Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Fel y gwyddoch, fe lansiais y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon, ‘Trechu Clefyd Coronaidd y Galon yng Nghymru: Cynllun Cyflawni Drwy Dystiolaeth’ yn y Cynulliad ym mis Gorffennaf y llynedd. Dyma’r newyddion diweddaraf ar gynnydd y fframwaith.
Clefyd y galon yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, gan achosi rhwng 7,500 ac 8,000 o farwolaethau bob blwyddyn a pheri bod angen triniaeth ar ryw 20 y cant o’r boblogaeth oedolion. Mae risg i lawer mwy. Felly, mae mynd i’r afael â chlefyd coronaidd y galon yn dal i fod yn un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fel y lladdwr mwyaf, ceisir ymdrin ag ef o bob ongl, o atal a rheoli’r rhai sydd mewn perygl i ddiagnosis, triniaeth ac, yn olaf, ymadferiad. Caiff y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer clefyd coronaidd y galon ei weithredu ar draws Cymru a dyma’r allwedd i godi safonau a gwella ansawdd gwasanaethau a sicrhau eu bod ar gael i boblogaeth Cymru. Buddsoddir swm sylweddol i gefnogi gweithrediad cynyddol y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol gan y Llywodraeth ganolog ac awdurdodau iechyd.
Yn ystod ymweliad diweddar ag uned y galon yn Ysbyty Treforys, yr oeddwn yn falch o gyhoeddi bod targed Llywodraeth Cynulliad Cymru o leihau amserau aros am lawdriniaeth y galon i ddim mwy na 12 mis wedi’i gyrraedd erbyn Mawrth 2002. Fel mesur o’m hymrwymiad, sicrheais fod £2 filiwn ar gael yn 2001-02 i gyrraedd y targed, ac, er mwyn sicrhau y caiff ei gynnal, cynyddir y capasiti yn Ysbyty Treforys ac Ysbyty Athrofaol Cymru i wneud llawdriniaethau calon ychwanegol yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Carreg filltir allweddol yn y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer 2002-03 yw gostwng amserau aros am angiograffeg, sef prawf diagnostig am glefyd y galon, i ddim mwy na chwe mis erbyn mis Mawrth nesaf. Mae’n dda gennyf gyhoeddi fy mod yn darparu £900,000 yn ychwanegol i Gomisiwn Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i sicrhau y cyrhaeddir y ddau darged o ran amserau aros i rai â chlefyd coronaidd y galon. Bydd angen inni edrych yn ofalus ar ddatblygiad strategol gwasanaethau angiograffeg ledled Cymru ac ar rôl ysbytai cyffredinol dosbarth yn y ddarpariaeth honno. Mae hyn yn dystiolaeth glir a chadarn o f’ymrwymiad i leihau amserau aros am ddiagnosis a thriniaeth i rai â chlefyd coronaidd y galon yng Nghymru.
Y llynedd, darparwyd £3 miliwn mewn arian cyfalaf i wella offer a chyfleusterau ar gyfer canfod a thrin clefyd coronaidd y galon a chanser. Dau brosiect arwyddocaol a ariannwyd o hyn oedd uned gofal coronaidd newydd yn Ysbyty Nevill Hall ac uned gardioleg ddydd newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Eleni, cynyddir y cyllid hwnnw i £5 miliwn.
Atgyfnerthir gweithrediad y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ymhellach drwy’n cronfa anghydraddoldebau iechyd, sy’n cael ei chyfeirio’n llwyr at atal clefyd y galon. Bu’r gronfa’n arbennig o lwyddiannus yn ei nod o ysgogi a chefnogi gweithredu lleol newydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd a’r ffactorau sy’n eu hachosi, gan gynnwys anghydraddoldeb mynediad at wasanaethau iechyd. Disgwyliaf i’r £10.5 miliwn a ddarperir drwy’r gronfa cyfleoedd newydd gael ei dargedu’n uniongyrchol at gefnogi gweithrediad y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ac at wella mesurau atal, canfod, trin ac ymadfer i bobl sy’n dioddef ac mewn perygl o ddioddef clefyd coronaidd y galon.
Mae tri rhwydwaith clinigol ar gyfer gwasanaethau clefyd coronaidd y galon yn cael eu datblygu’n awr i sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â gofalu am rai sy’n dioddef neu mewn perygl o ddioddef y clefyd hwn yn cydweithio’n effeithlon ac effeithiol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn unol â’r safonau a amlinellir yn y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol. Bydd angen i rwydweithiau lunio cynlluniau datblygu gwasanaethau lleol. Bydd y cynlluniau hyn yn adeiladu ar y rhai a ddatblygwyd gan awdurdodau iechyd y llynedd ac yn dangos yr hyn sy’n cael ei wneud, yn y tymor byr a hir, i gyrraedd cerrig milltir y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol, dadansoddi a mynd i’r afael â’r goblygiadau ariannol ac o safbwynt gweithlu, a darparu modd o fonitro a rheoli perfformiad y cynnydd a wneir.
Ar lefel genedlaethol, yr ydym yn sefydlu grwp aml-ddisgyblaeth dros Gymru gyfan i oruchwylio a chydgysylltu gweithgaredd, a bydd hwn yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn. Yn y cyfamser, gan gydnabod yr angen i ddatblygu’r tri rhwydwaith, yr ydym wedi sefydlu grwp cydgysylltu gwasanaethau clefyd coronaidd y galon dros-dro, ac wedi cyhoeddi penodiad cydgysylltydd rhaglenni’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol. Bydd mewnbwn clinigol uniongyrchol ar lefel rhwydwaith a chenedlaethol, a byddwn hefyd yn penodi cyfarwyddwr gwasanaethau clefyd coronaidd y galon a fydd yn cefnogi’r cyngor proffesiynol yn natblygiad strategol y gwasanaethau hyn.
Fel y gwyr Aelodau efallai, ymwelais yn ddiweddar ag ardal Gogledd Karelia yn y Ffindir, sydd, fel Cymru, yn derbyn arian Amcan 1. Nod y prosiect a ariennid oedd lleihau’r gyfradd farwolaethau eithriadol o uchel o glefyd y galon. O ganlyniad, erbyn 1995, yr oedd cyfradd flynyddol marwolaethau o glefyd y galon ymysg pobl o oed gweithio wedi cwympo 75 y cant, o’i gymharu â’r gyfradd cyn y prosiect. Bu lleihad hynod mewn ysmygu ymhlith dynion, bu newidiadau mawr yn arferion bwyta pobl ac mae lefelau colesterol a phwysau gwaed wedi cwympo.
Yr ydym hefyd yn cefnogi wythnos genedlaethol y galon drwy gynnal digwyddiad codi ymwybyddiaeth ym mae Caerdydd ar 13 Mehefin, mewn partneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon, Cymdeithas Cleifion Cardiac Prydain a Ffitrwydd Cymru. Canolbwyntir ar atal clefyd y galon a’r angen i leihau anghydraddoldebau iechyd yn y maes hwn. Y digwyddiad hwn fydd yr achlysur hefyd lle cyhoeddir canlyniadau sgrinio iechyd Aelodau’r Cynulliad a’u staff, a wnaethpwyd ym Mehefin y llynedd.
Strategaeth hirdymor sydd gennym ar gyfer mynd i’r afael â chlefyd y galon. Gwnaethpwyd cynnydd ond mae llawer mwy o waith i’w wneud. Rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag achosion clefyd y galon a bod y gwasanaethau a’r triniaethau ar gael yn rhwydd i’r sawl sydd eu hangen. Mae’r hyn yr wyf wedi’i ddweud heddiw yn dangos mai dyma beth yr ydym yn ei wneud, ac yr wyf yn dal yn gwbl ymrwymedig i barhau gyda’r ymdrechion hyn i weithio tuag at sicrhau safonau uchel a gwella canlyniadau i gleifion.