Skip to content

Datganiad ar yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gweinidog dros yr Amgylchedd Sue Essex
Pwrpas y cynllun strategol yw nodi blaenoriaethau’r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol yn y byrdymor a’r tymor canolig ar draws Prydain Fawr. Ei nod yw atgyfnerthu’r system reilffyrdd ac ennyn hyder ynddi. Dywed Richard Bowker, Cadeirydd yr awdurdod yn ei ragair:
‘The strategic plan marks a line in the sand, it is the point at which we say enough is enough and begin the journey to deliver a railway fit for the twenty-first century and one in which we can be truly proud.’

Nododd y Cynulliad yn glir ar sawl achlysur ein bod hefyd am gael system reilffyrdd sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain ac un y gallwn wir ymfalchïo ynddi. Noda ein fframwaith trafnidiaeth cyhoeddedig, a ddatblygwyd ar y cyd â’n holl bartneriaid, yr angen am system drafnidiaeth integredig o safon dda sy’n rhoi seilwaith strategol, sy’n ein galluogi i gyflawni ein nodau economaidd; hygyrchedd i bobl a fydd yn gydnaws â’n nodau cymdeithasol; a newid ym mhatrwm teithio i gyflawni ein nodau amgylcheddol.

Drwy’r ‘Cynllun i Gymru’ yr ydym yn ymrwymo i sicrhau rhwydwaith rheilffyrdd gwell gyda gwasanaeth mwy dibynadwy ac mae’r fframwaith trafnidiaeth yn cynnwys map sy’n dangos y cysylltiadau rheilffyrdd hollbwysig yng Nghymru. Mae’r seilwaith rheilffyrdd a gwasanaethau y tu allan i Gymru, yn enwedig y llwybrau strategol, hefyd yn bwysig inni. Yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer dyfodol y rheilffyrdd ym Mhrydain, mae’n rhagweld ei rôl fel un sy’n sicrhau llwyddiant economaidd, datblygiad cymdeithasol a chynaliadwyedd amgylcheddol ac mae’n gydnaws â’n hamcanion ni.

Yr hyn a fydd yn bwysig o ran cynllun yr awdurdod yw a fydd yn caniatáu inni yng Nghymru wireddu ein gweledigaeth ar gyfer system reilffyrdd integredig. Un agwedd allweddol ar y weledigaeth hon yw’r fasnachfraint i Gymru gyfan. Yr wyf yn falch iawn o nodi bod masnachfraint Cymru a’r gororau yn un o flaenoriaethau rhaglen yr awdurdod ar gyfer ailgyflwyno masnachfreintiau fel y nodwyd yn y cynllun hwn. Ni nodir swm penodol o arian, ond mae hynny’n wir am bob masnachfraint gan fod proses gwneud cais yn gysylltiedig â hwy. Mae ymrwymiad i osod yr ychwanegiadau i’r fasnachfraint, am dymor o 15 mlynedd fel arfer, wedi ei rannu yn dri chyfnod o bum mlynedd yr un yn fras. Croesawaf yr ymagwedd dymor hwy hon gan y bydd yn hyrwyddo buddsoddi hirdymor, yn enwedig wrth gyflwyno strategaeth Consortiwm Teithio Cyflym Integredig De Cymru lle bydd yr angen am gymorthdaliadau mawr yn parhau. Yr ydym yn obeithiol y byddwn yn llwyddo i ddarbwyllo niferoedd sylweddol i droi at y rheilffyrdd yn gyson yn lle defnyddio eu ceir yn ystod tymor y fasnachfraint. O ran ein gweledigaeth ar gyfer seilwaith, yr ydym hefyd am i’r awdurdod wneud yr holl welliannau a nodwyd gennym o ran datblygu’r trac, capasiti a llinellau, ond dychwelaf at y rhain yn y man.

O ran ffigurau ariannu cymharol, mae rhai pobl ond yn edrych ar y cynllun i weld faint o arian a gaiff Gymru. Nid ydynt yn ei brofi yn erbyn ein nodau cyffredinol. Yn wahanol i lawer o wasanaethau, bydd arian ar gyfer y system reilffyrdd yn Lloegr hefyd o fudd i’n busnesau a’n teithwyr ni. Dywed rhai y dylid bod wedi neilltuo arian i Gymru o dan fformiwla Barnett. Nid oes rheswm dros haeru y byddem wedi bod ar ein hennill o’r herwydd. O dan fformiwla Barnett, caiff y Cynulliad gyfran o newidiadau yn y gwariant arfaethedig ar wasanaethau cymharol y Llywodraeth yn Lloegr sy’n seiliedig ar y boblogaeth. Mae’n bwysig nodi mai dim ond y newidiadau yn nyraniadau gwariant y Cynulliad a bennir gan y fformiwla; nid yw’n pennu’r gyllideb sylfaenol i ddechrau’r broses. Gan nad yw hynny yn hysbys eto, mae’n amhosibl deall o ble y daeth y ffigurau hyn. Mae’n bwysig hefyd cofio nad yw’r arian a ddarperir yn y cynllun ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith yn yr Alban yn rhan o fformiwla Barnett.

Pe bawn yn llunio rhestr o fuddsoddiadau i sicrhau bod gennym wasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru sy’n cymharu â’r goreuon yn Ewrop, byddai angen dros £1 biliwn, efallai £2 biliwn. Fodd bynnag, bydd cyflawni hynny ymhen 10 mlynedd yn afrealistig. Hoffwn ganolbwyntio yn awr ar sicrhau bod y sylfeini’n gywir ac ar yr elfennau eraill o’r rhaglen drafnidiaeth, megis gwell cyfleusterau cyfnewid i fysiau, er mwyn cael rhwydwaith trafnidiaeth sy’n wir integredig. Mae dweud mai dim ond £200 miliwn a gyfranna cynllun yr awdurdod i’n huchelgais yn awgrymu barn gul. Nid yw’r £200 miliwn yn cynnwys y cyfraniad at y fasnachfraint reilffyrdd, y cynlluniau ar gyfer gwell gorsafoedd na’r arian newydd o dan y bartneriaeth teithwyr rheilffyrdd. Dylem gofio hefyd nad yw’r ffigurau a ddyfynnwyd yn cynnwys y symiau sylweddol a ddefnyddir ar gyfer cymhorthdal i’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru. Yr ydym bob amser wedi cydnabod y byddai angen i’r Cynulliad gyfrannu’n ariannol er mwyn inni wella capasiti ein rheilffyrdd. Yr ydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gwneud hynny a’n bod wedi ymrwymo dros £60 miliwn dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn ein galluogi i wella capasiti’r Valley Lines drwy wneud gwelliannau yng ngorsaf Heol y Frenhines, i linellau Taf a Rhymni, ac i linell y Cambrian.

Mae’r prinder sgiliau yn y diwydiant rheilffyrdd yn rhan o’r broblem o ran darparu gwasanaethau ar hyn o bryd, a chroesawaf yr awgrym y dylid sefydlu academi rheilffyrdd genedlaethol. Mae prinder sgiliau, yn enwedig ym maes peirianneg signalau, yn ein hatal rhag gwneud cynnydd a chefais drafodaeth ddefnyddiol gyda’r awdurdod y llynedd ynglyn â sefydlu canolfannau penodol ar gyfer datblygu sgiliau gweithwyr rheilffyrdd. Mae’r cynllun strategol yn cwmpasu pob rhan o Brydain Fawr ac mae wedi datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ers sefydlu’r awdurdod. Yn anochel, mae’n cynnwys rhai cyhoeddiadau a wnaed eisoes, sy’n cyfrannu at y cynllun i wella gwasanaethau rheilffyrdd dros y 10 mlynedd nesaf. Rhaid inni dderbyn mai Llundain sy’n tra-arglwyddiaethu o safbwynt y rheilffyrdd. Gwneir cymaint â 70 y cant o deithiau ym Mhrydain ar rwydwaith Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Mae’r cwmnïau trên i’r de o Afon Tafwys yn cyfrif am bron 40 y cant o’r holl deithiau ar y rheilffyrdd ym Mhrydain. Fodd bynnag mae’r llinell i Llundain yn bwysig i Gymru ac mae angen inni farnu’r cynllun hwn yn ôl yr hyn y gall ei gyflawni yng Nghymru a thu allan i Gymru. Bydd y Gogledd yn elwa ar y gwelliannau ym mhrif linell arfordir gogledd-orllewin Lloegr ac ar y gwelliannau a ddaw yn sgîl cyflwyno system drên newydd Voyager yn 2003. Bydd gwelliannau gwirioneddol yn y gwasanaethau i Gaergybi o Euston. O gymharu â rhanbarthau Lloegr, yr ydym wedi gwneud dipyn yn well. Mae’r awdurdod yn gweithio’n agos gyda ni ac yn ymweld â Phwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Trafnidiaeth yn rheolaidd. Mae gennym arian Amcan 1 hefyd. Gwnaf orffen am fy mod yn ymwybodol bod llawer o bobl am gyfrannu—

Y Llywydd: Cewch draethu faint y mynnoch am linell y Cambrian.

Sue Essex: Nid yw unrhyw berthynas yn berffaith ac mae materion y mae angen inni weithio arnynt yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn dylanwadu ar y diwygiad nesaf o gynllun yr awdurdod. Ysgrifennaf at yr awdurdod a Mr Byers i nodi ein pryderon ynglyn â’r ffaith nad yw’r cynllun yn rhoi digon o bwys ar rai o swyddogaethau economaidd a chymdeithasol y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd modd diwygio’r cynllun strategol a bydd angen inni barhau i roi ein dadl gerbron mewn modd adeiladol. Yr wyf yn trafod gyda’r Prif Weinidog sut y gallwn wneud hyn. Un peth sy’n peri siom yw’r penderfyniad bellach i ohirio’r prif fuddsoddiad ym mhrif linell y Great Western tan ar ôl 2010. Yr oeddem yn obeithiol cyn Hatfield y byddai’r datblygiadau ar y llinell yn digwydd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, mae’r blynyddoedd o danfuddsoddi wedi cael effaith ar yr arian cyhoeddus a phreifat y disgwylid iddo gael ei fuddsoddi. Ni roddwyd digon o bwyslais ar bwysigrwydd y coridor hwn a byddwn yn parhau i roi’r ddadl economaidd a chymdeithasol dros wneud y gwelliannau cyn hynny. Rhaid inni gael cefnogaeth gadarn y gymuned fusnes. Mae cysylltiadau da gyda Llundain a Heathrow yn hanfodol i sicrhau na chollir cyfleoedd buddsoddi. Mae angen gwelliannau yn ardal Casnewydd, er enghraifft, a phwyswn ar Railtrack a’r awdurdod ar y mater hwnnw.

Yn olaf, Lywydd, hoffwn ddiolch ichi am eich caredigrwydd yn hynny o beth. Fel Richard Bowker, credaf fod cynllun yr awdurdod yn dod â chyfnod i ben. Mae’n cefnogi’r rhan fwyaf o’r hyn a ddymunwn er mwyn gwella’r system reilffyrdd sylfaenol yng Nghymru. Nid yw’n berffaith a byddaf yn parhau i ymgyrchu, mewn cydweithrediad â’r awdurdodau lleol, mudiadau defnyddwyr a’r gymuned fusnes, dros fuddsoddi. Bydd y cyhoedd a’r awdurdod yn hyderus y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru wireddu’r weledigaeth hon.