Skip to content

Datganiad ar Broffesiynau Iechyd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Tynnaf eich sylw at gorff iechyd newydd yng Nghymru—Proffesiynau Iechyd Cymru. Daeth i fod ar 1 Ebrill 2002. Bydd y corff yn darparu gwasanaeth i amrediad o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, sef nyrsys, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd. Ar hyn o bryd, mae Proffesiynau Iechyd Cymru yn uned o fewn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hynny’n gam dros dro hyd nes y caiff deddfwriaeth sylfaenol ar ffurf Mesur y GIG (Cymru) ei phasio. Bydd hynny’n caniatáu inni sefydlu Proffesiynau Iechyd Cymru fel corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad. Mae sefydlu Proffesiynau Iechyd Cymru’n ganlyniad i newid deddfwriaethol i reoleiddio proffesiynol ledled y DU. Rhoddwyd gwybod i aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am y newidiadau rheoliadol hyn eisoes drwy drafodaethau’r Pwyllgor a’i bapurau. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae Cyngor Canolog y Deyrnas Unedig dros Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd wedi dod i ben a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yw’r corff rheoliadol newydd. Yr oedd Cyngor Canolog y DU a’i bedwar bwrdd yn gwasanaethu pedair gwlad y DU. Yn ogystal â’u swyddogaeth rheoliadol, yr oedd y byrddau hyn yn cyflawni swyddogaethau eraill a oedd yn berthnasol i ddatblygu gallu proffesiynol y grwpiau hyn o staff, gan gynnwys sicrwydd ansawdd, addysg a hyfforddiant ôl-gofrestru a darparu fframwaith ar gyfer datblygu proffesiynol parhaus.

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r proffesiynau nyrsio’n dymuno colli’r swyddogaethau anrheoliadol ychwanegol yr oedd bwrdd cenedlaethol Cymru’n eu cyflawni ac felly ceisiwyd ateb i sicrhau dilyniant. Rhoddwyd y gwaith hwn i grwp rheoli newid, dan gadeiryddiaeth Syr Adrian Webb. Y grwp hwn a gyflwynodd y cynnig i greu corff newydd a fyddai’n cwmpasu amrediad ehangach o grwpiau proffesiynol ac yn cyflawni amryw o swyddogaethau i ategu nodau polisi GIG Cymru. Mae llawer o’r swyddogaethau hyn yn ychwanegu at ac yn ymhelaethu ar y gwaith rhagorol a wnaethpwyd o’r blaen gan fwrdd cenedlaethol Cymru. Yr oedd y grwp rheoli newid yn bartneriaeth wirioneddol ac yn cynnwys meddygon, deintyddion, fferyllwyr, nyrsys, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, rheolwyr y gwasanaeth iechyd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd ac addysgwyr. Fel rhan o’i waith, cynhaliodd y grwp rheoli newid ymgynghoriad helaeth gyda rhanddeiliaid ledled Cymru. Yr oedd yr adborth a gafwyd o blaid sefydlu’r corff amlbroffesiynol newydd hwn—Proffesiynau Iechyd Cymru—a fydd yn chwarae rôl bwysig wrth ategu’r newidiadau yn strwythur y GIG a roddir ar waith ar hyn o bryd i wella ansawdd y gofal y gallwn ei gynnig i’n cymunedau. Gall Proffesiynau Iechyd Cymru fod yn rym dros newid wrth helpu i gyflawni’n cynllun drwy gynnal addysg, hyfforddiant a datblygiad parhaus grwp eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae GIG Cymru’n cyflogi tua 77,000 o staff. Nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yw tua 30,000 ohonynt a’r proffesiynau perthynol i iechyd yn 8,000 ar ben hynny. Ein gweithlu yw ein hased mwyaf. Mae’n hollbwysig i’r diwygiadau polisi yr ydym yn llwyddo i’w cyflawni. Bydd Proffesiynau Iechyd Cymru’n sicrhau ein bod yn datblygu’r doniau hynny ymhellach. Mae GIG Cymru’n dibynnu hefyd ar waith tîm integredig effeithiol. Oherwydd hynny rhaid i drefniadau fod ar gael i’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’i gilydd wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn fel y gallant ddysgu a datblygu gyda’i gilydd. Bydd hynny’n hybu gweithio rhyngbroffesiynol a thrawsffiniol. Bydd rôl bwysig gan Broffesiynau Iechyd Cymru yn hynny o beth. Gall ddod â’r gweithwyr proffesiynol hyn at ei gilydd, yn enwedig o ran datblygu proffesiynol parhaus. Gyda’i bartneriaid eraill, fel Dysgu ac Addysgu Cymru, y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, gall Proffesiynau Iechyd Cymru helpu i ddatblygu fframwaith cyffredin i ddysgu gydol oes. Gwelsom dystiolaeth eisoes o ddatblygu fframwaith o’r fath i nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn yr un a ddatblygwyd gan fwrdd cenedlaethol Cymru.

Mae Proffesiynau Iechyd Cymru’n gyfrwng delfrydol ac amserol i gyflawni datblygiadau mewn arferion gweithio drwy’r partneriaethau newydd hyn. Yr wyf yn ffyddiog y bydd corff amlbroffesiynol o’r natur hon yn gallu gwella ac ategu mentrau eraill i gryfhau ansawdd gweithlu GIG Cymru. Rhaid i’r system addysg baratoi gweithwyr iechyd proffesiynol ar gyfer amgylcheddau sy’n newid a’u calonogi i dderbyn newid pan fo angen hynny. Bydd Proffesiynau Iechyd Cymru’n chwarae rôl allweddol wrth helpu i roi newid ar waith. Mae ar weithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru angen mynediad at addysg broffesiynol ragorol, o’u haddysg cyn cofrestru hyd at ddatblygu a dysgu gydol oes ar ôl cofrestru, a rhaid iddynt fod yn hyderus bod cyfleoedd ar gael i ddatblygu eu gyrfa. Bydd gan Proffesiynau Iechyd Cymru rôl ddynamig wrth weithio gyda chyrff proffesiynol eraill a sefydliadau addysgol i sicrhau safonau proffesiynol cyson mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.