Skip to content

Datganiad ar Adolygiad o Leoliad Swyddfeydd y Cynulliad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau Edwina Hart
Fis Hydref diwethaf cyhoeddais y byddai’r adolygiad hwn o leoliad yn anelu at gynyddu cyfran staff y Cynulliad a leolir y tu allan i Gaerdydd, tra’n sicrhau y cyflwynir busnes y Cynulliad yn effeithiol ac effeithlon. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Cynulliad, wrth iddo ymgymryd â swyddogaethau newydd, wedi datblygu strwythur mwy amrywiol. Erbyn Ebrill eleni pan fydd wyth swyddfa ranbarthol a dwy swyddfa leol Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru yn agor, bydd mwy na 1,000 o staff Llywodraeth y Cynulliad wedi eu lleoli y tu allan i’r brifddinas. Mae hynny’n cymharu â ffigur o lai na 600 a etifeddwyd o’r Swyddfa Gymreig yn 1999.

Mae ond yn iawn y dylid lledaenu’r manteision uniongyrchol sy’n deillio o ledaenu swyddfeydd y Cynulliad o Gaerdydd i rannau eraill o Gymru. Gall y swyddi hyn gael effaith y tu hwnt i’r cyfrif cyflogeion syml, ac mae ardaloedd o Gymru lle mae’r angen am yr effaith economaidd gadarnhaol honno yn fwy o lawer nag yng Nghaerdydd. Yr ydym hefyd am i’n polisïau a wnaed yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru gyfan, nid mewn cornel ohoni yn unig. Darpara rhannau o’r Cynulliad wasanaethau i’r cyhoedd, i fusnesau ac i gyrff gwirfoddol a chyhoeddus eraill. Mae llawer o’n swyddogaethau cyflwyno gwasanaethau eisoes wedi eu lleoli y tu allan i Gaerdydd, ond mae posibiliadau o hyd i ddod â mwy o’r gwasanaethau hyn yn agosach at gwsmeriaid.

Wrth i’r adolygiad fynd rhagddo, rhoddwyd y cyfle i bob aelod o staff y Cynulliad gyfrannu ato, mewn cyfres o 14 o gyfarfodydd a gynhaliwyd ymhob un o’n prif swyddfeydd ledled Cymru. Mynychodd dros 400 o bobl y cyfarfodydd, a fu’n ffynhonnell gynhyrchiol o safbwyntiau a syniadau. Ysgrifennais at bob awdurdod lleol pan lansiwyd yr adolygiad fis Hydref diwethaf. Ymatebodd llawer yn gadarnhaol a chynhaliwyd cyfarfodydd dilynol gyda hwy eisoes neu trefnwyd iddynt gael eu cynnal. Bu llythyru hefyd gyda llawer o bobl eraill, ac mae mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon at brif weithredwyr pob awdurdod lleol yr wythnos hon. Cynhaliwyd trafodaethau gyda sawl adran o Lywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad.

Yr ydym yn annog cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad i adlewyrchu nod y Cabinet o ddatganoli mwy yn eu cynlluniau ar gyfer swyddfeydd. Yr ydym yn ceisio nodi sut y gallwn gydweithredu wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus gwell ymhob ardal o Gymru drwy ein trafodaethau parhaus â swyddfeydd Llywodraeth y DU yng Nghymru ac awdurdodau lleol.

Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen inni nodi union leoliadau, ond comisiynwyd chwiliad eiddo i nodi argaeledd swyddfeydd priodol neu gyfleoedd datblygu ledled Cymru. Yr arwyddion yw y bydd ystod dda o opsiynau ar gael i ni ymhob ardal.

Yr wyf yn hyderus y gall o leiaf 400 o’r swyddi a gyflawnir ar hyn o bryd yng Nghaerdydd gael eu hadleoli rywle arall o fewn y pum mlynedd nesaf. Disgwyliwn i bob ardal o Gymru elwa ar ein polisi datganoli. Disgwyliaf hefyd gymryd yn ganiataol y bydd yr holl waith newydd a ddaw i’r Cynulliad yn y dyfodol wedi ei leoli y tu allan i Gaerdydd, oni fydd rhesymau gweithredol clir fel arall. Dylai adleoli gwaith y tu allan i Gaerdydd arwain hefyd at gostau swyddfeydd is yn yr hirdymor. Mae rhenti swyddfeydd Caerdydd yn nodweddiadol yn hanner cymaint eto ag y maent mewn rhannau eraill o Gymru. Dros sawl blwyddyn, dylai’r cynilion hyn gronni i helpu i wrthbwyso costau unigol yr adleoliadau cychwynnol.

Efallai y teimla rhai fod targed o adleoli 400 swydd yn nifer rhy fach; bydd eraill efallai yn teimlo y bydd yn amharu gormod ar fusnes a staff y Cynulliad. Mae’n nod ymarferol a fydd yn caniatáu i’r newid angenrheidiol gael ei weithredu tra’n cynnal y gwaith o ddatblygu, gweithredu a chyflwyno ein polisïau a’n rhaglenni yn effeithiol. Drwy gynllunio gofalus, byddwn hefyd yn sicrhau bod symud staff a diswyddo staff yn orfodol yn cael ei gadw i’r isafswm, ac y gellir bodloni dymuniadau staff y Cynulliad lle bo hynny’n bosibl. Cynhelir yr adolygiad drwy ymgynghori â staff, gyda chysylltiad agos â’r undebau llafur drwy gydol y broses.

Mae rhai camau bach ond pwysig tuag at ddatganoli mwy eisoes ar waith. Yn fy maes cyfrifoldeb i, yr wyf yn falch o gyhoeddi cynlluniau i sefydlu tîm menter caffael newydd Cynulliad Cymru, sy’n golygu naw swydd, mewn lleoliad ger Abertawe. Byddwn hefyd yn sefydlu tri thîm rhanbarthol bach i weithredu rhaglen Rhoi Cymunedau’n Gyntaf. Lleolir y rhain yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a’r Cymoedd. Mae’r symudiadau cynnar hyn yn arwydd clir o fwriad y Cabinet i ddatganoli’r gwaith o weinyddu swyddogaethau’r Cynulliad mor gyflym â phosibl.

Nid diwedd y broses fydd y cynlluniau a ddaw i’r amlwg yn sgîl yr adolygiad hwn. Wrth inni barhau i ddatblygu ein defnydd o’r dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ddiweddaraf, bydd y posibiliadau ar gyfer mwy o hyblygrwydd o lawer mewn patrymau gwaith—gan gynnwys lle y gellir lleoli swyddi—yn cynyddu ymhellach.