Skip to content

Datganiad Llafar ar Drais Domestig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Rhoddaf bwys mawr ar weithredu ar drais domestig. Heddiw, rhoddaf wybod i chi am rai o fentrau diweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru a roddais ar waith. Mae trais domestig yn broblem ddifrifol sy’n effeithio ar bobl o bob cefndir ac ym mhob math o berthynas. Gall ddechrau â geiriau a symud ymlaen at gam-drin rhywiol a chorfforol, ac nid yw ond yn dod i ben weithiau pan gaiff rhywun ei ladd. Bob dydd yng Nghymru, ar gyfartaledd, mae 49 o fenywod yn cysylltu â Chymorth i Fenywod yng Nghymru o ganlyniad i drais domestig neu gamdriniaeth. Yn ystod un diwrnod cyfrifiad yn 2000, cysylltodd 138 o fenywod â Chymorth i Fenywod yng Nghymru, ac yr oedd 173 o fenywod a 240 o blant yn byw mewn llochesi ledled Cymru. Mae’n ffaith drist bod un fenyw yn y DU yn marw o ganlyniad i drais domestig bob tri diwrnod.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfrifoldeb dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a materion amddiffyn plant. Fel y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae gennyf gyfrifoldeb i helpu i atal trais domestig yng Nghymru a darparu gofal i’r rhai sy’n dioddef o’i herwydd. Fodd bynnag, mae’r cyfrifoldeb arweiniol dros yr agweddau troseddol ar drais domestig yn perthyn i’r Swyddfa Gartref. Mae uned lleihau troseddu’r Cynulliad, a ariannir gan y Swyddfa Gartref, yn adrodd i’r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac mae ganddi sawl rhaglen ar y gweill yn y maes hwn.

Mae’r Cynulliad mewn cysylltiad agos â’r Swyddfa Gartref ac mae wedi cymryd rhan yn ei hymgyrch ar drais domestig. Yr oedd gennym ran wrth lansio’r ymgyrch Torri’r Gadwyn yn 1999, a oedd yn cynnwys dosbarthu miloedd o daflenni a phosteri—yn y Gymraeg a’r Saesneg—i amrywiaeth eang o gyrff a mudiadau ledled Cymru. Bu’r swyddogion yn bresennol hefyd yng nghyfarfodydd y grwp rhyngadrannol ar drais domestig a thrais yn erbyn menywod.

Mae’r Cynulliad wedi cymryd sawl cam eisoes i sicrhau y cymerir trais domestig i ystyriaeth yn ein polisïau. Er enghraifft, yn Hydref 2001, gwnaethom lansio llawlyfr adnoddau trais domestig i weithwyr iechyd proffesiynol. Bellach mae gan staff drwy’r gwasanaeth iechyd wybodaeth gyfoes ar roi cyngor i fenywod. Gall plant ddioddef gan drais domestig hefyd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Oherwydd hynny yr ydym yn cynhyrchu protocol enghreifftiol, sy’n tynnu sylw at agweddau amddiffyn plant camdriniaeth ddomestig, sydd i’w ddosbarthu i bob pwyllgor ardal amddiffyn plant yng Nghymru.

Mae’r Cynulliad yn darparu arian ers rhai blynyddoedd i Gymorth i Fenywod yng Nghymru ac i’r Black Association of Women Step Out o sawl cyllideb wahanol fel y gellir rhoi lloches a chymorth i’r rhai sy’n dioddef gan drais domestig. Yr ydym hefyd wedi sicrhau bod y cyfarwyddyd perthnasol i awdurdodau lleol, landlordiaid cofrestredig, ysgolion a’r pwyllgorau amddiffyn plant ardal yn cynnwys cyfeiriad at yr angen i gymryd materion trais domestig i ystyriaeth. Er hynny, yr wyf yn ymwybodol bod angen gwneud mwy i dynnu’n holl strategaethau at ei gilydd a datblygu mentrau newydd i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.

Fel cam cyntaf, yr ydym wedi cyfuno sawl llif ariannu sydd wedi cynorthwyo Cymorth i Fenywod yng Nghymru yn y blynyddoedd blaenorol yn un cynllun grant newydd. Bellach mae gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru un ffynhonnell ariannol uniongyrchol o’r Cynulliad, ac mae honno yng Nghyfarwyddiaeth y Cymunedau, sydd â chyfrifoldeb polisi dros drais domestig a thrais yn erbyn menywod. Byddwn yn ystyried dulliau o ariannu mentrau ar drais domestig eto yn ystod y cylch cynllunio cyllideb nesaf.

Yr wyf hefyd wedi gofyn am sefydlu gweithgor ar drais domestig a thrais yn erbyn menywod. Bydd y grwp hwn yn cynnwys swyddogion Cynulliad o Gyfarwyddiaeth y Cymunedau, GIG Cymru, yr uned lleihau troseddu, a’r adrannau polisi addysg, tai a gofal cymdeithasol, ynghyd â chynrychiolwyr o gyrff allanol fel yr heddlu, llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a mudiadau gwirfoddol fel Cymorth i Fenywod yng Nghymru. Prif bwrpas y grwp hwn yw datblygu strategaeth gynhwysfawr i Gymru, sy’n ymdrin â’r agweddau cyfiawnder troseddol, iechyd, lles cymdeithasol, amddiffyn plant, addysg a chydraddoldeb ar drais domestig a thrais yn erbyn menywod. Yr wyf wedi gwahodd cynrychiolwyr a enwebwyd gan gyrff a mudiadau i fod yn aelodau, a chynhelir cyfarfod cyntaf y grwp cyn hir.

Yr wyf hefyd wedi cytuno mewn egwyddor i gynnal cynhadledd rynglywodraethol ar drais domestig yng Nghaerdydd ddiwedd y flwyddyn hon. Ystyrir hyn o ganlyniad i grwp cydlynu trawsffiniol a sefydlwyd yn 2000 i ddatblygu mentrau rhyngwladol ar faterion sy’n ymwneud â throseddu. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a Chymru. Cynhaliwyd cynhadledd ar drais domestig gan Adran Cyfiawnder, Cydraddoldeb a Diwygio’r Gyfraith Iwerddon yn Nulyn fis Rhagfyr diwethaf. Yng ngolwg ei llwyddiant, cynhelir cynhadledd arall a, drwy ei chynnal, cawn gyfle i amlygu pwnc trais domestig yng Nghymru.

Mae’r datganiad hwn yn dangos fy ymrwymiad i fynd i’r afael â’r broblem hon yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda chymorth arbenigwyr o asiantaethau eraill, yn datblygu polisïau mwy integredig yn hyn o beth yn y dyfodol ac yn rhoi arweiniad i bobl Cymru wrth fynd i’r afael â’r broblem annymunol hon.