Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes Jane Davidson
Hoffwn roi adroddiad ar yr hyn a gyflawnwyd yn sgîl yr ymrwymiad a wnaethpwyd yn ‘Y Wlad sy’n Dysgu’ i adolygu dysgu 14 i 19 yng Nghymru. Amlinellodd ‘Y Wlad sy’n Dysgu’ y materion pwysig i Gymru o ran datblygu darpariaeth briodol i’n holl bobl ifanc, yn enwedig rhwng 14 a 19 oed. Yn y ddogfen baratoadol hon ymgymerais i ymgynghori ar y datblygiadau hyn.
Nid agwedd gul at addysg sydd wrth wraidd datblygu llwybrau dysgu i rai 14 i 19 oed yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n ymwneud â chodi safonau i bob plentyn ysgol yng Nghymru—rhaid parhau i annog lefel cyrhaeddiad uchel Cymru mewn TGAU a lefel A. Fodd bynnag, mae a wnelo hefyd â chydbwysedd academaidd a galwedigaethol a chydraddoldeb parch, hyfforddiant, sgiliau, creadigrwydd, entrepreneuriaeth, a’r sgiliau personol a chymdeithasol sydd eu hangen ar ein pobl ifanc i roi’r hyder iddynt i fanteisio ar gyfleoedd a ffurfio’r dyfodol. Mae tîm polisi ieuenctid fy adran yn arwain y datblygiadau hyn, ochr yn ochr ag ‘Ymestyn Hawliau: Cefnogi Pobl Ifanc yng Nghymru’, er mwyn sicrhau bod holl agweddau’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn cyfrannu at yr agenda uchelgeisiol hon. Bydd y tîm polisi ieuenctid yn gweithio mewn partneriaeth gyda phawb sydd â diddordeb yn y ddarpariaeth i rai 14 i 19 mlwydd oed—oddi mewn ac oddi allan i’r Cynulliad—ac yn adrodd ar sut y gallem ddatblygu potensial ein holl bobl ifanc yn well, beth bynnag fo’u doniau a’u galluoedd.
Mae arnaf eisiau pwysleisio fod ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth yn ddidwyll. Wrth ddatblygu ein cynigion bwriadwn gynnwys yr amrediad ehangaf bosibl o bobl a chanddynt yr arbenigedd a’r profiad gorau yn y maes, sef y rheini sydd ar flaen y gad o ran cyflwyno’r ddarpariaeth: athrawon, darlithwyr, cynghorwyr gyrfaoedd, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr, y sector gwirfoddol, a’r sefydliadau a’r asiantaethau sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno. Mae arnom eisiau cynnwys hefyd y rheini sydd â’r profiad gorau o dderbyn y ddarpariaeth hon. Mae gan bobl ifanc sydd yn y system gyfraniad gwerthfawr i’w wneud at ffurfio datblygiadau’r dyfodol. Mae arnaf eisiau i’r dyfnder ymwneud hwnnw fod yn nodwedd wrth lunio’r argymhellion. Bydd angen sicrhau eu bod yn adeiladu ar yr arferion gorau yng Nghymru, a’u bod yn wir yn ateb anghenion unigolion a’r wlad gyfan.
Mae llawer y gallwn ymfalchïo ynddo yng Nghymru. Yr ydym wedi arloesi gydag amrediad o bolisïau a fydd yn ein helpu i fynd â’r datblygiadau hyn yn eu blaenau, gan gynnwys Credis, y fagloriaeth Gymreig, ‘Ymestyn Hawliau: Cefnogi Pobl Ifanc yng Nghymru’, a’n strategaeth sgiliau sylfaenol i bob oed.
Mae angen inni ganolbwyntio’n awr ar faterion ymarferol: pecynnau dysgu wedi’u teilwra’n bersonol; profiadau dysgu y tu allan i’r ysgol sy’n ategu dysgu yn yr ysgol; a oes angen datgymhwyso agweddau ar y cwricwlwm cenedlaethol yn fwy eang, a beth y gallai pobl ifanc ei wneud yn eu lle; beth y dylai’r hawl sylfaenol i bobl ifanc ymdebygu iddo, ac a ddylai fod yn gysylltiedig ag oedran ynteu ymwneud â chyrraedd safon arbennig; sut y gallwn helpu pobl ifanc ddysgu sut i ddysgu, a dal ati i ddysgu; cynyddu statws ac ansawdd llwybrau galwedigaethol; gwell partneriaeth a chydlyniad rhwng gwahanol ddarparwyr addysg fel y gall dysgwyr gael mynediad at yr addysg, yr adnoddau a’r offer priodol mewn amgylchedd lle gallant flodeuo. Mae llawer rhagor hefyd.
Un o amcanion hanfodol ein datblygiadau 14 i 19 fydd ymladd yn erbyn ymddieithrio. Bydd y ddarpariaeth iawn, ynghyd â systemau cefnogi da, yn cadw pobl ifanc yn brysur ac yn eu cadw rhag disgyn allan. Mae gwersi i’w dysgu oddi wrth fentrau sy’n bodoli, gan gynnwys adroddiad Estyn ar y fenter mynediad ieuenctid, gyda chydgysylltwyr penodedig, cydweithio effeithiol rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach, systemau cyfeirio da, mentora, cwnsela a chymorth priodol arall i bobl ifanc, a monitro’u hynt.
Mae gwaith arloesol yn digwydd hefyd wrth ddatblygu’r Porth Ieuenctid a’r Fargen Newydd. Rhaid inni brif-ffrydio arferion gorau o ran sicrhau cyfranogiad y rheini sy’n teimlo fod ysgol yn fygythiad, ond chwilio hefyd am gyfleoedd i gymhwyso’r arferion newydd llwyddiannus i ddarpariaeth i eraill o fewn y system ysgol nad ydynt efallai yn cyrraedd eu llawn botensial.
Gallwn ddysgu hefyd oddi wrth rai o’n cymdogion Ewropeaidd. Mae Denmarc, er enghraifft, wedi cael llwyddiant mawr yn cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan adeiladol mewn addysg neu hyfforddiant hyd at 19 oed, ac yn lefel a nifer y cymwysterau a enillir. Mae hefyd wedi symud ymlaen yn arwyddocaol o ran sefydlu cydraddoldeb parch i lwybrau academaidd a galwedigaethol. Dyna’r her.
Mae llawer o’r cyrff perthnasol eisoes wedi enwebu cynrychiolwyr i weithio gyda fy swyddogion yn yr Adran Addysg a Hyfforddiant, fel rhan o dîm prosiect a grwp cyfeirio a fydd yn darparu’r peirianwaith ar gyfer ymgynghori rhagarweiniol helaeth gyda phawb sydd eisiau cyfrannu. Mae’r cynrychiolwyr yn cynnwys ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, cyrff gyrfaoedd, darparwyr hyfforddiant, Dysgu ac Addysgu Cymru, Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, Estyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Partneriaeth Addysg Busnes, gwaith ieuenctid a’r sector gwirfoddol.
Gobeithiaf y bydd trafod helaeth ym mhob sector, y gellir ei fwydo i mewn i ddatblygiad ar gyfer y rheini yn yr ystod oedran 14 i 19. Rhaid inni wneud cynigion pendant ar yr hyn sy’n gweithio orau i bobl ifanc a beth y mae’n rhaid inni ei wneud i ddarparu’r cyfleoedd gorau i bawb. Hoffwn i bawb sydd eisiau cael dweud eu dweud fynegi eu barn rhwng yn awr a mis Awst. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu argymhellion a gyhoeddir ar gyfer ymgynghori ffurfiol ddiwedd mis Hydref, pryd y ceir amser i roi sylwadau ar y cynigion yn gyffredinol. Wedyn gallwn ddatblygu cynllun gweithredu i’w roi ar waith erbyn Ebrill 2003, a fydd yn seiliedig ar yr ymarfer partneriaeth sylweddol hwn. Mae arnaf eisiau mynd fesul cam i gyflwyno’r argymhellion hynny a dderbynnir. Bydd manylion am y broses ymgynghori, a’r gwaith sy’n mynd rhagddo, yn ymddangos cyn hir ar safleoedd mewnrwyd a rhyngrwyd y Cynulliad. Anogaf bawb sy’n gallu gwneud cyfraniad i wneud hynny. Ein lle ni yw ffurfio’r dyfodol, i sicrhau cyfnod 14 i 19 unigryw, arloesol a chynhwysol yng nghyd-destun dysgu gydol oes yng Nghymru.