Skip to content

Datganiad ar y Trefniadau i Roi Cyswllt Ffermio ar Waith

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad Carwyn Jones
Yr wyf yn falch o adrodd, ychydig dros chwe mis ar ôl ei lansio, ar y cynnydd ar Cyswllt Ffermio. Fe’i lansiwyd yn hydref 2000, ac mae’n un o ymrwymiadau allweddol y Llywodraeth bartneriaeth—nid lleiaf oherwydd brwdfrydedd Mick Bates dros y cynllun. Mae hefyd yn wasanaeth arloesol, sydd â’r nod o helpu teuluoedd sy’n ffermio i ailfeddwl am eu hagwedd at fusnesau fferm, gan eu gwneud yn addas i’r dyfodol. Mae’r cynllun yn chwarae rôl ganolog wrth alluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni’r strategaeth ffermio ar gyfer y dyfodol. Ei bwrpas yw sicrhau bod ffermwyr yn ymaddasu i ofynion modern drwy fod yn fwy effeithlon ac/neu drwy arallgyfeirio sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd economaidd a chymdeithasol. Mae’r cynllun yn darparu amrediad cynhwysfawr o gymorth arbenigol a chymorth ymarferol, wedi’u haddasu’n benodol i’r gymuned ffermio yng Nghymru.

Ar ôl cofrestru ar gyfer y cynllun caiff ffermwyr wasanaethau ymgynghorydd busnes ar y fferm yn rhad ac am ddim i ddrafftio cynllun datblygu busnes fferm. Mae cynigion ar gyfer gwella ac/neu arallgyfeirio’n cael eu drafftio, ac mae amrediad o grantiau cyfalaf ar gael i brosiectau hyfyw.

Er bod argyfwng clwy’r traed a’r genau wedi gohirio lansio Cyswllt Ffermio y llynedd, credais ei bod yn hollbwysig rhoi’r cynllun ar waith cyn gynted ag y bo modd. Cafodd Cyswllt Ffermio dderbyniad cadarnhaol gan lawer o sectorau yn y gymuned ffermio, gan gynnwys yr undebau ffermio, a chwaraeodd ran allweddol wrth gychwyn y cynllun. O blith y 4,000 a mwy o ymholiadau a dderbyniodd y ganolfan gwasanaeth, yr oedd bron bob un yn ymwneud â gofyn am gynllun datblygu busnes fferm, sef elfen ganolog y cynllun. Mae’n anochel bod problemau dechreuol wrth gychwyn cynllun mor gynhwysfawr gan fod y niferoedd yn fwy o lawer na’r cyfanswm a ddisgwylwyd ar gyfer ei flwyddyn gyntaf. Mae’n flin gennyf am y rhestrau aros am ymweliadau gan ymgynghorwyr ac am gwblhau cynlluniau busnes. Yr wyf am weld lleihau’r rhestrau aros, ond nid ar draul sicrwydd ansawdd y cynllun. Wedi dweud hynny, mae dros 300 o ffermydd yn meddu ar gynlluniau busnes cytunedig bellach ac yr ydym yn gweithio’n galed ar welliannau. Mae fy swyddogion i a’r rhai yn y WDA yn astudio’r prosesau presennol i ganfod dulliau o symleiddio’r gwasanaeth a chyflymu’r amseroedd cwblhau, er enghraifft, drwy gynnig asesiad diagnostig byr, cryno yn hytrach na chynllun busnes llawn i’r busnesau ffermio hyfyw hynny sydd â gwelliant mewn golwg eisoes ac sy’n awyddus i fynd ymlaen.

Y grantiau allweddol sydd ar gael ar ôl cwblhau cynllun datblygu busnes ffermio yw, yn gyntaf, y grant gwella ffermydd, sy’n helpu ffermwyr i fabwysiadu’r arfer gorau er mwyn gwneud gwelliannau bob blwyddyn mewn lles anifeiliaid, glanweithdra ac ansawdd cynnyrch a gwella, diogelu a chynnal amgylchedd y fferm. Yn ail, mae grantiau menter ffermydd yn helpu i ehangu’r sylfaen gyflogaeth ar ffermydd ac oddi arnynt i ffermwyr ac i aelodau o deuluoedd ffermio, a hefyd i ddarparu grantiau ar gyfer twristiaeth, prosesu coed, a phrosesu a marchnata. Hyd yn hyn, mae grantiau gwerth £435,141 wedi’u dyrannu, yn sail i gyfanswm gwariant hyd yn hyn o £1,123,985. Bydd cynnydd sylweddol yn y ffigurau hyn yn y misoedd i ddod. Bwriadwn gymeradwyo rhagor o geisiadau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’n bwysig pwysleisio bod Cyswllt Ffermio’n ymwneud â mwy na grantiau; mae’n ymwneud â helpu ffermwyr Cymru i reoli cyfnod o newid aruthrol yn y diwydiant ffermio a’u helpu i ymchwilio i fentrau newydd. Rhaid cymryd technegau a thechnoleg newydd i ystyriaeth; rhaid ymchwilio i farchnadoedd newydd; rhaid arloesi a mabwysiadu syniadau da. Felly sefydlwyd canolfannau datblygu i hwyluso rhannu gwybodaeth, a sefydlir y rhwydwaith o 30 o ffermydd arddangos i hwyluso’r broses hon a hyrwyddo mabwysiadu arferion gorau. Cynhaliwyd sawl digwyddiad llwyddiannus yn y canolfannau a’r ffermydd hyn, a chynhelir mwy o lawer yn ystod yr haf. Mae’n hollbwysig cael y sgiliau priodol. Bydd rhaglenni hyfforddi a addaswyd yn benodol, a lansiwyd gan Dysgu ac Addysgu Cymru y mis diwethaf, yn helpu ffermwyr i finiogi eu sgiliau rheoli busnes a thechnoleg gwybodaeth. Byddant hefyd yn helpu’r ffermwyr i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a dod yn fwy ymwybodol o farchnadoedd newidiol a gofynion defnyddwyr.

Yr wyf wedi dweud erioed fod yn rhaid i Cyswllt Ffermio ddatblygu ac ehangu, a mabwysiedir gwasanaethau ychwanegol. Gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghorol yw’r rhain, a fydd yn dangos manteision ymarferol ac economaidd yr arferion ffermio cynaliadwy, a chyngor cymorthdaledig ar geisiadau cynllunio am arallgyfeirio anamaethyddol ar ffermydd.

Mae hon yn fenter arloesol. Mae’n cynrychioli’r gorau o ran Llywodraeth gydgysylltiedig ac mae’n cynnwys amrediad eang o bartneriaid sector cyhoeddus, a phob un â’r un nod—rhoi’r gallu i ddiwydiant ffermio Cymru oroesi a ffynnu. Yr ydym yn gwrando ar y gymuned ffermio, ar y partneriaid, ar y banciau clirio ac ar yr undebau ffermio. Byddwn yn gwrando ar unrhyw un sydd â phwynt i’w wneud am Cyswllt Ffermio neu syniad da. Mae adborth rheolaidd yn rhan bwysig o’r cynllun a bydd yn hollbwysig gwneud y gwelliannau angenrheidiol yn gyflym os yw i ddatblygu fel yr ydym yn bwriadu, i ddod yn elfen allweddol yn yr ymgyrch i greu diwydiant ffermio Cymreig cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.