Skip to content

Datganiad Llafar ar Gydraddoldeb Hiliol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau Edwina Hart
Er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 a’r cyfarwyddyd statudol, yr ydym yn cyhoeddi ein cynllun cydraddoldeb hiliol cyntaf heddiw, cyn y dyddiad cwblhau ar 31 Mai. Yr ydym wedi trefnu dadl lawn ar y cynllun mewn Cyfarfod Llawn y mis nesaf. Ni allem ddarparu dadl lawn ar y mater hwn yn y Pwyllgor Cyfle Cyfartal neu’r Cyfarfod Llawn cyn cyhoeddi heb beryglu cydymffurfiad â’r dyddiad cwblhau. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Pwyllgor yn benodol am gydnabod y pwysau. Gobeithiaf y bydd y mesurau a roesom ar waith, yn enwedig yr ymrwymiad i adolygu’r cynllun o fewn 12 mis, yn cyfrannu rywfaint at sicrhau y caiff y cynllun ei drafod a’i wella drwy broses lawn a buan.

Mae’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 yn ddeddf arloesol ac ymestynnol sydd, am y tro cyntaf, yn rhoi dyletswydd gadarnhaol ar awdurdodau cyhoeddus i hybu cydraddoldeb hiliol. Mae’r cynllun yn nodi sut y bwriadwn gyflawni ein dyletswyddau dan y Ddeddf, a wnawn fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i hybu cyfle cyfartal i bawb.

Mae’r cynllun wedi’i ddrafftio yng ngoleuni’r cod ymarfer drafft oddi wrth y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, sy’n debygol o gwblhau’i daith drwy’r holl weithdrefnau seneddol angenrheidiol yr wythnos hon fel y caiff rym statudol. Rhaid i’n cynllun ddangos sut y byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol ac yn cyflawni llawer o ddyletswyddau penodol o ran ein swyddogaethau. Trafodaf yn fanwl y modd y bwriadwn ymdrin â’r rhain yn ddiweddarach yn y datganiad.

Mae cynhyrchu cynllun ar gyfer y Cynulliad yn ymgymeriad cymhleth am fod amrediad a nifer ein swyddogaethau’n eang o’u cymharu â’r rhan fwyaf o adrannau llywodraeth. Ar sawl cyfrif, mae ein sefyllfa’n unigryw. Yr ydym yn ymwneud â nifer fawr o feysydd polisi, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o weithgareddau o ddatblygu polisi ac ariannu i ddeddfu a rheoleiddio. Yn ogystal â hynny, yn wahanol i’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, yr ydym yn cwmpasu Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynnal busnes y Cynulliad. Mae’r Llywydd, yn briodol, wedi llofnodi rhagair y cynllun, yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru. Yr wyf yn ddiolchgar iddo am ei gefnogaeth.

Mae’r cynllun yn adeiladu ar sail yr amrediad eang o fentrau cyfle cyfartal, a gyflwynwyd gyda chymorth y Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Mae hyn wedi rhoi sylfaen dda i ni, ond nid ydyw ond yn fan cychwyn. Mae’r cynllun yn ddogfen sy’n byw ac yn datblygu y bydd angen ei mireinio a’i chryfhau. Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn ymgynghori’n llawn â’r cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig ac yn parhau â’r trafodaethau â’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal ynghylch y modd y gallwn wella’r cynllun. Fe’i trosir i ieithoedd eraill a byddwn yn gwneud pob defnydd o’n partneriaid fel Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru-gyfan, y Cynghorau Cydraddoldeb Hiliol a’r Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Du i sicrhau proses ymgynghori effeithiol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol wedi rhoi cyngor ac anogaeth werthfawr i ni ac yr ydym yn ddiolchgar am hynny. Mae’r comisiwn wedi tynnu sylw at lawer o feysydd lle’r oedd angen cryfhau testun y cynllun, a welwyd gan y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yr wythnos diwethaf. Gyda’i gymorth ef, yr ydym wedi gwella’r cynnwys yn sylweddol. Bydd yr Aelodau wedi gweld y llythyr a gylchredwyd gan y comisiwn ddoe lle y mae’n datgan ei hyder y bydd y cynllun yn llwyddo i roi cysylltiadau hiliol da ar ganol gwaith y Cynulliad.

Gwnaf sylw’n fyr ar bob cwestiwn y mae’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol wedi ein hatgoffa’n briodol, yn ei lythyr, y dylai ein cynllun ni, fel pob cynllun, ymdrin ag ef dan y cod. Mae adrannau 3.2 a 3.3 o’r cynllun yn ymdrin â’r modd y bydd y Cynulliad yn penderfynu pa rai o’i swyddogaethau a’i bolisïau sy’n berthnasol i’r ddyletswydd gyffredinol ac i’n bwriad i ymgynghori’n llawn. Byddwn yn cynnal rhaglen asesu helaeth i’w chwblhau erbyn Ebrill 2003.

Mae adrannau 3.4 a 3.7 ac atodiad 2 i’r cynllun yn ymdrin â’r modd y bydd y Cynulliad yn asesu ac yn monitro’i swyddogaethau a’i bolisïau, gan ddefnyddio’i archwiliad cydraddoldeb, ei offeryn polisi integredig a’i weithdrefn werthuso. Rhaid inni hefyd wella ein sylfaen ymchwil a gwybodaeth a byddwn yn cynhyrchu cynllun gweithredu’n unol â hynny. Mae’r adroddiad diweddar gan ein cyfarwyddiaeth ystadegol, ‘Equality of Opportunity—A Guide to Data Sources’ yn gam cyntaf gwerthfawr.

Mae adran 3.6 y cynllun yn nodi sut y byddwn yn ymdrin â thystiolaeth nad yw ein polisïau a’n swyddogaethau’n gyson â’r ddyletswydd gyffredinol. Yr ydym wedi ymrwymo i gymryd camau lle y darganfyddir effaith niweidiol. Mae adran 3.5 o’r cynllun yn ymdrin â’r modd y byddwn yn ymgynghori â lleiafrifoedd ethnig ac yn eu cynnwys. Mae gan y Cynulliad brosesau ymgynghori datblygedig a’n nod wrth ariannu Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru-gyfan yw hwyluso ein hymgynghori â chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig. Mae adran 5.1 yn nodi sut y byddwn yn trafod cwynion.

Mae adran 3.8 yn ymdrin â’r modd y byddwn yn cyhoeddi canlyniadau a rôl bwysig iawn yr adroddiad blynyddol ar gyfle cyfartal, tra bo adran 3.9 yn trafod mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, gan gynnwys rôl yr archwiliadau cydraddoldeb, ymrwymiad i adolygu rheolaidd gan yr Uned Polisi Cydraddoldeb ac ymgynghori â chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.
Section 4.6 and annex 3 of the scheme address the important issues of

Mae adran 4.6 ac atodiad 3 i’r cynllun yn ymdrin â’r materion pwysig ynghylch hyfforddi a sefydlu staff, yr hyfforddiant rhaglen ymwybyddiaeth sydd ar waith ar hyn o bryd a datblygu pecynnau hyfforddi ar y ddyletswydd gyffredinol.

Fel y dywedais ar ddechrau’r datganiad, byddwn yn adolygu’r cynllun o fewn 12 mis ac yr wyf am i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal chwarae rhan allweddol yn yr adolygiad hwnnw. Yn ogystal â hynny, bydd o ddiddordeb i’r Aelodau fy mod wedi cwrdd â chyfarwyddwr gweithredol y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru y bore yma i ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen â’r materion hyn. Yr wyf yn falch o hysbysu’r Aelodau y byddaf yn cwrdd â Gurbux Singh a chynrychiolwyr y pleidiau eraill y prynhawn yma er mwyn parhau â’r trafodaethau ar y mater hwn.

Mae’r cynllun yn nodi rhaglen waith sylweddol ar gyfer y 12 mis nesaf. Yr ydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r cynllun hwn a’i wella er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb hiliol ar ganol ein gwaith a’n bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at gymdeithas oddefgar lle y perchir amrywiaeth. Yr wyf yn sicr y bydd yr holl Aelodau’n ymuno â mi i groesawu hyn.