Skip to content

Datganiad ar Gynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jenny Randerson, Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg
Yr wyf yn falch o gadarnhau bod y cynllun iaith Gymraeg ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i gymeradwyo’n unfrydol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yng nghyfarfod agored ei fwrdd ar 4 Hydref 2002. Efallai fod angen imi bwysleisio’r geiriau ‘ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru’, oherwydd nid yw’r cynllun hwn yn ymdrin â’r swyddogaethau a gyflawnir gan Swyddfa’r Llywydd, ac nid yw’n cynnwys Aelodau unigol y Cynulliad ychwaith. Paratowyd y cynllun yn unol ag adran 21 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae cyfrifoldebau’r Cynulliad dan yr adran honno wedi’u dirprwyo i mi fel y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg. Paratois y cynllun gyda chydsyniad fy nghyd-aelodau yn y Cabinet.

Ymgynghorodd Llywodraeth y Cynulliad yn eang ar fersiwn drafft o’r cynllun rhwng 13 Mai a 5 Gorffennaf eleni. Gwnaethom ystyried y sylwadau a ddaeth i law yn ofalus a newid y cynllun yn unol â hynny. Yr wyf yn falch o ddweud mai sylwadau cefnogol a gafwyd yn bennaf. Yna, cyflwynwyd fersiwn terfynol y cynllun, ynghyd ag adroddiad ar yr ymgynghoriad, i Fwrdd yr Iaith Gymraeg i’w gymeradwyo. Fel y dywedais, cymeradwyodd y bwrdd y cynllun ar 4 Hydref. Mae’r cynllun a’r adroddiad ar gael ar wefan y Cynulliad.

Mae’r cynllun newydd yn disodli cynllun y gyn Swyddfa Gymreig, a etifeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac a weithredwyd hyd yma. Dewisodd Llywodraeth y Cynulliad gynhyrchu cynllun newydd i ddangos ei hymrwymiad i’r Gymraeg ac i ddangos yn eglur i’n cwsmeriaid Cymraeg y lefel o wasanaeth y gallant ei ddisgwyl gennym. Mae’r cynllun yn seiliedig ar yr egwyddor a geir yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Deddf Llywodraeth Cymru 1998 y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi’r egwyddor honno ar waith ym mhob dim a wnaiff sy’n berthnasol i bobl Cymru.

Mae tair elfen wahanol i’r cynllun. Yn gyntaf, mae’n nodi’r gwasanaethau yn Gymraeg y gall eraill eu disgwyl wrth ymwneud â Llywodraeth y Cynulliad. Mae hyn yn ymdrin â phob math o gysylltiad â ni. Gallai fod yn gysylltiad uniongyrchol, er enghraifft, drwy lythyr, dros y teleffon neu’n bersonol, neu gallai fod yn gysylltiad anuniongyrchol drwy weld ein harwyddion a’n hysbysebion neu dderbyn ein cynhyrchion a’n deunyddiau. Yn ail, mae ymrwymiad ar ran Llywodraeth y Cynulliad i arfer ei rôl strategol a dylanwadu mewn modd sy’n llwyr adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru. Gan hynny, bydd y Llywodraeth a’i staff yn rhoi pwys dyladwy ar ystyriaethau sy’n ymwneud â’r Gymraeg ym mhob maes polisi. Mae hynny’n cynnwys y cyngor a roddwn i eraill, amodau cyllido, a goruchwylio a gwerthuso gwasanaethau a ddarperir gan eraill. Mae’r elfen hon o’r cynllun yn ychwanegiad allweddol o’i gymharu â chynllun blaenorol y Swyddfa Gymreig ac mae’n dangos penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i roi materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn y brif ffrwd. Yn drydydd, mae’r cynllun yn cynnwys mesurau gweinyddol i hwyluso cydymffurfiad â’r cynllun, gan fod y Llywodraeth yn cydnabod bod angen trefniadau cadarn i sicrhau y caiff ei weithredu a’i adolygu’n llwyddiannus. Mae hyn yn ymwneud â materion fel staffio, hyfforddi, darparu canllawiau a briffiadau ar gyfer staff Llywodraeth y Cynulliad, monitro ac adrodd.

Mae’r cynllun newydd yn un cynhwysfawr ac ymestynnol. Mae’n adlewyrchu rôl ac amgylchiadau penodol Llywodraeth y Cynulliad ac mae’n cynnwys amcanion pell-gyrhaeddol. Peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny’n unig—ategir y farn honno gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a ddywedodd:
Mae’n gynllun trylwyr, a fydd … yn creu agenda gadarnhaol ym mhob maes gwasanaeth yng Nghymru, ac yn y Cynulliad ei hun.

Dywedodd y bwrdd hefyd fod y cynllun,

yn gatalydd pwysig yn y gwaith o hybu agenda’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.

Yn ogystal â bod yn brawf ymarferol o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i’r Gymraeg, mae’r cynllun yn cyfrannu hefyd at ddyheadau polisi mwy cyffredinol y Cynulliad ar gyfer y Gymraeg. Mae’r cynllun yn adlewyrchu bwriad Llywodraeth y Cynulliad i greu’r amodau priodol i’r Gymraeg gael tyfu a ffynnu. Ar y pwynt hwnnw, cyn hir byddaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Gymraeg. Bydd y cynllun gweithredu’n strategaeth gynhwysfawr i’r iaith ac yn cynnwys cymysgedd o bolisïau sydd â’r bwriad o gynnal yr iaith ar draws amrediad portffolios Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad. Bydd y cynllun gweithredu’n cynnwys mesurau pendant i gefnogi’r iaith, a gysylltir â dyraniadau cyllideb.

Er bod y cynllun a’r cynllun gweithredu’n endidau ar wahân, mae llawer iawn o dir cyffredin rhwng y ddau. Mae hynny’n arbennig o wir yng nghyd-destun rhoi’r iaith yn y brif ffrwd a sicrhau bod yr holl feysydd polisi’n ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros ei lles. Yr oedd gweithredu yn y brif ffrwd yn thema bwysig yn adolygiad polisi’r Pwyllgor Diwylliant o’r Gymraeg. Bydd y cynllun yn gyfraniad pwysig hefyd i elfennau yn y cynllun gweithredu drwy sicrhau cyfleoedd i’r cyhoedd ddefnyddio’r iaith.