwleiddio dros y 4.5% arfaethedig: bydd hyn yn cael ei drafod wedi cyhoeddi canlyniadau'r Adolygiad Canol Tymor o Agenda 2000 i ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Bydd y papur ymgynghori yn cynnig syniadau ar gyfer defnyddio unrhyw nawdd ychwanegol y gall modwleiddio ac arian cyfatebol ei ddarparu.
Mae'r gyllideb ddrafft yn cadarnhau hefyd yr arian cyfatebol sydd wedi'i neilltuo eisoes ar gyfer Amcan Un a mesurau'r Cynllun Datblygu Cefn Gwlad sy'n gysylltiedig â grantiau prosesu a marchnata ac addasu ffermydd - cyfanswm o £10.8 miliwn. Mae hyn yn cadarnhau ymrwymiad cryf Llywodraeth y Cynulliad i Cyswllt Ffermio a lansiwyd fis Medi diwethaf ac sydd wedi bod yn hynod boblogaidd. Hyd yma, mae tros 5,000 o geisiadau am gynlluniau datblygu busnesau fferm wedi dod i law ac mae nifer y ceisiadau am grantiau gwella ffermydd a menter ffermydd ar gynnydd.
Yn ogystal â'r mesurau amaethyddol pwysig hyn, mae arian newydd gwerth £2.75 miliwn wedi'i neilltuo hefyd i gyllido nifer o fesurau i adfywio cymunedau cefn gwlad gyda golwg ar ddiwallu anghenion cymdeithasol ac economaidd ehangach. Byddaf yn cyhoeddi eu manylion hwy ar wahân yn yr ychydig ddyddiau nesaf.