Skip to content

Datganiad ar Adolygiad o’r Flwyddyn Gyntaf o Fynediad am Ddim i Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jenny Randerson, Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg

Aeth dros flwyddyn heibio ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddarparu cyllid ychwanegol i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i alluogi iddynt gynnig mynediad am ddim i bob ymwelydd i’w hwyth safle yng Nghymru. Bu’r polisi mynediad am ddim yn llwyddiant ysgubol. Cododd niferoedd ymwelwyr y tu hwnt i bob disgwyl; cododd cyfanswm yr ymwelwyr â’r wyth safle bron 90 y cant.

Gwelodd dau safle yn arbennig gynnydd eithriadol yn niferoedd yr ymwelwyr, sef

  • Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, lle cododd y niferoedd 115 y cant, ac
  • Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, a welodd gynnydd o 168 y cant.

Mae’n addas fod y ddwy amgueddfa fendigedig hyn wedi ennill gwobrau pwysig mewn cystadleuaeth ddiweddar gan Fwrdd Croeso Cymru. Yr wyf wedi ymweld â’r ddau safle yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a gwn fod y wobr ‘ffactor waw’ a enillwyd gan Sain Ffagan, a’r wobr ‘naws am le’ a enillwyd gan yr Amgueddfa Lechi, yn gwbl haeddiannol.

Golygodd mynediad am ddim y gall pobl a theuluoedd o bob cefndir bellach weld, mwynhau a dysgu oddi wrth amrywiaeth ryfeddol ein casgliadau cenedlaethol. Dilëwyd rhwystr talu am fynediad, a helpodd hynny sefydlu’r arferiad o ymweld ag amgueddfeydd lleol, ynghyd â safleoedd treftadaeth eraill, i lawer o’r ymwelwyr newydd hyn. Wrth gyflwyno mynediad am ddim o 1 Ebrill 2001 achubodd Cymru y blaen ar amgueddfeydd cenedlaethol Lloegr, na ddilynodd yr esiampl tan 1 Rhagfyr—saith mis yn ddiweddarach. Golygodd amseriad y cyflwyniad, ar ddechrau haint clwy’r traed a’r genau, ei fod wedi rhoi hwb yr oedd dirfawr angen amdano ar ein diwydiant ymwelwyr.

Rhaid imi grybwyll ymroddiad staff yr amgueddfeydd, a ymdopodd yn wych â’r cynnydd enfawr mewn niferoedd ymwelwyr, a phopeth y mae hynny’n ei olygu. Yr wyf yn falch o adrodd y cafodd siopau’r amgueddfeydd flwyddyn lwyddiannus iawn, a gwelsant eu helw’n codi yn sgîl y cynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr.

Mae rhai’n amau manteision mynediad am ddim i’r diwydiant ymwelwyr ehangach yng Nghymru, ac yn teimlo bod ymwelwyr wedi dewis ymweld â safleoedd yr amgueddfa genedlaethol, am eu bod am ddim, a hynny ar draul atyniadau a redir yn breifat. Gwerthfawrogaf y safbwynt hwnnw, ond credaf yn bendant y bydd mynediad am ddim i’r amgueddfeydd cenedlaethol, ymhen amser, yn dod ag elw i’r holl atyniadau treftadaeth a thwristiaeth yng Nghymru. Mae’n bwysig nodi bod llawer o awdurdodau lleol yn cynnig mynediad am ddim i’w hamgueddfeydd hwythau, a bod nifer yr awdurdodau a chanddynt gynlluniau mynediad am ddim wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r amgueddfa genedlaethol yn cymryd camau hefyd i helpu gwasgaru buddiannau mynediad am ddim, ac yn gweithio ar hyn o bryd gyda Bwrdd Croeso Cymru a Chymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru i helpu sefydlu mentrau a fydd yn hybu’r diwydiant ymwelwyr yng Nghymru yn gyffredinol.

Mae’r amgueddfa genedlaethol hefyd yn gweithio gydag amgueddfeydd lleol i alluogi i fwy o eitemau o’i chasgliadau gael eu gweld a’u mwynhau mewn amgueddfeydd ac orielau lleol ledled Cymru. Gan nad yw’r cyfleusterau mewn llawer o amgueddfeydd ac orielau lleol o’r safon uchel angenrheidiol i arddangos rhai eitemau pwysig, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi addo £50,000 y flwyddyn i helpu uwchraddio ac ailwampio cyfleusterau mewn amgueddfeydd lleol.

Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o lansio’r prosiect partneriaeth hwn yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n un o’r tri lleoliad a ddewiswyd i beilota’r cynllun yn y flwyddyn gyntaf, ynghyd ag Oriel Ynys Môn, ac Amgueddfa Brycheiniog ym Mhowys. Prosiect partneriaeth yw Cyfoeth Cymru Gyfan—Sharing the Treasures rhwng yr amgueddfa genedlaethol, Cyngor Amgueddfeydd Cymru ac amgueddfeydd ac orielau lleol. Yr wyf yn falch y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arwain at arddangos llawer mwy o eitemau o’r casgliad cenedlaethol mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru.

Yr wyf yn hyderus y bydd mynediad am ddim yn dal i chwarae rôl bwysig yn hybu Cymru a’r diwydiant ymwelwyr yng Nghymru. Nid yw’r amgueddfa genedlaethol yn gorffwys ar ei rhwyfau. Mae ganddi lawer o ddatblygiadau newydd cyffrous ar y gweill eleni, a gefnogir yn llawn gan fy strategaeth ddiwylliant, ‘Creative Future: Cymru Greadigol’, ac yr wyf yn sicr y bydd yn help i gynnal y niferoedd uchel o ymwelwyr â’r wyth safle. Yn Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Pwll Mawr, mae gwaith ar droed, gyda chymorth arian loteri, i adnewyddu adeiladau pen y pwll, i ddarparu arddangosiadau dehongli gwell ac i wella’r cyfleusterau i ymwelwyr yn y pwll.

Yn Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru, y cefais y pleser mawr o ymweld â hi’n ddiweddar, mae gwaith adfer mawr ar droed ar ei hadeiladau melin rhestredig, ynghyd â gwella cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr addysgol a rheolaidd. Bydd y safle’n ailagor i fusnes yng ngwanwyn 2003.

Mae’r amgueddfa genedlaethol hefyd wrthi, mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe, yn datblygu amgueddfa genedlaethol y glannau ym marina Abertawe. Cyflwynwyd cais am gyllid cam 2 yn ddiweddar i gronfa dreftadaeth y loteri. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r prosiect gyda grant o hyd at £6 miliwn, a dymunaf bob llwyddiant i bartneriaid y prosiect.

Yr wyf yn falch o gyhoeddi hefyd fod cartref newydd wedi’i ddarganfod i gasgliad yr amgueddfa genedlaethol o beintiadau gan Graham Sutherland. Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ynghyd â phartneriaid lleol, wedi cynnig tir yn Nhyddewi ar gyfer adeiladu oriel newydd i arddangos y casgliad ynddo. Yr wyf wrth fy modd y bydd y peintiadau hyn yn dychwelyd i ganolfan yn Sir Benfro, gan i’r arlunydd gael cymaint o ysbrydoliaeth yno.

Yn gyffredinol, bu mynediad am ddim yn rhodd fendigedig i bobl Cymru. Helpodd ein rhoi ar y map, rhoddodd y rhyddid i bawb ymweld â chasgliadau cenedlaethol Cymru cyn amled ag y dymunant a daeth â hanes Cymru’n fyw i lawer o Gymry ac eraill.

Yr wyf yn falch o’r fenter hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i cymeradwyaf i Aelodau’r Cynulliad.