Jenny Randerson, Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg
Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i wneud y datganiad hwn ynghylch gwaith y mentrau iaith. Mae gwaith y mentrau iaith yn bwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg.
Os yw’r iaith Gymraeg i ffynnu fel iaith fyw yng Nghymru, nid mater yn unig ydyw o gynyddu’r nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Ni all iaith fyw oroesi yn yr hirdymor oni bai y caiff ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Mae llawer mwy o blant yn dysgu siarad Cymraeg yn rhugl o ganlyniad i addysg ffurfiol. Mae llawer wedi dysgu Cymraeg ac yn parhau i wneud hynny oherwydd bod angen y medr hwnnw arnynt yn eu bywyd proffesiynol. Croesewir y datblygiadau hyn, ond ni fyddant ynddynt eu hunain yn diogelu’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ni ddylid ei hystyried ar wahân. Rhaid i gyd-destunau cymdeithasol fodoli hefyd lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg. Yn hynny o beth, rhaid inni ddatblygu strategaeth gadarn er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg o fewn cymunedau. Mae’r patrwm presennol o ddefnyddio’r Gymraeg o fewn cymunedau yn gymhleth. Ceir darlun amrywiol, sy’n dibynnu nid gymaint ar niferoedd, ond ar nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn unrhyw ardal.
Ymysg y mentrau pwysicaf a ddatblygwyd yn ystod y 10 neu 12 mlynedd diwethaf o ran hybu defnyddio’r Gymraeg ar draws cymunedau yng Nghymru, yw’r cynlluniau mentrau iaith. Mentrau iaith sy’n seiliedig yn y gymuned yw’r rhain, sy’n ymgymryd â’r gwaith o hybu dwyieithrwydd o fewn cymunedau. Y llynedd oedd degfed pen blwydd y fenter iaith gyntaf—Menter Cwm Gwendraeth. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn dilyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd â’r ardal yn 1989. Amlygodd gyfleoedd i bobl ifanc ddathlu diwylliant Cymreig a gweithredodd fel catalydd, gan roi canolbwynt ar gyfer gwirfoddolwyr lleol i ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun ehangach. Daeth ag unigolion at ei gilydd er mwyn gweithio tuag at nod gyffredin, sef creu a chryfhau ysbryd gymunedol hanfodol a chydnabod y dylid cynnal a meithrin ysbryd o’r fath ar gyfer y dyfodol. Sefydlodd pobl Cwm Gwendraeth fenter iaith. Ei nod oedd hybu gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg—iaith naturiol fyw yr ardal. Cododd Menter Iaith Cwm Gwendraeth o lawr gwlad, lle gwelodd pobl leol bod angen ac aethant ati i’w ddiwallu o ran hybu Cymraeg o fewn eu cymunedau. Yn fuan, gwelodd pobl eraill mewn cymunedau yng Nghymru bod y fenter a sefydlwyd yng Nghwm Gwendraeth nid yn unig yn ddiddorol ond yn llwyddiannus hefyd. Tyfodd y galw am fentrau iaith yn ddramatig. Bellach mae 23 o fentrau iaith yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn seiliedig ar ardaloedd awdurdod lleol. O ganlyniad, gall y mentrau weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i hybu’r Gymraeg.
Sefydlwyd y rhan fwyaf o’r mentrau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a sefydlwyd y rhai diweddaraf yn Abertawe a Wrecsam yn ystod y chwe mis diwethaf. Mae’r 22 arall wedi ystyried yr egwyddorion sylfaenol a ddatblygwyd gan Fenter Cwm Gwendraeth, sef cyfranogiad y gymuned. Rhaid i bob menter, o fewn pob sir, weithio o fewn strwythur sy’n gweddu orau i anghenion lleol. Mae’r mentrau yn fudiadau sy’n meithrin a chefnogi yn hytrach na gorfodi. Gall y mentrau helpu i arwain pobl leol at gyfleoedd sy’n bodoli o fewn cymunedau i fanteisio i’r eithaf ar eu sgiliau ieithyddol. Ar y llaw arall, os bydd y mentrau yn nodi bwlch o ran darpariaeth ddwyieithog o fewn eu cymunedau, maent mewn sefyllfa dda i hwyluso’r broses o ddatblygu’r ddarpariaeth naill ai drwy gyfrwng eu menter eu hunain neu mewn partneriaeth ag eraill. Ceir enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth yng Nghaerdydd, lle bu Menter Caerdydd a’r Urdd yn llwyddiannus o ran sicrhau arian i benodi swyddog ieuenctid i weithio gyda disgyblion ysgolion uwchradd a darparu cyfleoedd cymdeithasol iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ystod 2000, comisiynodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg adolygiad annibynnol o waith y mentrau iaith. Pan gyflwynodd Iaith Cyf. adroddiad ar ei ganfyddiadau ar ddechrau 2001, yr oedd yn gallu dangos sawl enghraifft o arferion da o fewn y mentrau. Awgrymodd yr adroddiad hefyd nad oedd y mentrau yn cael digon o gymorth ariannol. Ymatebodd y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith i’r adroddiad hwn. Yn 1999-2000, derbyniodd y mentrau ychydig llai na £300,000 gan adnoddau’r Cynulliad. Mae’r ffigur bron yn £662,000 yn y flwyddyn ariannol hon. Ers cynhyrchu’r adroddiad, bu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gweithio gyda’r mentrau er mwyn ymdrin â’r argymhellion hynny y credid eu bod yn ymarferol i’w cyflwyno. Bellach caiff rhwydwaith y mentrau iaith eu cefnogi’n well, gydag aelod o staff penodedig ym mwrdd yr iaith. Yn ddiweddar yr oedd y Cynulliad yn gallu rhoi hwb pellach i arfer da yn y mentrau. Datblygodd y mentrau iaith yn y Gogledd becyn croeso, a ddosberthir gan gwmnïau gwerthu tai, ymysg eraill. Mae’r pecynnau hyn yn helpu pobl i ddeall yr ardal y maent yn symud iddi, gan gynnig gwybodaeth ar amwynderau lleol a chyfleoedd i ddod yn rhan o’r gymuned. Cytunodd y Gweinidog dros Gyllid a minnau y dylid ymestyn yr arfer da hwn, a dyrannwyd £10,000 ychwanegol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn ei alluogi i ddatblygu gwefan i’r diben hwn.
Agwedd hanfodol arall ar hybu’r iaith Gymraeg ar lefel bersonol a chymdeithasol yw’r pwyslais yr ydym bellach yn ei roi ar drosglwyddo iaith. Mae trosglwyddo iaith i’r genhedlaeth nesaf yn arwydd o barch tuag at yr iaith honno ac o ba mor bwysig ydyw i chi. Un o’r problemau mawr sy’n wynebu ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd yw’r ffaith nad yw rhieni yn eu trosglwyddo i’w plant. Mae hyn yn her. Ers tua pedair blynedd, bu Bwrdd yr Iaith yn dosbarthu taflenni ynghylch manteision dwyieithrwydd yn y pecynnau cymorth a ddosbarthir i’r 31,000 o famau sy’n rhoi genedigaeth yng Nghymru bob blwyddyn. Yn 1999-2000, cynhaliodd y bwrdd brosiect peilot yn Sir Gaerfyrddin, ar y cyd â bydwragedd, ymwelwyr iechyd a Menter Iaith Myrddin. Datblygodd y bwrdd ddeunyddiau i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i drafod dewis iaith yn y cartref gyda rhieni newydd. Gwerthuswyd y prosiect a barnwyd ei fod yn cael yr effaith a ddymunwyd. Fe’i hymestynnwyd i Sir Ddinbych a Chonwy yn ystod y flwyddyn ganlynol. Yn y flwyddyn ariannol hon a’r ddwy sydd i ddod, ymrwymodd y Cynulliad tua £500,000 i ymestyn y cynllun peilot hwn i bob rhan o Gymru. Gallaf yn hyderus ei alw yn gynllun sy’n torri tir newydd, gan nad oes, hyd yma, gynllun tebyg yn unman arall yn Ewrop. Mae cymunedau ieithoedd lleiafrifol eraill yn ein gwylio, ac maent yn barod i ddysgu o’n profiadau. Bellach ceir rhwydwaith o naw swyddog maes sy’n gweithio â bydwragedd ac ymwelwyr iechyd er mwyn rhannu gwybodaeth am fanteision dwyieithrwydd a ffyrdd o fagu plant yn ddwyieithog. Mae hyn yn cyflwyno’r iaith i galon bywyd cymunedol: y cartref. Mae’n atgyfnerthu gwaith y mentrau ac maent felly yn bartneriaid pwysig yn y prosiect. Mae’n rhy fuan sôn am ganlyniadau’r prosiect hwn ar hyd a lled Cymru. Fodd bynnag, os yw’n llwyddiannus, gall ddod yn fodel rhyngwladol.
Mae’r Cynulliad wedi addo yn gyson ein cefnogaeth i fentrau cymunedol megis y mentrau iaith a’r prosiect teuluoedd. Mae dyfodol yr iaith yn dibynnu ar ei goroesiad mewn cymunedau. Mae’n arwyddocaol mai’r gair Cymraeg am ddyn o Gymru yw Cymro, sy’n golygu rhywun o’r un gymuned. Rhaid inni adeiladu ar y teimlad hwn o gymuned er mwyn adeiladu Cymru ddwyieithog. Diolch yn fawr.