Skip to content

Datganiad Llafar ar Strategaeth Troseddwyr Ifanc

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Hutt
Yr wyf yn falch o gael y cyfle hwn i wneud datganiad ar waith y grwp strategaeth troseddwyr ifanc, a’r cyfrifoldebau y mae’n ymgymryd â hwy ar ran y Cynulliad hwn. Mae unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n mynd i helynt gyda’r gyfraith yn wynebu ac yn creu cyfres o anawsterau.

Er bod y rhan fwyaf o’r ymddygiad o’r math hwn yn gymharol ddibwys a byrhoedlog, caiff effaith uniongyrchol ar gymunedau lleol ac unigolion. Caiff effaith uniongyrchol ar fywydau’r plant eu hunain, ac ar eu teuluoedd. Fel y gwyr llawer ohonoch, mae’r mwyafrif helaeth o’r plant a’r bobl ifanc a ddaw i sylw’r heddlu yn dod o gefndiroedd lle y mae cynhwysion sylfaenol bywyd sy’n barchus o’r gyfraith—addysg neu swydd, cartref gweddus a rhywun i ymddiddori’n gadarnhaol ynoch fel unigolyn—ar goll.

Ceir budd dwbl o adfer y niwed a ddaw yn sgîl yr helynt: mae’n helpu i atal y niwed hwnnw rhag ymledu ymhellach ym mywydau’r plant ac, wrth wneud hynny, mae’n cynnig y strategaeth atal troseddu gryfaf sydd ar gael i ni. Mae’r plant a’r bobl ifanc hynny sy’n mynd ymlaen i droseddu pan ydynt mewn oed mewn perygl mawr o fod yn gysylltiedig â nifer gynyddol o droseddau, a throseddau mwyfwy difrifol. Mae beth bynnag y gallwn ei wneud yn y cyfnod hwn o’u bywydau yn fuddsoddiad ar ran y gymuned gyfan, ac yn niogelwch pob un ohonom yn y dyfodol.

Mae rôl bwysig i’r Swyddfa Gartref a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i Gymru a Lloegr yn yr ymdrech hon. Hwy sydd yn gyfrifol am yr holl ddeddfwriaeth, cyngor a chyfarwyddyd sy’n ymwneud â’r agweddau ar gyfiawnder troseddol yn y mater hwn. Fodd bynnag, mae gan y Cynulliad fuddiant hollbwysig hefyd o ran rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bobl ifanc, a sicrhau bod ganddynt gyfran gadarnhaol mewn cymdeithas. Dyna pam bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn y cyfnod cynnar hwn yn eu bywyd, yn ystyried hyn yn broblem sy’n ymwneud â phlant sydd wedi mynd i afael troseddu, yn hytrach nag un sy’n ymwneud â throseddwyr sy’n digwydd bod yn blant. Er nad yw cyfiawnder troseddol yn bwnc a ddatganolwyd i’r Cynulliad, mae lles cymdeithasol, iechyd, addysg, hyfforddiant ac adfywio cymunedol yn rhan o’n cyfrifoldebau, ac i’r cyfeiriad hwnnw y dylid cyfeirio ein hymdrechion.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno amrywiaeth drawiadol o fentrau newydd sydd â’r amcan o wella bywydau plant a phobl ifanc Cymru a sicrhau mynediad i amrediad o wasanaethau cyffredinol, Caiff gwasanaethau eu cynllunio’n well drwy sefydlu partneriaethau plant a phobl ifanc lleol. Mae’r Cynulliad wedi ymgynghori’n eang dros y 18 mis diwethaf ar ‘Ymestyn Hawliau: Cynorthwyo Pobl Ifanc yng Nghymru’, a ddaw i rym ym mis Medi eleni ac sydd wedi’i gynllunio i sicrhau y caiff pob person ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru yr hawl sylfaenol i dderbyn gwasanaethau ynghyd â chymorth, os oes angen, sy’n addas i’w hanghenion. Diwellir rhai anghenion arbenigol drwy’r strategaeth gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. O Ebrill 2003 ymlaen, cyflwynir Cymorth, cronfa gymorth unedig, i gyfuno rhaglenni presennol Cychwyn Cadarn, y gronfa partneriaeth plant a phobl ifanc, y strategaeth gofal plant genedlaethol, y fenter mynediad ieuenctid a’r grant chwarae.

Yr wyf wedi trafod yr angen am gyseiniant agosach rhwng y bwrdd cyfiawnder ieuenctid a mentrau Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r Arglwydd Warner, cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i Gymru a Lloegr. Er mwyn cyflawni hynny, yr ydym wedi cytuno ar y cyd i sefydlu grwp strategaeth troseddwyr ifanc i Gymru gyfan, a gyfarfu ar 9 Ionawr a 15 Mai eleni, ac sydd ag aelodaeth ar y cyd o uwch swyddogion y Cynulliad a’r bwrdd cyfiawnder ieuenctid, ynghyd â chynrychiolwyr prif swyddogion yr holl asiantaethau lleol perthnasol, y farnwriaeth, y gwasanaeth carchardai a’r sector gwirfoddol. Yr wyf yn ddiolchgar i bawb a gytunodd i wasanaethu ar y grwp strategaeth am eu cyfraniadau gwerthfawr. Mae cylch gorchwyl penodol gan y grwp Cymru gyfan hwn ac yr wyf yn ffyddiog y bydd y grwp yn gallu gwneud cynnydd cyflym ar gyflawni ei amcanion. Bydd yn cynghori’n bennaf ar ddatblygu strategaeth troseddwyr ifanc ddichonol i Gymru ac yn cynorthwyo ac yn goruchwylio yn y gwaith o’i gweithredu.

Nid yw’n syndod efallai fod y grwp eisoes wedi pwysleisio’r angen i’r strategaeth ymdrin â natur amrywiol ac anghenion cymhleth troseddwyr ifanc a’r rhai sydd mewn perygl o droseddu. Mae wedi tynnu sylw hefyd at y ffaith mai argaeledd gwasanaethau i bobl ifanc yw’r allwedd i unrhyw strategaeth sy’n debygol o lwyddo. Disgwyliaf y caiff y strategaeth ei chynhyrchu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae hwn yn faes hollbwysig, lle y bydd yn rhaid cael gweithio effeithiol ar y cyd o fewn y Cynulliad ac ymysg yr asiantaethau allanol. Bydd y grwp strategaeth yn gyfrwng gwerthfawr i hwyluso trafodaeth ar faterion sydd o ddiddordeb cyffredin i Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’r asiantaethau lleol. Mae’r rhan a gymerir gan y timau troseddu ieuenctid lleol a’r awdurdodau lleol sy’n eu cynorthwyo’n hollbwysig i lwyddiant y grwp a bydd yn parhau felly mewn unrhyw strategaeth sy’n deillio ohono.

Rhoddaf wybod i’r Aelodau am y cynnydd wrth i waith y grwp strategaeth ddatblygu. Mae cyfle gan y Cynulliad i ddylanwadu ar yr agenda i atal troseddu gan bobl ifanc yng Nghymru, gan wneud hynny mewn modd sy’n diogelu buddiannau’r cyhoedd yn gyffredinol ac yn arwain at ddyfodol mwy cynhyrchiol a buddiol i’r plant a’r bobl ifanc dan sylw. Yr wyf yn benderfynol y caiff y strategaeth effaith wirioneddol o ran cysylltu polisïau a hybu datblygiad dull trawsbynciol o weithredu ledled Cymru er lles pawb.