Skip to content

Datganiad Llafar ar Fframwaith Adfywio’r Pum Sir

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru
Rhoddaf y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ynghylch diswyddiadau Corus a gwaith Llywodraeth y Cynulliad, ei hasiantaethau, a’r awdurdodau lleol, i liniaru effeithiau’r diswyddiadau, ac adfywio’r ardaloedd a effeithiwyd yn y pum sir.

Mae tua 15 mis bellach ers i Corus gyhoeddi ei golledion swyddi yng Nghymru. Wrth gwrs, mae’r diswyddiadau’n dal i ddod drwodd. Yn gynharach y mis hwn, collodd tua 140 o bobl eu swyddi pan gaeodd y ffyrnau golosg yn Llanwern, ond deallaf fod pob un o’r gweithwyr hynny wedi’i leoli mewn mannau eraill o fewn Corus. Bydd tua 450 o weithwyr yn gadael Glynebwy ar ôl y cau terfynol yng Ngorffennaf. Yn ogystal â’r colledion swyddi uniongyrchol, bu colledion anuniongyrchol ymysg contractwyr a darparwyr gwasanaethau eraill a ddibynnai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar Corus am eu bywoliaeth.

Yn fy natganiad ar y mater hwn ar 31 Ionawr, talais deyrnged i waith yr asiantaethau cymorth, yn enwedig Dysgu ac Addysgu Cymru, y Gwasanaeth Cyflogaeth, yr Asiantaeth Budd-daliadau a Gyrfa Cymru wrth sefydlu canolfannau cyngor a darparu help a chymorth i’r gweithwyr. Mae’r cymorth hwnnw wedi parhau ac mae ein ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 900 o’r rhai a enwyd i’w diswyddo wedi cael swyddi eraill. Mae’r asiantaethau wedi ymbaratoi’n llawn ar gyfer y rownd nesaf o golledion swyddi ac maent yn gweithio’n agos gydag eiriolwyr hyfforddiant y bartneriaeth ddur i sicrhau bod y cyngor a’r cyfarwyddyd gorau ar gael i bawb y mae arnynt eu hangen fel eu bod yn cael y budd mwyaf o’r pecyn cymorth sydd ar gael.

Yn fy natganiad yn Ionawr, soniais hefyd am y ganolfan ymchwil a datblygu ym Mhort Talbot. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod y ganolfan wedi’i hailenwi’n ECM2—canolfan peirianneg ar gyfer gweithgynhyrchu a defnyddiau. Cwblhawyd y prynu ar 30 Mawrth a phenodwyd prif swyddog gweithredu. Mae’r ganolfan wedi’i dynodi’n wasanaeth ymgynghorol gweithgynhyrchu i Gymru, rhan o raglen rhwydwaith yr Adran Masnach a Diwydiant. Mae’r ganolfan yn derbyn ymholiadau pellach oddi wrth sefydliadau sy’n dymuno ymgartrefu yno, felly mae’n addo’n dda i’r ganolfan.

Cyn mynd ymlaen i sôn yn benodol am y datblygiadau yn y De-ddwyrain, rhoddaf y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad hefyd ar y sefyllfa ynghylch ffwrnais chwyth rhif pump ym Mhort Talbot, a’r sefyllfa ddiweddaraf o ran effaith tollau dur yr Unol Daleithiau. Mae teuluoedd a chydweithwyr y rhai a gollodd eu bywyd neu a anafwyd yn ddifrifol gan y ffrwydrad yn ffwrnais chwyth rhif pump yn ein meddyliau o hyd. Parodd inni sylweddoli’r peryglon gwirioneddol sy’n wynebu’r rhai sy’n gweithio mewn diwydiannau trwm a’r gwasanaethau brys, sydd weithiau’n gorfod gofalu am y cleifion ar ôl ffrwydrad. Felly, yr oeddem yn falch o glywed am benderfyniad Corus i adeiladu ffwrnais chwyth newydd am £75 miliwn ac iddi berfformiad amgylcheddol gwell o lawer, a fydd yn adfer y gweithrediadau integredig arferol yng ngwaith Port Talbot cyn gynted â phosibl. Dyma brawf pendant o ymrwymiad y cwmni i gynhyrchu dur integredig yng Nghymru, ac yn goffadwriaeth addas i’r rhai a laddwyd neu a anafwyd yn y ffrwydrad.

Yr oedd cyhoeddiad yr Unol Daleithiau ar 5 Mawrth ei bod am godi tollau ar amryw o gynhyrchion dur a fewnforir i’r Unol Daleithiau heb unrhyw gyfiawnhad o gwbl, ac yn anffodus dros ben. Ar y cyd â Llywodraeth y DU, gwnaethom, a byddwn yn dal i wneud, y cyfan a allwn i ddiogelu buddiannau diwydiant dur y DU rhag y weithred gwbl annheg hon. Yr ydym wedi llwyr gefnogi cyflwyno mesurau diogelu dros dro yr UE rhag ymchwydd o ddechrau’r mis hwn i amddiffyn y diwydiant dur Ewopeaidd rhag dargyfeirio cynhyrchion dur a ddadleolwyd, na allant bellach fforddio mynd i farchnad yr Unol Daleithiau. Rhoesom ein cefnogaeth hefyd i’r camau a gymerwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd wrth apelio’n syth at weithdrefnau datrys anghydfod Corff Masnachu’r Byd, er ein bod yn cydnabod y gallai gymryd mwy na blwyddyn i benderfynu. Byddwn yn parhau i lwyr gefnogi mesurau i sicrhau na chaiff ein diwydiant dur ei drin yn annheg neu’i anfanteisio.

Gan droi at y fframwaith adfywio i’r pum sir, yr wyf yn falch o gyhoeddi y cafodd Llywodraeth y Cynulliad yr adroddiad terfynol gan y pum sir yn Chwefror. Mae’r adroddiad hwn yn ganlyniad i waith a wnaethpwyd ar ran y tasglu dur i Gymru gyfan gan awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thor-faen, y WDA ac ELWa, ac a ariannwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Dymunaf dalu teyrnged i waith yr awdurdodau lleol wrth ddod at ei gilydd a chyflwyno fframwaith adfywio ar y cyd. Mae hwn yn fodel y byddem yn ei gymell mewn mannau eraill o Gymru fel modd i gyflawni rhaglenni cydgysylltiedig sy’n cysylltu’r polisïau economaidd lleol a chenedlaethol. Mae adroddiad llawn y pum sir ar wefan y Cynulliad. Yr wyf yn falch o ddweud bod y Cabinet wedi cymeradwyo bron bob un o’r argymhellion ynddo, ac edrychwn ymlaen at weld yr awdurdodau lleol, ynghyd â’r asiantaethau perthnasol, yn dal i gydweithio drwy’r fforwm adfywio, i geisio cyflawni’r uchelgeisiau yn yr adroddiad.

Ym mis Ionawr, cyhoeddais sawl menter benodol a nodwyd yn y fframwaith ac a ariannwyd o’r £76 miliwn a ddarparodd Llywodraeth y Cynulliad. Er ei bod yn gynnar o hyd, gallaf adrodd bod y prosiectau hyn yn gwneud cynnydd da. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd, mewn partneriaeth â’r WDA, wedi comisiynu adroddiad dynodi ar gyfer y cwmni adfywio trefol arfaethedig. Bydd yr adroddiad yn gwneud argymhellion ynghylch ffin weithredol y cwmni a bydd yn cynnwys cynllun busnes drafft. Paratoir yr adroddiad ar y cyd ag adolygiad o gynllun datblygu unedol Casnewydd i sicrhau bod gweithgareddau’r cwmni nid-er-elw wedi’u llwyr integreiddio â’r system cynllunio statudol. Mae gwaith ar y gweill hefyd ar y cynllun a’r cynllun busnes i wasanaeth rheilffordd teithwyr Glynebwy. Bydd rhaglen i roi’r bwriad ar waith yn barod erbyn canol yr haf.

Mae’r cynigion ar gyfer campws dysgu newydd ar safle Glynebwy’n mynd rhagddynt yn dda. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Cymru Casnewydd, Coleg Gwent, ELWa, y WDA a Corus, yn datblygu cynigion manwl ar gyfer y prosiect ar hyn o bryd. Bydd prif gynllun i gam 1 ar gael erbyn mis Gorffennaf, a chwblheir prif gynllun manwl ac achos busnes i’r safle cyfan erbyn diwedd y flwyddyn yma. Sefydlwyd partneriaeth llywio, sy’n cynnwys Coleg Prifysgol Cymru Casnewydd, Coleg Gwent, ELWa, y consortia cymunedol addysg a hyfforddiant, yr awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad, i hybu’r prosiect rhwydwaith dysgu cymunedol. Gwneir dadansoddiad manwl o’r anghenion addysg a hyfforddiant a bydd hwn yn sylfaen i ddatblygu cyfleusterau addysg a hyfforddi yn y cymunedau lleol.

Mae strategaeth technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i Flaenau Gwent ar y gweill sy’n cynnwys datblygu seilwaith i ddarparu mynediad band llydan yn gysylltiedig â chymorth busnes manwl. Bydd y prosiect hwn yn galluogi cwmnïau ym Mlaenau Gwent i fanteisio’n llawn ar y chwyldro digidol. Byddwn yn parhau i fonitro’r prosiectau hynny’n ofalus a sicrhau eu bod wedi’u cwblhau mor gyflym ag y bo modd.

Trof yn awr at y mentrau newydd sy’n deillio o’r fframwaith adfywio y cytunodd Llywodraeth y Cynulliad i’w ariannu. Yn y lle cyntaf, mae angen parhau i ddatblygu safleoedd ac adeiladau cyflogaeth strategol yn yr ardal i hybu a thyfu busnesau. Mae’r WDA wedi cyflwyno pecyn cyffrous o safleoedd a fyddai, gyda’i gilydd, yn rhoi tua 215,000 troedfedd sgwâr o adeiladau am gyfanswm o tua £14.475 miliwn. O’r cyfanswm hwnnw, daw tua £6.575 miliwn o becyn adfywio Corus, a £2.875 miliwn o gyllideb arian cyfatebol economaidd y Cynulliad. Deuai’r gweddill o gronfeydd strwythurol yr UE ac o’r sector preifat.

Y safleoedd a’r adeiladau a gytunwyd â’r partneriaid awdurdod lleol yw: parc busnes Tredegar; Canolfan Arloesedd Glynebwy; unedau bach yn Roseheyworth a chynllun canol tref Abertyleri ym mwrdeistref Blaenau Gwent; parc busnes Oakdale ym mwrdeistref Caerffili; stad ddwydiannol Queensway Meadows yng Nghasnewydd; a Mamhilad yn Nhor-faen. Mae’r WDA yn cydweithio’n agos â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a’r partneriaid eraill wrth lunio pecyn ariannol i sicrhau y bydd y prosiectau hyn ar waith mor fuan â phosibl.

Tynnir sylw at dri phrosiect pwysig arall yn y fframwaith adfywio, y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cefnogi o weddill cronfeydd adfywio Corus. Yn gyntaf, yr ydym yn darparu £1 filiwn i gynorthwyo rhaglen datblygu partneriaeth twristiaeth ranbarthol de-ddwyrain Cymru. Ei hamcan yw datblygu twristiaeth ymhellach yn yr ardal a bydd o fantais i’r rhanbarth cyfan. Mae rhai o’r prosiectau posibl yn cynnwys rhoi ar waith cynllun gweithredu treftadaeth ddiwydiannol de Cymru, twristiaeth golff, a chynlluniau marchnata.

Yn ail, yr ydym yn ehangu’r rhwydwaith dysgu cymunedol a gyhoeddais yn Ionawr i gynnwys y rhanbarth cyfan. Nod y rhaglen hon yw helpu’r fforwm adfywio i gyflawni un o’i brif amcanion, sef cynnydd sylweddol yn nifer y cyfleoedd addysgol a dysgu cyfranogol ledled y pum sir. Y grwp llywio, a grybwyllais yn gynharach, fydd yn hybu’r prosiect hwn ledled yr ardal. Caiff ei oleuo hefyd gan yr ymchwiliad i anghenion dysgu, a rhagwelir y bydd cytundeb ar y strwythur terfynol erbyn yr hydref. Neilltuir swm o £7 miliwn o becyn Corus i’r fenter hon, yn ogystal â’r £2 filiwn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Yn olaf, yr ydym yn clustnodi £2 filiwn i gefnogi’r cynnig i hybu’r nifer sy’n manteisio ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu a gwasanaethau band llydan ledled y rhanbarth. Bydd hyn yn fodd i gyflymu’r gwaith cymorth busnes a seilwaith, a bydd yn ategu ‘Cymru Ar-lein’.

Wrth gwrs, mae angen gwneud llawer o waith i ddatblygu’r mentrau hyn, ond mae fy natganiad heddiw’n agor y ffordd i Awdurdod Datblygu Cymru a’i bartneriaid lleol fynd ymlaen â’r gwaith o adfywio economi’r ardal.

Yr hyn yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yw ymrwymiad o £16.575 miliwn. Mae hynny, ynghyd â’r ymrwymiadau eraill yr ydym yn eu cefnogi, yn cwblhau’r dyraniad o £76 miliwn, gan ganiatáu rhywfaint o arian wrth gefn ar gyfer rhai o’r prosiectau.

Fel y dywedais yn Ionawr, nid oes atebion sydyn i broblemau’r cyn ardaloedd cynhyrchu dur, ond mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i adfywio’r ardaloedd hyn ac ailsefydlu eu hyfywedd economaidd, mewn partneriaeth â’n hasiantaethau a’n partneriaid awdurdod lleol. Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn tanlinellu’r ymrwymiad hwnnw.