Skip to content

Gweithredu Dros Gymunedau Gwledig Cryfhau Bywyd a Gwaith yn y Gymru Wledig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mike German, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor
Yn dilyn y newidiadau i’r gyllideb ar gyfer Prif Grwp Gwariant Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a’m datganiad innau ar 15 Hydref, mae’r datganiad hwn yn rhoi manylion pellach am y pecyn gwariant newydd sy’n ceisio cryfhau bywyd a gwaith yn y Gymru wledig.

Bydd y mesurau sy’n rhan o’r pecyn Gweithredu dros Gymunedau Gwledig yn darparu £3.05 miliwn o wariant newydd y flwyddyn nesaf ac mewn blynyddoedd i ddod, er mwyn helpu i greu cymunedau gwledig cynaliadwy. Mae hyn yn hwb enfawr i’r gwaith o adfywio’r economi wledig. Bydd y rhan fwyaf o’r gyllideb hon yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau adfywio a fydd yn cael eu rhedeg gan gyrff lleol ac a fydd yn gallu ariannu prosiectau gwella. Gall y prosiectau fod yn rhai eang, gan ymdrin â gweithgareddau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Darperir cymysgedd o gyllid cyfalaf a chyllid refeniw ar gyfer gweithgareddau megis creu a hyfforddi grwpiau, hyrwyddo partneriaethau, datblygu strategaethau, cefnogi gweithwyr datblygu a buddsoddi mewn adnoddau ac adeiladau. Gyda’i gilydd, caiff £2m ei wario ar feithrin gallu a phrosiectau y flwyddyn nesaf. Byddwn yn gofyn i gyrff lleol anfon eu ceisiadau am arian o dan y cynllun hwn yn fuan, er mwyn cael dechrau ar y gwaith hanfodol bwysig hwn cyn gynted â phosibl.

Gall y prosiectau hyn dderbyn cyllid o dan raglen newydd y Cynulliad ar gyfer Cymru gyfan, Adnoddau a Gweithgareddau Cymunedol Cymru, fel y bo’n briodol, yn ogystal â mesurau o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig, y fenter LEADER+ a Phecyn Offer Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer adfywio cymunedol.

Nod un rhan o ‘Gweithredu dros Gymunedau Gwledig’ fydd cefnogi busnesau lleol a helpu mentrau cymunedol sy’n ymdrechu i gadw siopau gwledig ar agor. Yn Rhoi Cymru’n Gyntaf, Dogfen Bartneriaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, fe wnaethom ddweud y byddem yn cymryd camau i amddiffyn swyddfeydd post, siopau a busnesau eraill sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau gwledig. Pleser imi yn awr yw dangos sut y bydd yr ymrwymiad hwnnw’n cael ei weithredu.

Caiff £750,000 ei defnyddio i gynnig cyngor arbenigol i fusnesau manwerthu gwledig ac i greu cronfa brosiect, yn dibynnu ar reolau’r UE ar gymorth gwladwriaethol, i helpu i ariannu gwelliannau bychan er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir o siopau pentrefi. Ochr yn ochr â hyn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried rhoi cymorth ychwanegol i swyddfeydd post mewn cymunedau difreintiedig neu anghysbell.

Bydd y cymorth hwn i fanwerthwyr lleol yn cyd-fynd â chynllun i ddatblygu sgiliau Entrepreneuraidd i Bobl Ifanc mewn Ardaloedd Gwledig. Cymorth yw hyn a roddir i bobl ifanc yng nghefn gwlad er mwyn iddynt fynd ar drywydd eu syniadau busnes eu hunain. Yr wyf yn falch iawn o fod wedi gallu sicrhau £250,000 ar gyfer y flwyddyn arianol i ddod gan godi i £750,000 yn 2005. Mae hyn yn ychwanegol at y codiadau yn y gyllideb a gyhoeddwyd heddiw.  Yr wyf yn siarad â’r Ffermwyr Ifanc ac ag eraill yn y gymuned wledig i sicrhau eu bod mor ymroddedig â minnau ynghylch datblygu’r sgiliau hyn a hybu busnesau bach mewn ardaloedd gwledig.

Pecyn cymorth i gymunedau a busnesau yw ‘Gweithredu dros Gymunedau Gwledig’, ond yr ydym hefyd am barhau i fonitro tueddiadau tymor-hir a newidiadau yng nghefn gwlad. Rhaid i ni sicrhau bod y cymorth a roddwn yn berthnasol ac yn cael ei dargedu yn briodol.  I’r perwyl hwn byddaf yn rhoi cyllid o £300,000 y flwyddyn ar gyfer Arsyllfa Wledig i nodi materion ac atebion yn yr agenda wledig yng Nghymru ac i hybu arferion da.  Bydd yn gweithio ochr yn ochr â Phartneriaeth Wledig Cymru a’i haelodau ac â’r Cynulliad Cenedlaethol i wella ansawdd dadansoddi materion gwledig ac i helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid wrth ddatblygu a gwerthuso polisi.  

Bydd y mesurau sylweddol newydd hyn yn mynd law yn llaw ag ystod eang o o weithgaeddau i gefnogi cymunedau gwledig. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n datblygu Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar ei rhaglen ymchwil bresennol sef yr Astudiaeth Cymunedau sy’n Gytbwys o ran Oedran, er mwyn mynd i’r afael â’r rhesymau paham y mae pobl ifanc yn ymadael â chefn gwlad ac i ddod o hyd i ffyrdd o’u hannog i ddychwelyd.  Yr ydym yn rhag-weld y bydd canlyniadau’r ymchwil ar gael erbyn diwedd y flwyddyn a byddwn yn cydweithio’n agos â’r Bartneriaeth Wledig er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn cael ei weithredu.

Mae’r mesurau newydd hyn yn gysylltiedig ag amrywiaeth o fesurau eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn cyllidebau eraill y bwriedir iddynt gynorthwyo camau gan bobl leol i ddatblygu ac adfywio eu cymunedau gwledig.  Yr ydym yn cymryd camau hefyd i gefnogi ysgolion gwledig bach ac i hybu cludiant cymunedol. Yr wyf eisoes wedi cyhoeddi cynllun newydd i hybu prynu bwyd yn lleol. Ymhlith mesurau eraill i helpu busnesau bach y mae Grant Buddsoddi’r Cynulliad a budsoddi sylweddol mewn capasiti band eang yng Nghymru.

Bydd yr holl fesurau hyn yn helpu i gynnal cymunedau gwledig a thrwy hybu lles economaidd a chymdeithasol yng nghefn gwlad byddant o gymorth allweddol wrth helpu i gynnal y Gymraeg yn ei chadarnleoedd gwledig.  Ar ymarferoldeb a chyflawni ar lefel leol y mae’r pwyslais  – Gall ‘Gweithredu dros Gymunedau Gwledig’ gael ei ddatblygu a’i roi ar waith ar lefel leol i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau gwledig drwy adfywio cymunedol integredig.

Yr ydym wedi’i ddisgrifio fel ‘cryfhau bywyd a gwaith yn y Gymru Wledig, gan ein bod yn cydnabod nad ffermio neu gerdded yn unig yw hanfod cefn gwlad – hanfod cefn gwlad yw’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma ac y mae arnynt angen gwasanaethau lleol da a chymorth perthnasol i’w hardaloedd.  Mae £3.05 miliwn o bunnoedd o gymorth a buddsoddi wedi’u targedu’n dangos ein bod yn gallu dod o hyd i ffyrdd o gryfhau’r gwaith a’r bywyd hwnnw, a’r gobaith yw y bydd Gweithredu dros Gymunedau Gwledig yn dechrau dod yn gyfystyr â chymorth i’r cymunedau hynny.